Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol: Adroddiad newydd yn dadansoddi digartrefedd ymysg pobl ifanc

21 Oct 2018

Post gan Alex Osmond, Cydlynydd Ymchwil 

‘Dydw i ddim eisiau cael fy ngadael ar ôl, meddai un gŵr ifanc. Dywedodd Lacey, sy’n 22 oed, ei bod ‘eisiau lle y gall ei alw’n gartref’. Dywedodd un o’n cleientiaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn syml iawn ‘y byddai’n well ganddo beidio â bod yma’ na bod yn ddigartref eto. Datganiadau bregus, cignoeth a dynol, fel y rhain, a glywyd yn ystod sgyrsiau gyda phobl oedd wedi profi neu yn profi digartrefedd, wrth iddynt siarad am ddigwyddiadau trawmatig oedd wedi digwydd yn gynharach yn eu bywydau.

Rydym wedi cyhoeddi ymchwil sy’n pwysleisio mor bwerus a phwysig yw digwyddiadau fel y rhain i’r trywydd y mae bywyd rhywun yn ei ddilyn yn ddiweddarach.  Weithiau os nad yw unigolyn yn derbyn y cymorth priodol, gall profiadau trawmatig ar un adeg arwain at fwy o brofiadau trawmatig yn ddiweddarach, gan ddechrau cylch sy’n gallu gorfodi rhywun i fod mewn sefyllfa gymhleth.

Paratowyd adroddiad Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol (Ddim ar gael yn Gymraeg) gan Nia Rees drwy Gymru am gyfnod o flwyddyn. Siaradodd Nia gyda phobl ifanc rhwng 16 a 25 oed oedd wedi profi neu yn profi digartrefedd, yn ogystal â gydag aelodau o staff mewn gwahanol sefydliadau sy’n cefnogi neu’n gweithio gyda’r bobl ifanc hyn. Y nod oedd ymchwilio i rai o’r rhesymau yr oedd pobl yn eu priodoli i’w digartrefedd. Mae digartrefedd wrth gwrs, yn fater cymhleth sy’n gallu deillio o amryw o resymau.

LLEISIAU GWIRIONEDDOL, TRAWMA GWIRIONEDDOL  

Rydym wedi paratoi adroddiad cryno o Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol sy’n tanlinellu’r prif ganfyddiadau, byddwn yn tynnu sylw at rai ohonynt yma. Cynhaliwyd cyfweliadau manwl gyda 30 o bobl rhwng 16 a 25 oed ac mae rhaniad cyfartal rhwng y ddau ryw.

Roedd hanner y grŵp wedi’u diagnosio â phroblemau iechyd meddwl. Roedd y problemau hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu, i anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhwylderau bwyta, iselder ac anhwylderau personoliaeth. Roeddwn wedi amau y byddai’r nifer hwn yn uchel, ond cefais fy synnu fod un o bob dau o bobl  yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl difrifol.

Dim ond 7% o’r grŵp a ddywedodd mai cyffuriau neu alcohol oedd y prif ffactor a arweiniodd at fod yn ddigartref, tra bod 80% wedi dweud y byddai gweithgareddau o’r fath yn datblygu’n nodwedd o’u digartrefedd. Mae’r camsyniad cyffredin hwn fod problemau’n deillio o ddigartrefedd yn  rhywbeth yr ydym wedi cyfeirio ato o’r blaen. Mae rhai pobl ddigartref yn troi at gyffuriau fel ffordd o hunanfeddyginaethu ar ôl i bopeth arall fethu. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos cyffuriau caled.

Daeth bron i hanner y grŵp yn ddigartref yn rhannol oherwydd bod perthynas wedi chwalu o fewn y teulu – yn aml roedd gwrthdaro rhwng y person ifanc a’i rieni.  

Dywedodd 17% o’r bobl ifanc fod marwolaeth aelod agos o’r teulu wedi effeithio cymaint arnynt nes iddo ddod yn ffactor allweddol o’u digartrefedd. Mewn rhai achosion, roedd rhiant wedi marw, a hynny wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y rhiant arall. Achosodd hyn i weddill y teulu ddioddef a chwalu. 

Yn olaf – a doeddwn i ddim yn disgwyl hyn – dywedodd bron i un o bob pedwar o’r grŵp eu bod wedi cael profiad o drais, camdriniaeth neu gam-drin rhywiol ar aelwyd y teulu, weithiau gan aelod o’r teulu, weithiau gan gyfaill i’r teulu.

Nid ydym yn awgrymu bod cael profiad o unrhyw un o’r digwyddiadau trawmatig uchod yn arwain yn awtomatig at fod yn ddigartref ar ryw bwynt. Yr hyn sy’n bwysig ei ddysgu, yw cydnabod bod digwyddiadau fel y rhain yn gallu effeithio ar unigolyn i’r fath raddau nes ei fod yn fwy tebygol y gallai mwy o drawma ddigwydd ymhellach ymlaen

PROSIECT POBL IFANC PEN-Y-BONT AR OGWR THE WALLICH 

I atgyfnerthu gwaith Nia a chael gwell syniad o sut mae ein cleientiaid yn teimlo am rai o’r materion hyn, cynhaliwyd ymchwil llai ond gwerthfawr yn ein Prosiect Pobl Ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr . Gofynnwyd cyfres o gwestiynau syml i staff a chleientiaid ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl, defnyddio cyffuriau a digwyddiadau trawmatig, yn ogystal â’r rôl y gallant ei chwarae yn eu bywydau’n ddiweddarach. Mae’r canlyniadau’n cyd-fynd â’r hyn a ganfuwyd fel rhan o brosiect Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol.

Roedd cleientiaid a staff yn cytuno bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin yn y grŵp hwn. Yn wir, eglurodd y bobl ifanc a gafodd eu cyfweld eu bod yn ystyried bod ganddynt o leiaf un broblem iechyd meddwl, a’u bod yn credu bod hynny’n wir hefyd am eu cyfoedion. Roedd pobl hefyd yn cytuno bod digwyddiadau trawmatig yn gynharach mewn bywyd yn chwarae rhan bwerus gan ddylanwadu ar drywydd bywyd yn ddiweddarach. Roedd pawb hefyd yn credu bod dysgu sut i reoli tenantiaeth yn bwysig dros ben.

Er bod staff The Wallich yn y prosiect yn dweud bod cyffuriau ac alcohol yn eithaf cyffredin ymysg eu cleientiaid, awgrymodd un person nad oedd yn fwy cyffredin nag ymysg pobl ifanc yn gyffredinol. Mae gwaith arall yr ydym wedi’i wneud yn ddiweddar hefyd yn awgrymu bod cyffuriau ac alcohol yn llawer mwy cyffredin na chyffuriau caled i’r bobl ifanc hyn. Mae’n ymddangos bod hyn yn cyd-fynd â chanfyddiadau Nia: fod defnyddio cyffuriau caled yn benodol yn brin nes bod rhywun yng nghanol cymhlethdod digartrefedd.

BETH NESAF? 

Mae adroddiad Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol  yn cynnwys nifer o argymhellion. Rydym yn hapus o ddweud wrth ein darllenwyr bod y rhan fwyaf ohonynt eisoes yn rhan o’n gwaith. Mae gan ein staff ddealltwriaeth fanwl o Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACEs) a sut y gallant effeithio ar fywyd rhywun; maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i lywio eu  gwaith wrth gynorthwyo pobl fregus ar y strydoedd.

Hefyd, mae The Wallich yn cyflwyno’r dull PIE arloesol ar draws bob prosiect. Ystyr PIE yw Amgylchedd sy’n Seiliedig ar Anghenion Seicolegol ac mae’n cyfeirio at gynorthwyo unigolyn gydag ymwybyddiaeth o’u cyd-destun seicolegol. Yn ymarferol, gall hyn olygu amryw o bethau: rhoi mwy o reolaeth i gleient o ran addurno ei (h)ystafell wely, darparu sesiynau seicotherapi, a threfnu gweithgareddau y mae cleientiaid yn debygol o gymryd rhan ynddynt – i enwi dim ond rhai.  

Rydym eisoes wedi clywed am bwysigrwydd cyrsiau cynnal tenantiaeth, a pham ei fod yn hollbwysig i bobl ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw mewn eiddo yn y tymor hir; yn The Wallich, mae hyn yn cael ei gynnig fel rhan o’r cymorth a roddir i’n cleientiaid.  

Mae gennym ffydd yn ein cleientiaid ac rydym yn cydnabod yr anawsterau y maent wedi eu profi yn y gorffennol. Mae Nadia, sy’n 17 oed, yn pwysleisio pwysigrwydd y dull hwn, wrth siarad am ei chymorth trwy ddweud ‘maen nhw eisiau i mi wneud yn dda.’

Dyma gyngor un aelod o staff o Ben-y-bont ar Ogwr, nid yn unig i’n cleientiaid ond i unrhyw un sy’n profi digartrefedd: ‘peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to!’ 

Yn sicr nid yw The Wallich yn bwriadu rhoi’r ffidil yn y to. Os yw ein cleientiaid, hen neu ifanc, yn ymdrechu i geisio ailadeiladu eu bywydau ar ôl wynebu’r trawma a danlinellwyd gan yr ymchwil pwysig hwn, byddwn yn dal i weithio gyda nhw.

Cliciwch yma i ddarllen mwy o flogiau am faterion llosg y dydd gan dîm Materion Cyhoeddus a Pholisi The Wallich.