Canllawiau Cymunedol The Wallich
Sut mae The Wallich yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol
Mae The Wallich yn defnyddio amrywiaeth o sianeli cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth am ddigartrefedd a materion sy’n ymwneud â digartrefedd, sy’n cynnwys iechyd meddwl, tai, cyflogaeth, cyfiawnder troseddol ac ati.
Hefyd, rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cefnogwyr am ein gwaith, gan gynnwys gwasanaethau, polisïau ac ymgyrchoedd arloesol, y newyddion diweddaraf a chyfleoedd i gymryd rhan.
Mae modd defnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd er mwyn i bobl rannu eu profiad o’n gwasanaethau, ar ôl rhoi cydsyniad.
Yn The Wallich, rydym yn defnyddio Facebook, Instagram, Twitter, LinkedIn a YouTube. Mae’r sianeli hyn yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa fawr sydd â phrofiadau amrywiol o ddigartrefedd.
Gallwch weld y tudalennau drwy glicio’r dolenni isod:
Facebook | Twitter | Instagram | LinkedIn | YouTube
Canllawiau cymunedol
Mae’n bwysig i ni yn The Wallich bod ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn lle diogel i sgwrsio.
Rydym yn disgwyl i bawb sy’n ymgysylltu â The Wallich neu sy’n cael eu cyflogi ganddynt i ddilyn ein canllawiau cymunedol wrth ryngweithio â’n sianeli cyfryngau cymdeithasol:
- Rydym yn croesawu trafodaeth a barn, ond ein cylch gwaith yw sefyll dros hawliau pobl sydd ag unrhyw fath o brofiad o ddigartrefedd. Felly, efallai y byddwn yn dileu cynnwys sy’n ceisio gwadu hawliau unigolyn, yn ogystal â chynnwys arall nad yw’n ymwneud â’r pwnc.
- Parchwch farn a phrofiadau personol pobl eraill.
- Cadwch wybodaeth gyswllt breifat, fel rhifau ffôn a chyfeiriadau, allan o’ch postiadau.
- Defnyddiwch iaith gwrtais a pharchus wrth siarad am unigolion, grwpiau neu sefydliadau.
- Ni fyddwn yn goddef iaith ddifrïol, iaith casineb nac ymosodiadau personol, nac ychwaith ddelweddau, fideos neu ddolenni gofidus.
- Peidiwch â phostio cynnwys sy’n gwahaniaethu, yn anweddus, yn ymfflamychol, yn aflonyddu, yn gas, yn fygythiol, yn dramgwyddus neu’n sarhaus yn bersonol.
- Peidiwch â phostio unrhyw beth a allai achosi tramgwydd ar sail nodwedd warchodedig unigolyn – er enghraifft, rhyw, hil, crefydd neu gred, tarddiad ethnig neu genedlaethol, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, statws priodasol, statws gweithio neu anabledd.
- Peidiwch â phostio unrhyw beth a allai fod yn enllibus neu’n ddifrïol. Os gwneir cyhuddiad yn erbyn person a enwir, er enghraifft aelod o staff mewn prosiect, bydd y sylw’n cael ei guddio. Anfonwch e-bost at communications@thewallich.net os hoffech drafod digwyddiad gydag unigolyn a enwir neu i wneud cwyn ffurfiol.
Mae canllawiau cymunedol The Wallich yn berthnasol i sylwadau a negeseuon uniongyrchol.
Sut rydym yn gorfodi canllawiau cymunedol – Sylwadau
Pan fo’n bosibl, rydym yn defnyddio hidlyddion awtomatig i hwyluso’r broses o gymeradwyo sylwadau.
Mae sylwadau ar Facebook, er enghraifft, wedi’u cuddio’n gyffredinol nes iddynt gael eu cymeradwyo. Pwrpas hyn yw cynnal ein canllawiau cymunedol ac amddiffyn ein staff, y bobl rydym yn eu cefnogi a’n cynulleidfa ehangach.
Gall sylwadau cudd fod yn weladwy i’r unigolyn o hyd, ond ni fyddant yn weladwy i rai eraill sy’n defnyddio’r wefan.
Bydd The Wallich yn defnyddio ei ddisgresiwn ei hun i benderfynu a yw postiadau i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn groes i’n canllawiau.
Rydym yn cadw’r hawl i guddio neu ddileu sylwadau a wneir ar ein sianeli, yn ogystal â rhwystro defnyddwyr sy’n gwahardd y torri’r canllawiau hyn yn gyson.
Os bydd sylw’n cael ei guddio neu ei ddileu, bydd cofnod yn cael ei gadw a chysylltir â’r unigolyn i ddweud bod y canllawiau cymunedol wedi’u torri.
Ar adegau anaml, efallai y bydd defnyddwyr yn cael eu blocio o’r dudalen os na fydd natur eu sylwadau’n newid, ond byddwn bob amser yn rhybuddio’r unigolyn am hyn ac yn tynnu sylw at ein canllawiau cyn gwneud hynny.
Mewn materion o ddifenwi parhaus am unigolyn, grŵp neu sefydliad. Gellir ystyried Llythyr Ymatal drwy’r sianeli priodol.
Sut rydym yn gorfodi canllawiau cymunedol – Negeseuon uniongyrchol
Mae cod ymddygiad The Wallich hefyd yn berthnasol i negeseuon uniongyrchol. Bydd defnyddwyr sy’n torri’r cod ymddygiad yn cael eu hatgyfeirio at bolisi cod ymddygiad cyfryngau cymdeithasol The Wallich cyn i’w hymholiad gael ei ddatrys.
Rydym yn cadw’r hawl i ddefnyddwyr sy’n torri’r canllawiau hyn yn gyson, gan roi sylw penodol i’r defnydd o iaith casineb tuag at gymedrolwr cyfrifon The Wallich.
Cwynion a phwy i gysylltu â nhw
I wneud cwyn ffurfiol am y modd y mae The Wallich yn cymedroli’r cyfryngau cymdeithasol, i holi am ein canllawiau ar gyfryngau cymdeithasol neu i weld rhywbeth sy’n torri ein canllawiau cymunedol, cysylltwch â communications@thewallich.net