Cerddwch y strydoedd, cyrhaeddwch eich targed a gwnewch rywbeth am ddigartrefedd

24 Mar 2021

Angen ysbrydoliaeth i symud eich corff wrth i dymor y gwanwyn gyrraedd?

Mae gan ein Cydlynydd Codi Arian Sian Kinsey yr ateb i chi – a fydd hefyd yn cefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd ledled Cymru.

Mae’r pandemig wedi effeithio ar bob un ohonom mewn ffyrdd gwahanol.

Ry’n ni gyd wedi bod yn agored i unigrwydd, teimlo’n ynysig, diflastod a themtasiwn yn ystod y cyfnod hwn. Ond i bobl sy’n wynebu digartrefedd, maen nhw wedi’u heffeithio’n arbennig o galed gan COVID-19.

Gyda’r diwrnodau’n mynd yn hirach ar ôl misoedd o dywyllwch y gaeaf mewn cyfnod clo, nawr yw’r amser perffaith i bawb gamu tu allan i heulwen y gwanwyn.

Ewch amdani, cerddwch y strydoedd

Yr wythnos hon, lansiwyd ein her camau Cerdded ar y Strydoedd.

Ry’n ni’n annog pawb i fynd tu allan a chwblhau 7,500 o gamau bob dydd yn ystod mis Ebrill; ffigwr sy’n cyd-fynd â nifer y bobl wnaethon ni eu cefnogi o ddigartrefedd y llynedd.

textimgblock-img

Wrth i ni drefnu her codi arian i bobl sy’n profi digartrefedd, gobeithio y byddwn yn rhoi hwb i rai arferion llesiant positif i bawb.

Ry’n ni’n gwybod y gall ymarfer corff rheolaidd gael effaith bositif aruthrol, nid yn unig ar iechyd corfforol, ond hefyd ar ein lles meddyliol; gall leddfu straen a gorbryder, gwella cwsg a rhoi hwb i’n hwyliau yn gyffredinol.

Mae hyd yn oed sesiwn fer o gerdded sionc am 10 munud yn cynyddu ein bywiogrwydd meddyliol, lefelau egni a hunan-barch.

Ail-gysylltu ac adlewyrchu

Gall ymarfer corff ddod â ni at ein gilydd a’n helpu i ailgysylltu â’n hanwyliaid.

Defnyddiwch y cyfle hwn i annog ffrind neu aelod o’ch cartref i gerdded y strydoedd gyda chi (gan sicrhau eich bod yn cadw at gyfyngiadau COVID-19 yn eich ardal).

Mae mynd allan hefyd yn cynnig lle i ymwybyddiaeth ofalgar; cyfle i ddianc rhag pwysau bywyd bob dydd ac adlewyrchu ar yr hyn sydd gennym yn ein bywydau a’r hyn ry’n ni wedi’i wynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

I nifer ohonom, mae’r cyfnodau clo, un ar ôl y llall, wedi golygu ynysu a gwahanu oddi wrth y rhai ry’n ni’n eu caru.

Tra’n cerdded a myfyrio, meddyliwch am y ffaith nad yw’r teimladau hyn yn newydd i rywun sy’n profi digartrefedd – maen nhw wedi bod yn rhan anorfod o’u bywydau cyn yr argyfwng a gallai barhau ar ôl y pandemig.

Tra bod nifer o’n strydoedd yn edrych yn wag, dyw digartrefedd heb ddiflannu.

Ry’n ni’n gwybod nad mater o gynnig llety i rywun yn unig yw taclo digartrefedd, mae hefyd yn ymwneud â chefnogi lles meddyliol a chorfforol rhywun hefyd. Yr hiraf y mae person yn wynebu digartrefedd y mwyaf tebygol yw bod eu hiechyd a’u llesiant mewn perygl.

textimgblock-img

Yn The Wallich, mae ein timau yn helpu pobl i gymryd y camau angenrheidiol i symud oddi wrth ddigartrefedd am byth.

Boed yn cynnig llety mewn argyfwng, yn cefnogi pobl gyda chyfryngu teuluol, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau neu’n uwchsgilio ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, cael pobl oddi ar y strydoedd ac i ddiogelwch yw un rhan yn unig o siwrnai rhywun o ddigartrefedd.

Camau bach, effaith fawr

Gall eich ymdrech ddyddiol i gerdded y strydoedd wneud gwahaniaeth.

Er enghraifft, gall rhodd o £20 gynnig cymorth sy’n gallu newid bywydau, drwy helpu rhywun i aros yn ddiogel a chadw swydd:

Cafodd Angharad ei symud i lety argyfwng ar ôl i’r teulu ddadfeilio. Roedd £20 yn ysgwyddo cost trafnidiaeth i’w helpu i gyrraedd adref yn ddiogel a chadw ei swydd – ac osgoi argyfwng pellach.

 Angen mwy o ysbrydoliaeth i gerdded y strydoedd? Darllenwch stori Ali a Stefan.

P’un a ydych chi’n cerdded o amgylch y parc ar brynhawn heulog, neu’n rhoi cynnig ar loncian yn gyflym o amgylch eich ardal leol gydag aelod o’ch cartref, bydd pob cam a gymerwch yn gwneud gwahaniaeth go iawn a pharhaol i bobl sydd mewn perygl neu’n profi digartrefedd ar draws Cymru.

Ewch allan a cherddwch y strydoedd y gwanwyn hwn.

Tudalennau cysylltiedig