Dyma’r ffigur uchaf ar gofnod, am y 12fed flwyddyn yn olynol.
Roedd 47% o’r marwolaethau hynny’n ymwneud ag opiadau, ac roedd 195 o farwolaethau’n cynnwys nitasîn.
Mae hyn bedair gwaith yn uwch nag yn 2023.
Fodd bynnag, mae yna obaith. Ledled y byd, mae chwistrell trwyn a phigiad naloxone yn gwrthdroi effeithiau gorddos opioid, ac yn achub bywydau.

Mae naloxone yn feddyginiaeth frys sy’n gallu gwrthdroi effeithiau gorddos opiad neu opioid o sylweddau fel heroin, methadon, neu forffin.
Yn bwysig, mae naloxone hefyd yn gwrthdroi effeithiau opioidau synthetig cryf fel nitasinau a fentanyl, sy’n dod yn fwy cyffredin yn y DU.
Mae llawer o bobl ledled y DU yn ei gario rhag ofn y bydd argyfwng. Nid yw effeithiau naloxone yn para’n hir iawn. Mae bob amser yn hanfodol ffonio 999 a gofyn am gymorth brys pan fyddwch yn ei ddefnyddio.
Mae holl staff cymorth gweithredol The Wallich wedi cael eu hyfforddi i roi naloxone, drwy bigiad a chwistrell trwyn.
Rydym yn stocio naloxone yn ein holl wasanaethau ac yn annog ein staff i gario naloxone, y tu mewn a’r tu allan i’r gwaith.
Ein nod yw cadw defnyddwyr ein gwasanaeth yn ddiogel, ni waeth beth maen nhw’n mynd drwyddo na ble maen nhw ar eu taith bersonol.
“Un tro, oedd yn rhaid i mi dorri drws ystafell ymolchi i gyrraedd preswylydd, a oedd wedi cymryd gorddos o heroin. Roedd yn foment frawychus a llawn tensiwn, ond roeddwn i’n gallu gweithredu’n gyflym a rhoi naloxone.
“O fewn eiliadau, dechreuodd y preswylydd ddod yn ôl yn ymwybodol – fe achubodd hyn ei fywyd go iawn. Roedd y profiad hwnnw’n dangos pa mor hanfodol yw hi bod gan weithwyr rheng flaen fynediad at naloxone, a bod ganddynt yr hyder i’w ddefnyddio.
“Rydw i mor ddiolchgar ei fod ar gael i mi y diwrnod hwnnw. Hebddo, gallai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn.”
“Pan ddechreuais weithio yn The Wallich am y tro cyntaf ar shifftiau nos, fe lewygodd un o’r defnyddwyr gwasanaeth yn y gegin. Dim ond ychydig fisoedd roeddwn i wedi bod yn y swydd a doedd gen i ddim profiad o’r sector. Roeddwn i wedi gwneud hyfforddiant naloxone ond doeddwn i erioed wedi ei ddefnyddio.
“Roedd hyn cyn i naloxone trwynol fod mor gyffredin. Roedd rhoi pigiad i rhywun yn brofiad dwys, ond roedd y dyn yn fwy ymwybodol erbyn i’r ambiwlans gyrraedd, ac roeddwn i wedi fy synnu pa mor hawdd oedd ei ddefnyddio.”
“Heb naloxone, gallem fod wedi colli cynifer o breswylwyr. Yn anffodus, oherwydd y trawma y mae ein cleientiaid wedi’i brofi, mae bywyd yn anodd, ac yn aml nid ydynt yn credu eu bod yn deilwng o fod yn fyw.
“Mae’n anodd iddyn nhw osgoi defnyddio cyffuriau ac alcohol er mwyn dianc, ac, yn anffodus, mae’n hawdd cymryd gorddos. Mae naloxone yn achub bywydau.
“Rydw i mor ddiolchgar bod The Wallich yn caniatáu i staff ddefnyddio naloxone, a’u bod yn darparu hyfforddiant rhagorol fel bod staff yn teimlo’n hyderus wrth ei ddefnyddio.”
“Mae sicrhau bod naloxone ar gael yn y gweithle yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Mae’n ffordd syml ac effeithiol o ddiogelu gweithwyr a phreswylwyr”.
Yn The Wallich, credwn mewn lleihau niwed ac rydym ni eisiau creu mannau diogel i’n defnyddwyr gwasanaeth ac i’n staff.
Rydym yn darparu biniau offer miniog yn ein gwasanaethau a gallwn gefnogi gyda mynediad at offer glân a phriodol, a chyngor ar roi pigiadau mewn modd mwy diogel.
Credwn fod yn rhaid i ni gefnogi pobl fel maen nhw, nid fel y byddem yn dymuno iddyn nhw fod.
Mae’r holl staff yn cael eu hannog i gael perthynas sy’n trafod cyffuriau yn onest, yn llawn ymddiriedaeth, ac sy’n ystyriol o drawma.
Credwn mai dyma un o’r ffyrdd gorau sydd gennym o leihau niwed a’u cadw’n ddiogel.
Mae staff The Wallich yn rhoi’r cyngor canlynol i bobl sy’n defnyddio cyffuriau. Profwyd bod y cyngor hwn yn achub bywydau.
Mae The Wallich o blaid i’r polisi cyffuriau i fabwysiadu dull iechyd, nid ei ystyried yn drosedd. Dyna pam rydym ni wedi bod yn galw ers blynyddoedd lawer am Ganolfan Atal Gorddos yng Nghymru.
Mae’r dulliau hyn yn achub bywydau.
Mae Barod yn asiantaeth sy’n darparu gwasanaethau defnyddio sylweddau o ansawdd uchel, gan gynnwys dadwenwyno, cymorth un-i-un, cyfnewid nodwyddau, hyfforddiant, a gwasanaethau pobl ifanc.
Un o wasanaethau Barod yw gwasanaeth clicio a danfon naloxone.
Mae gwasanaeth clicio a danfon naloxone yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n cynnig pecyn o naloxone, sy’n cael ei ddanfon i’ch cartref neu i’ch gweithle, ynghyd ag amrywiaeth o adnoddau sy’n ymwneud â lleihau niwed.
Mae Barod hefyd yn darparu hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o orddos a sut i ddefnyddio naloxone.
Mae’r gwasanaeth hwn o fudd i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio mewn cymuned lle mae cyffuriau opioid yn cael eu defnyddio’n aml, ac lle mae’r risg o orddos yn uchel.