“Larysa ydw i, ac rwy’n dod o Wcráin yn wreiddiol. Heddiw, rwy’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel Tywysydd Teithiau i Invisible Cardiff.
Des i i’r Deyrnas Unedig ym mis Ebrill 2022 ar ôl gorfod gadael Wcráin oherwydd yr ymosodiad gan Rwsia.
I mi, mae cymuned yn fwy na grŵp o bobl. Mae cymuned yn golygu’r gallu i ddod ag ymdrechion at ei gilydd er mwyn cyflawni nodau cyffredin, cael cyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad â phobl sydd ei angen ac sy’n gwybod sut i’w ddefnyddio er budd pawb.”
“Cafodd fy ninas ei meddiannu. Cafodd fy ffrindiau eu lladd. Roedd bywydau fy nheulu a’m bywyd innau dan fygythiad yn ddyddiol.
Doedd gennym ni ddim dŵr, dim bwyd, a dim gwres. A dim addewid y byddai hyn yn dod i ben.
Mae bod yn ffoadur yn wahanol i fod yn fewnfudwr. Nid eich penderfyniad chi yw e, a does gennych chi ddim amser i baratoi.
Roedd yn rhaid i mi roi dau blentyn yn y car, a dau gi mawr a dwy gath, a gyrru i ffwrdd. Roedden ni wedi llenwi’r car â bagiau o fwyd ci a bwyd cath, a doedd dim lle i eiddo personol. Wnaethon ni yrru heb wybod ble bydden ni’n cysgu y noson ganlynol.
Cymerodd y daith i Gymru dros fis. Roedd yn anodd. Doedden ni ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd nesaf, ac roedd yn frawychus.
Ond yr un pryd, roedden ni’n teimlo rhyddhad – roedden ni’n gwybod ein bod wedi dianc rhag pethau hyd yn oed yn waeth na marwolaeth.
Yn y dref lle roeddwn i’n byw, cafodd cannoedd o bobl eu harteithio i farwolaeth. Mae beddau torfol pobl gyffredin gafodd eu harteithio yn cael eu darganfod o hyd.
Ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, ro’n i’n ddiolchgar nad o’n i’n gorfod edrych i’r awyr am awyrennau ymladd neu awyrennau bomio.
Dangosodd y teulu a wnaeth fy ngwahodd i a’m plant i aros yn eu cartref garedigrwydd, haelioni a thosturi anhygoel.
Y gymuned yn Eglwys Ellteyrn Sant yng Nghreigiau oedd fy ngrŵp cefnogi cyntaf, ynghyd â Cardiff for Ukraine, mudiad gwych a sefydlwyd gan yr ymgyrchydd Cymreig, Helen McAdie.
Ac wrth gwrs, cymuned Invisible Cities. Roeddwn i’n ffodus i gyfarfod llawer o ffrindiau yma, ffrindiau wnaeth fy helpu ar fy nhaith fel ffoadur, a oedd yn aml yn teimlo fel brwydr go iawn i oroesi.”
“I mi, mae cymunedau fel ynysoedd rwy’n dod ar eu traws ar fy nhaith.
Rwy’n aros ar ynys, yn canfod diogelwch a chefnogaeth, ac yn gyfnewid am hynny rwy’n rhannu fy ngwybodaeth a’m sgiliau.
Ond yna rwy’n gadael yr ynys honno, oherwydd mae bywyd yn dwf a newid parhaus. Wrth i mi newid, mae fy amgylchedd hefyd yn newid.
Mae cymunedau hefyd yn trawsnewid yn barhaus. A daw adeg pan fydd rhai o’u haelodau, fel fi, yn cychwyn ar daith newydd, gan greu ynys-gymunedau newydd. Mae’n broses barhaus, hylifol, i’r ddwy ochr.”
“Mewn ffair swyddi leol, gwelais stondin Invisible Cities a chefais fy nghyfareddu gan y fenyw a oedd yn cynrychioli’r rhaglen, Julia Thomas.
Nid cynnwys y rhaglen wnaeth ddal fy sylw, ond personoliaeth y mentor.
Roedd dod yn dywysydd yn gam trawsnewidiol yn fy nhaith. Newidiais o fod yn westai i fod yn westeiwr – rhywun a allai rannu storïau a chroesawu pobl eraill i’m cartref newydd. Roedd yn rhan hanfodol o ailadeiladu fy hunaniaeth.
Ac eto, mae pob taith yn her i mi, ac mae rhywfaint o bryder a hunanamheuaeth.
Rwy’n poeni am fy ngwybodaeth gyfyngedig o’r iaith. Rwy’n poeni nad ydw i’n deall agweddau ar y diwylliant lleol yn iawn. Rwy’n poeni bod y bobl rydw i’n dweud pethau wrthyn nhw o bosibl yn gwybod mwy am y pethau hyn na fi.
Gyda phob taith mae ton o syndrom y ffugiwr yn dod drosta i. Ond mae pob taith hefyd yn dod â thwf.
Ar bob taith, rwy’n datblygu fy sgiliau iaith ac yn integreiddio fy hun i’r diwylliant Cymreig.”
“Yn ddiweddar, fe wnes i helpu Films4Teens, fy ysgol ffilm ar gyfer plant sy’n ffoaduriaid. Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni greu pum ffilm fer ar thema ‘Cymuned fel archbŵer’, wedi’u comisiynu gan Counterpoints Art.
Roedd y thema hon yn gyfarwydd iawn i mi. Pan wnes i symud i dŷ am y tro cyntaf gyda’r plant, roedd y tŷ’n wag – dim gwelyau, dim oergell, dim popty i goginio. Roedden ni’n cysgu ar y llawr ac yn bwyta ar y llawr.
Roedden ni’n cadw ein dillad a’n heiddo personol mewn bocsys cardfwrdd.
Doedd gennym ni ddim arian i brynu dodrefn ac offer, a dim rheswm go iawn dros wneud hynny ychwaith.
Roedd ein statws cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig yn ansicr iawn.
Byw heb oergell oedd y rhan anoddaf. Bob diwrnod, ro’n i’n gorfod prynu pum cilogram o iâ i gadw bwyd yn ffres.
Heb lenni, doedd gennym ni ddim preifatrwydd.
Roedd hyd yn oed mynd i’r gwely’n teimlo’n annifyr – gwybod y gallai rhywun a oedd yn cerdded heibio eich gweld chi.
Ond mewn cyn lleied â thair wythnos, diolch i ymdrechion y gymuned, roedd gennym ni bopeth roedd arnon ni ei angen – gan gynnwys oergell a llenni (a rhywun i’w gosod nhw).
Fe wnaeth grŵp o wirfoddolwyr Cymreig, sy’n cefnogi pobl mewn sefyllfaoedd anodd, ofalu am bopeth.
I mi, dyma beth yw cymuned.”
“Pan fydda i’n meddwl sut y galla i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned yng Nghymru, dw i ddim yn credu fy mod i wedi dechrau talu fy nyledion yn ôl yno eto.
Yr unig beth rydw i’n ei wneud yw rhoi gwaed ddwywaith y flwyddyn. Dyma fy ffordd dawel i o ddangos fy mod i’n ddiolchgar.
Ond o ran y gymuned Wcrainaidd yng Nghaerdydd, rwy’n gwneud cryn dipyn.
Y llynedd, cefais hyd yn oed fy anrhydeddu â theitl Gwirfoddolwr y Flwyddyn a derbyniais wobr Cenedl Noddfa.”
“Os yw rhywun yn newydd i’r Deyrnas Unedig ac yn cael anhawster i ddarganfod ei le, mae fy nghyngor yn syml – ceisiwch ddod o hyd i’ch cymuned, a byddwch yn iawn.
Mae llawer o dybiaethau am ffoaduriaid, gan gynnwys ein bod yn defnyddio adnoddau a allai fod o fudd i drigolion lleol fel arall. Ond dyw hynny ddim yn wir.
Os edrychwn y tu hwnt i emosiynau, ac ar ddata, mae ffoaduriaid mewn gwirionedd yn ffactor allweddol yn ffyniant economaidd a gwleidyddol y gwledydd sy’n eu derbyn.
Mae pob ton o ffoaduriaid fel egin fusnes – sy’n cael eu hannog gan yr economi er mwyn helpu’r wlad i symud ymlaen. Mae angen buddsoddiad ar y dechrau, ond ar ôl iddo sefydlu ei hun a chael ei draed dano, mae’n creu cyfleoedd newydd ac yn rhoi sylw i’r anghenion sy’n bodoli.
Mae ffoaduriaid yn dod â “gwaed newydd” – sgiliau newydd, gwybodaeth, diwylliannau a safbwyntiau gwahanol. Mae’n broses barhaus o gyfoethogi ac adnewyddu.”
“Archbŵer cymuned yw cyfanswm archbwerau pob un o’i haelodau. Mae’n synergedd.
Dyma rai egwyddorion sylfaenol rwy’n ceisio eu dilyn:
Mae mwy o ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol heddiw nag sydd wedi bod erioed yn hanes dynoliaeth.
Rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae popeth yn ymddangos yn anrhagweladwy.
Yr unig ffordd ymlaen yw gyda’n gilydd, yn unedig fel teuluoedd, fel gwledydd ac fel planed.
Rhywbeth sy’n fy ysbrydoli i: Mae “cymuned” yn ferf.”