Datganiad Gwrth-hiliaeth

21 Apr 2023

Yn The Wallich, rydyn ni’n deall bod pobl ethnig amrywiol yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan ddigartrefedd na grwpiau eraill.

Mewn gwirionedd, mae pobl ddu fwy na thair gwaith yn fwy tebygol o brofi digartrefedd.

Rydyn ni’n cydnabod bod hiliaeth yn effeithio ar lawer o bobl rydyn ni’n eu cefnogi, yn ogystal â’n tîm, ein diwylliant sefydliadol, a’r ffordd rydyn ni’n gweithio gyda’r gymuned o’n cwmpas.

Nid ydym wedi gwneud digon i gael gwared ar hiliaeth o’n cymuned. Dyma’r gwir plaen.

Mae The Wallich wedi ymrwymo’n llwyr i weithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma, felly rydyn ni’n cydnabod mai math o drawma ydy hiliaeth. Mae ein safbwynt ar hiliaeth yn glir iawn:

  • Nid yw’n dderbyniol i unrhyw aelod o’n cymuned orfod wynebu hiliaeth.
  • Nid yw’n dderbyniol i unrhyw berson orfod wynebu iaith, ymddygiad na microymosodiad hiliol.
  • Mae tystion sy’n methu mynd i’r afael â hiliaeth, neu rhoi gwybod amdano, yn rhan o’r broblem. Er efallai nad yw’n briodol i fynd i’r afael â’r mater yr eiliad honno, mae’n rhaid gwneud rhywbeth.

Mae’n bryd gwneud, yn lle dweud

Rydyn ni’n derbyn nad yw cael agwedd gyffredinol tuag at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ddigon i fynd i’r afael â hiliaeth systemig yn y sector elusennol a digartrefedd, felly mae angen i ni roi ein brwdfrydedd a’n parodrwydd ar waith.

Yn y ffordd rydyn ni’n gweithio, rydyn ni’n cydnabod na ddylid ystyried gwrth-hiliaeth fel un prosiect unigol, ond yn hytrach fel rhywbeth sy’n rhan annatod o bob sgwrs, pob darn o waith, a’n bywydau o ddydd i ddydd.

Mae arferion gwrth-hiliol rhagweithiol yn rhan annatod o’n gwerthoedd

  • Rydyn ni’n ddigon dewr i gyfaddef y gallwn ni wneud pethau’n well. Ni fyddwn yn osgoi’r her sydd o’n blaenau.
  • Rydyn ni’n benderfynol o gael gwared â hiliaeth o’n diwylliant sefydliadol a’r sector o’n cwmpas.
  • Rydyn ni’n ddibynadwy ac yn cadw at ein gair.
  • Rydyn ni’n dosturiol tuag at y trawma a’r niwed a achosir gan hiliaeth.
  • Rydyn ni’n gymuned sy’n cynnwys pawb.

Bydd The Wallich yn:

  • Sicrhau bod pobl ethnig amrywiol yn cael eu clywed ac yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau gwrth-hiliol a’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau.
  • Sicrhau bod gwrth-hiliaeth yn ganolbwynt yng ngwaith pawb.
  • Creu diwylliant o rymuso lle;
    • Mae pobl ethnig amrywiol yn gallu ffynnu yn The Wallich.
    • Mae pawb yn ein cymuned yn teimlo’n ddigon cyfforddus i ofyn cwestiynau am eu dewis iaith ac ymddygiad
    • Mae gan The Wallich ddyletswydd i gynyddu sgiliau a hyder holl aelodau’r gymuned i herio a sbarduno newid.
  • Hwyluso hyfforddiant sy’n creu cymuned rymus a mannau cwbl ddiogel.
  • Er mwyn cyflawni ein nod o fod yn sefydliad gwrth-hiliol, rydyn ni’n gweithio ein ffordd drwy’r pedair lefel ym model Racial Equity Maturity, Shereen Daniels (2022).

Rydyn ni’n herio ein cymuned, ein partneriaid, defnyddwyr ein gwasanaeth a’n cydweithwyr i wneud arferion gwrth-hiliol yn flaenoriaeth, gan ein bod ni’n gwybod na allwn ni gyflawni hyn ar ein pen ein hunain.