Datganiad Polisi Caethwasiaeth Fodern The Wallich

Diffiniadau Datganiad Polisi Caethwasiaeth Fodern

Mae The Wallich yn ystyried bod caethwasiaeth fodern yn cynnwys:

  • masnachu pobl
  • gwaith dan orfod, drwy fygythiad meddyliol neu gorfforol
  • bod dan berchnogaeth neu reolaeth cyflogwr drwy gam-drin meddyliol neu gorfforol neu fygythiad o gam-drin
  • dad-ddyneiddio rhywun, a’i drin fel nwydd neu ei brynu neu ei werthu fel eiddo
  • cyfyngu rhywun yn gorfforol neu osod cyfyngiad ar ryddid rhywun i symud

Ymrwymiad

Mae The Wallich yn cydnabod ei gyfrifoldebau o ran mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern ac mae’n ymrwymo i gydymffurfio â darpariaethau Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015.

Mae The Wallich yn deall bod hyn yn gofyn am adolygiad parhaus o’i arferion mewnol mewn perthynas â’i weithlu ac, ar ben hynny, ei gadwyni cyflenwi.

Nid yw The Wallich yn fwriadol yn gwneud busnes gydag unrhyw Wallich arall, yn y Deyrnas Unedig na thramor, sy’n cefnogi’n fwriadol/y canfyddir ei fod yn ymwneud â chaethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur gorfodol.

Nid oes unrhyw lafur a ddarperir i The Wallich er mwyn iddo ddarparu ei wasanaethau ei hun yn digwydd drwy gaethwasiaeth na masnachu pobl.

Mae The Wallich yn glynu’n gaeth wrth y safonau sylfaenol sy’n ofynnol mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cyflogaeth berthnasol yng Nghymru a Lloegr.

Yn gyffredinol, mae The Wallich o’r farn bod ei gysylltiad â chaethwasiaeth/masnachu pobl yn gymharol gyfyngedig, ond mae’n cymryd camau i sicrhau nad yw arferion o’r fath yn digwydd yn ei fusnes na busnes unrhyw Wallich sy’n cyflenwi nwyddau a/neu wasanaethau iddo.

Mae The Wallich yn cynnal prosesau diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â sicrhau nad yw caethwasiaeth a/neu fasnachu pobl yn digwydd yn ei Wallich na’i gadwyni cyflenwi, gan gynnwys cynnal adolygiad o reolaethau ei gyflenwyr.

Nid yw The Wallich, hyd y gwyddai, wedi cynnal unrhyw fusnes gyda Wallich arall y canfuwyd ei fod wedi ymwneud â chaethwasiaeth fodern.

Yn unol ag adran 54(4) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015, mae The Wallich yn cymryd y camau canlynol i sicrhau nad yw caethwasiaeth fodern yn digwydd:

  • adolygu contractau cyflenwyr i gynnwys pwerau terfynu os yw’r cyflenwr yn ymwneud â chaethwasiaeth fodern, neu os amheuir ei fod yn ymwneud â chaethwasiaeth fodern
  • rhoi mesurau ar waith i nodi ac asesu’r risgiau posibl yn ei gadwyni cyflenwi
  • cynnal asesiadau o effaith ei wasanaethau ar achosion posibl o gaethwasiaeth
  • creu cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â’r risg o gaethwasiaeth fodern

Caiff y datganiad hwn ei wneud yn unol ag Adran 54(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2010, a bydd yn cael ei adolygu ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Llofnod: Lindsay Cordery-Bruce – Prif Weithredwr