Digartrefedd: testun ar gyfer ysgolion a phobl ifanc?

06 Aug 2021

Mae ysgolion a cholegau ar draws Cymru yn aml yn gweithio gydag elusennau digartrefedd fel The Wallich.

Pan mae ysgolion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian, mae’n galluogi myfyrwyr i weithio tuag at nod cyffredin, yn ogystal â dysgu sgiliau newydd fel gwaith tîm a meddwl yn greadigol.

Er bod yr elfen codi arian yn bwysig ac yn cael ei werthfawrogi’n arw, yn The Wallich rydyn ni hefyd yn cynnig adnoddau sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm yn rhad ac am ddim.

Mae digartrefedd yn gallu bod yn bwnc dadleuol i ymdrin ag ef mewn ysgolion ac yn gallu bod yn her i blant ei amgyffred heb godi pryderon. Mae’n ddealladwy efallai bod athrawon a rhieni’n teimlo’n bryderus wrth ateb cwestiynau fel “Pam mae’r dyn acw yn cysgu tu allan?”

Gan gymryd hyn i ystyriaeth, mae ein tîm nawr wrth law i helpu athrawon i ddatblygu ffyrdd sensitif o godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â digartrefedd.

Mae ein cynlluniau gwersi addas i’r oed yn dysgu myfyrwyr sut mae siarad am ddigartrefedd a’u hysbrydoli nhw i alw am newid.

Cefnogi’r cwricwlwm – Ysgol Hendrefelin

Trwy fis Mehefin 2021, penderfynodd Ysgol Hendrefelin, ysgol Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (AAAA) wneud rhywbeth am ddigartrefedd.

Diolch i ymdrechion gwych yr ysgol, yr athrawon a’r disgyblion, maen nhw’n esiampl ddisglair o hyrwyddo newid i’r digartref.

Gwrandewch ar yr athro dosbarth, Rhian Duford, yn siarad am eu profiadau nhw:

“Mae ein hysgol yn cyflwyno Cwricwlwm i Gymru ac wedi datblygu sawl ‘Cwestiwn Mawr’ i sbarduno ymrwymiad a dysg disgyblion. Y tymor hwn, y cwestiwn mawr oedd, ‘Ydy Caredigrwydd yn gallu Newid y Byd?’

Yn rhan o’r prosiect, dewisodd y disgyblion i edrych yn nes ar y problemau mae pobl yn eu hwynebu mewn cymdeithas a sut mae elusennau yn cefnogi’r bobl hynny mewn cyfnodau o argyfwng.

Roedd y disgyblion yn teimlo’n gryf eu bod yn dymuno cefnogi elusen ddigartrefedd.

Ymchwilion ni i elusennau lleol, a phenderfynon ni i ddarganfod mwy am ddigartrefedd a chodi arian i helpu’r rhai mewn angen”.

Ffyrdd creadigol o godi arian

Aeth disgyblion Ysgol Hendrefelin tu hwnt i bob ymdrech i godi arian ar gyfer The Wallich, gan greu cyfres o weithgareddau codi arian fel:

Yn gyfan gwbl, cododd y disgyblion swm anhygoel o £163.90

Dysgu am bwysigrwydd effaith cymdeithasol

“Mae disgyblion ein hysgol wedi elwa cymaint o’r profiad hwn.

Rydyn ni i gyd wedi dysgu am bwysigrwydd rhoi, caredigrwydd a bod helpu eraill yn gwneud i ni deimlo’n dda hefyd.

Dysgon ni y gallai pawb fod angen help ar ryw adeg yn eu bywydau a bod elusennau sy’n fodlon helpu pan fo angen.

Mae The Wallich wir yn syfrdanol ac wedi ein helpu ar hyd y daith. Byddwn ni’n cefnogi’r elusen eto trwy ein dysgu yn y dyfodol.”

Dywedodd Sian Kinsley, Cydlynydd Codi Arian yn The Wallich:

“Rydyn ni mor falch o’r trugaredd, yr ymrwymiad a’r gefnogaeth a welsom gan ddisgyblion Dosbarth 4 a 5 Ysgol Hendrefelin.

Bydd yr arian sydd wedi’i godi drwy eu gweithgareddau dosbarth yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bobl sydd mewn risg, neu sydd eisoes yn ddigartrefedd, yng Nghymru.

Mae hi mor bwysig bod plant a phobl ifanc yn gwybod am realaeth digartrefedd yn ein cymdeithas, a’n bod yn eu dysgu nhw mewn dull sensitif a thrugarog.

Trwy wneud hyn, gallwn ni wneud yn siŵr bod pawb yn gwneud eu rhan fach nhw er mwyn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.”

Os ydy disgyblion Ysgol Hendrefelin wedi eich ysbrydoli, darganfyddwch ragor am yr hyn y gallwch wneud yn eich cymuned er mwyn helpu i ddod â digartrefedd i ben am byth.

Tudalennau cysylltiedig