Mae’r adroddiad hwn yn rhoi sylw i nifer o straeon cadarnhaol am lwyddiant. Mae ein 132 o wasanaethau wedi profi achosion lu o ymyriadau llwyddiannus sydd wedi newid bywydau, ac mae ein Tîm Gwella Gwasanaethau wedi cael blwyddyn arbennig hefyd. Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol er mwyn dysgu am y gwahaniaeth mae The Wallich yn ei wneud ledled Cymru.
Mae data yn The Wallich yn cael ei storio’n saff ac yn ddiogel ac yn cael ei gasglu yn unol â rheoliadau GDPR. Ni fydd y bobl rydym yn eu cefnogi bob amser yn datgelu’r data rydym yn gofyn amdano, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data sy’n cael ei ddangos ar y dudalen Ein Heffaith.
I weld ein Datganiadau Preifatrwydd llawn, ewch i’n tudalen Datganiadau a Pholisïau.