Marathon Llundain

21 Apr 2024

Marathon Llundain

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n rhoi lle i un rhedwr lwcus ar gyfer Marathon Llundain TCS.

Mae Marathon Llundain yn ddigwyddiad byd-enwog, sy’n croesawu dros 40,000 o redwyr bob blwyddyn.

Mae’r cwrs 26.2 milltir yn mynd â chi drwy rai o leoliadau mwyaf eiconig Llundain, tra byddwch chi’n cael eich cefnogi gan filoedd o bobl ar hyd y strydoedd. 

Pryd mae Marathon Llundain?

Cynhelir Marathon Llundain ddydd Sul 21 Ebrill 2024.

Pam rhedeg Marathon Llundain ar ran The Wallich?

Dewch i gwrdd â Simon, ein rhedwr rhagorol ym Marathon Llundain 2021.

Fe wnaeth Simon fynd yr ail filltir i atal digartrefedd a chodi swm anhygoel o £1,124.

Dywedodd Simon:

“Roedd rhedeg Marathon Llundain yn brofiad anhygoel. Mae’n ddigwyddiad eiconig dros ben, ac roedd yr awyrgylch a’r gefnogaeth o amgylch y cwrs yn anhygoel.

Roedd yn fraint rhedeg ar ran The Wallich, roedd yr anogaeth a gefais gan y tîm yn un heb ei hail.

Mae fy nyled i’n fawr i The Wallich am roi’r cyfle i mi wireddu fy uchelgais a chodi arian tuag at achos gwerth chweil.”

Ydych chi’n barod am yr her?

Rydyn ni mor falch o gyhoeddi ein bod nawr wedi llenwi ein lle elusennol penodol ar gyfer Marathon Llundain.

Gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni i ddymuno’n dda i’n rhedwr gwych – os byddwch chi ym Marathon Llundain, cofiwch gadw llygad am fest porffor #TeamWallich a chefnogi’r rhedwr!

Os byddech chi’n hoffi cyfrannu at ymdrechion codi arian ein rhedwr #TeamWallich ym Marathon Llundain, gallwch wneud hynny drwy’r dudalen JustGiving.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â dosomething@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig