Tŷ Brynmenyn

23-25 Abergarw Road, Brynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr CF32 9LF

Pen-y-bont ar Ogwr

01656 721 912

Mae Tŷ Brynmenyn yn gwasanaeth preswyl sy’n cynnig llety ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Ty Brynmenyn

Hostel gyda 16 ystafell wely yw Brynmenyn, sy’n darparu llety i bobl ddigartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn ogystal â darparu llety, rydym yn paratoi preswylwyr ar gyfer eu tenantiaethau eu hunain drwy ddarparu cefnogaeth, gweithgareddau yn ystod y dydd, a help i ddod o hyd i lety addas i symud ymlaen iddo.

Rydym hefyd yn darparu cymorth i adsefydlu pan fo angen.

Mae’r ystafelloedd yn Nhŷ Brynmenyn ar gyfer pobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

textimgblock-img

Mae’r staff cymorth yn cynnal gweithgareddau rheolaidd er mwyn difyrru’r preswylwyr.

Nod hyn yw helpu i wella eu llesiant, eu hannog i feithrin cysylltiadau â staff a phreswylwyr eraill, a datblygu eu sgiliau a’u gwytnwch.

Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys gemau, barbeciws, tyfu ffrwythau a llysiau, a llawer mwy.

Gall staff cymorth yn Nhŷ Brynmenyn atgyfeirio preswylwyr at nifer o asiantaethau i gael cymorth ychwanegol tra byddan nhw’n byw yno.

Mae gan y tîm ddull sy’n canolbwyntio ar atebion i sicrhau bod preswylwyr yn cael y cyfle gorau i gynnal tenantiaeth yn y dyfodol, a gwella eu llesiant corfforol a meddyliol yn y tymor hir.

Mae The Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl sy’n ddigartref ac mewn sefyllfa dai fregus.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydym eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Tŷ Brynmenyn, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig