Gwasanaeth Argyfwng Tenantiaeth Pen-y-bont ar Ogwr
Hartshorn House, Neath Road, Maesteg, CF34 9EE
Pen-y-bont ar Ogwr
btcservice@thewallich.net
01656 333601
Mae Gwasanaeth Argyfwng Tenantiaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn brosiect sy’n ymwneud â thai, ac yn gweithredu ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Pencoed, Y Pîl, Corneli, a Chwm Llynfi, Cwm Garw a Chwm Ogwr.
Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth sy’n ymwneud â thai i bobl rhwng 18 a 25 oed ac sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Rydym ni’n helpu pobl i gadw eu tenantiaeth mewn tai rhent, ac rydym ni hefyd yn cefnogi pobl sy’n aros mewn llety dros dro, fel llety gwely a brecwast, neu’n symud o soffa i soffa, i gael llety cynaliadwy a sefydlog.

Y gefnogaeth sydd ar gael gan Wasanaeth Argyfwng Tenantiaeth Pen-y-bont ar Ogwr
Gall ein tîm eich helpu gyda’r materion canlynol:
- Wynebu cael eich troi allan gan landlord, rhieni neu unrhyw sefyllfa debyg
- Cysylltu â’r awdurdod lleol i drafod tai neu ddigartrefedd
- Cymorth gyda phrosesau tai cymdeithasol a thai cyngor, yn ogystal â rhentu gan landlordiaid preifat
- Atgyfeirio at wasanaeth llety â chymorth The Wallich, pan fo hynny’n fuddiol
- Cyllidebu a rheoli biliau
- Mynd i’r afael â dyled
- Atgyfeiriadau iechyd meddwl, meddygon teulu a defnyddio sylweddau
- Sgiliau, cyflogaeth a gwirfoddoli
Gallwch gael gafael ar Wasanaethau Argyfwng Tenantiaeth Pen-y-bont ar Ogwr drwy adran ddigartrefedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig
“Mae staff TCS (Gwasanaeth Argyfwng Tenantiaeth The Wallich) wedi bod yn arbennig yn egluro’r prosesau i mi ac yn fy helpu i gael fy lle fy hun, rhywle i’w alw’n gartref.
Roedden nhw’n wych yn fy helpu i lenwi ffurflenni, er mwyn sicrhau bod gen i gelfi pan symudais i mewn.
Oni bai amdanyn nhw, byddwn i ar goll. Maent wedi gwneud i mi deimlo bod rhywun yn gwrando arnaf i, yn credu ynof i, ac yn fwy na dim, maent wedi gwneud i mi deimlo’n ddiogel.
Maent wedi fy helpu i fagu hyder ac wedi fy atgoffa bod fy nyfodol yn bwysig. Rwy’n ddiolchgar iawn iddynt am bopeth maent wedi’i wneud.”