Hostel Vesta

1-6 Vesta Court, Old Toll Gate, Coity Road, Bridgend CF31 1LF

Pen-y-bont ar Ogwr

01656 663 927

Mae hostel Vesta Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig pum fflat annibynnol

Caiff rhain eu cynnig yn i bobl sydd naill ai wedi dadwenwyno neu sy’n derbyn triniaeth ar gyfer camddefnyddio alcohol neu sylweddau.

Mae’r wasanaeth ar gyfer pobl sydd wedi penderfynu troi cefn ar ffordd flaenorol o fyw a oedd yn cynnwys cyffuriau neu alcohol.

Yn ogystal â chefnogaeth gan staff, mae’r rhai sy’n byw yn Vesta yn derbyn cynllun cymorth strwythuredig. Mae hwn yn cynnwys sesiynau grŵp yn:

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn aros am rhwng tri a naw mis. Maent wedyn yn symud ymlaen i’w llety eu hunain a dechrau bywyd newydd.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel hostel Vesta ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ymdrechwn i gyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

 

Tudalennau cysylltiedig