Cymorth Sector Rhentu Preifat (PRS) Torfaen

Pearl Assurance House, 12 Heol Hanbury, Pont-y-pŵl, NP4 6JL

Torfaen

01495 366 895

Mae Cymorth Sector Rhentu Preifat Torfaen yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i bobl sy’n cael llety rhent preifat 

Cymorth Sector Rhentu Preifat (PRS) Torfaen

Mae tîm Sector Rhentu Preifat Torfaen yn cynyddu mynediad at dai yn y sector rhentu preifat. 

Rydyn ni hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu unigolion ac aelwydydd wrth geisio sicrhau llety yn y sector rhentu preifat. 

Rydyn ni’n gweithio gyda phobl yn Nhorfaen, gan gynnwys Cwmbrân a Phont-y-pŵl.  

Mae’r tîm yn canolbwyntio ar y canlynol: 

Mae tîm Sector Rhentu Preifat Torfaen yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Cyngor Torfaen (fel Iechyd yr Amgylchedd, Cyfreithiol a Budd-daliadau) i wella safonau ansawdd yn y sector rhentu preifat a mynediad at dai rhent preifat fel dewis o ran llety. 

Mae tîm Sector Rhentu Preifat Torfaen yn helpu i ymgysylltu a datblygu cysylltiadau cadarnhaol rhwng landlordiaid a thenantiaid yn y sector preifat.  

Rydyn ni’n cefnogi landlordiaid i ddarparu gwasanaethau da i’w tenantiaid ac i ymgysylltu’n gadarnhaol â Chyngor Torfaen, e.e. hyrwyddo a datblygu cynigion landlordiaid a chynorthwyo tenantiaid i symud i eiddo rhent. 

Atgyfeiriadau 

I gael atgyfeiriad am gymorth gan dîm Sector Rhentu Preifat Torfaen, anfonwch e-bost i Gateway@torfaen.gov.uk 

Tudalennau cysylltiedig