Gwasanaeth Datrys Gwrthdaro Sir Gaerfyrddin

23 Station Road, Llanelli, Carmarthenshire SA15 1AW

01554 700 964

Gwasanaeth cyfryngu i ddatrys anghydfodau

Gwasanaeth annibynnol wedi’i ddarparu gan staff hyfforddedig ac achrededig.

Mae ein gwasanaeth AM DDIM i unrhyw un yn y sir sy’n wynebu anghydfod a allai effeithio ar ble maen nhw’n byw.

datrys anghydfod

Pa fathau o faterion ydym ni’n ymdrin â nhw ?

Rydyn ni’n delio â thor-perthynas nad ydynt yn rhai cyfreithiol nac yn rhai treisgar a allai arwain at un neu fwy o bobl yn dod yn ddigartref.

  • Teuluoedd
  • Cymdogion
  • Pobl ifanc
  • Landlordiaid a thenantiaid

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn?

  • Oedran 16+ (dim terfyn oedran uwch)
  • Yn byw yn Sir Gaerfyrddin
  • Yn ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd
  • Gallwch atgyfeirio eich hun

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.