Prosiect Trawsffiniol i Fenywod

De Cymru

01792 323 954

Mae’r Prosiect Trawsffiniol (Cross Borders) yn gweithredu ar draws Abertawe, gan gynnig llety diogel a chefnogol i fenywod yn benodol sydd wedi profi digartrefedd neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Rydyn ni’n deall bod siwrnai pob menyw yn unigryw.

Mae ein staff arbenigol yn meithrin perthnasoedd o ymddiriedaeth ac yn cynnig cymorth gyda heriau’r gorffennol neu’r presennol, gan gynnwys defnyddio alcohol a sylweddau, trawma ac anghenion cymhleth eraill.

Rydyn ni’n eu helpu i weithio tuag at fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn y gymuned.

Mae gan yr adeilad craidd saith fflat hunangynhwysol ac ardal gymunedol groesawgar.

Rydyn ni hefyd yn cynnig tri llety gwasgaru drwy Ceredig ar gyfer menywod sy’n fwy parod i fyw’n annibynnol, ond efallai bod angen cymorth achlysurol arnyn nhw o hyd.

Mae’r adeilad craidd yn parhau i fod yn fan y gallan nhw droi ato pan fo angen.

Grymuso menywod i symud ymlaen

Mae staff yn cefnogi menywod i:

Darperir cymorth 24/7, gyda staff ar y safle yn y tŷ craidd ac allgymorth i eiddo allanol.

Yn The Wallich, rydyn ni’n cydnabod nad yw digartrefedd yn ymwneud â thai yn unig, mae’n ymwneud â phrofiadau, perthnasoedd a lles emosiynol.

Mae Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn helpu menywod i deimlo’n ddiogel, i gael eu clywed a’u deall.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar y canlynol:

Beth i’w ddisgwyl gan y Prosiect Trawsffiniol i Fenywod

Gwneir pob atgyfeiriad drwy Lwybr Llety Dros Dro Opsiynau Tai Abertawe.

Rhaid i chi gael cais digartrefedd cyfredol yn Abertawe a dywedwch wrth eich cynghorydd eich bod yn credu mai Prosiect Trawsffiniol Abertawe yw’r lle iawn i chi.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect, cysylltwch â ni.

Housing Support Grant logo

Tudalennau cysylltiedig