Shoreline Abertawe

Hanover St, Abertawe, SA1 6BP

Abertawe

01792 466 603

Mae Shoreline Abertawe yn brosiect llety arbenigol sy’n darparu llety â chymorth hirdymor I oedolion digartref sydd naill ai’n gaeth i alcohol neu sydd â phroblemau alcohol difrifol.

Mae’r prosiect yn brosiect “gwlyb”, sy’n golygu y gall y preswylwyr ddal i yfed yn eu llety.

Shoreline Abertawe yn yr ardd

Drwy ddarparu amgylchedd diogel i’r preswylwyr a chefnogaeth staff gwybodus a phrofiadol, gall y prosiect helpu preswylwyr â’r broses o newid ac addasu eu hymddygiadau.

Mae gwneud preswylwyr yn fwy ymwybodol o’r opsiynau, y cyfleoedd a’r dewisiadau sydd ar gael iddynt yn eu galluogi i wneud dewisiadau deallus drostynt eu hunain.

Mae’r opsiynau’n cynnwys yfed dan reolaeth, yfed llai neu stopio yfed – ond mae’r prosiect hefyd wedi’i gynllunio i gefnogi’r rhai nad yw hyn yn opsiwn iddynt, yn y tymor hir neu’r tymor byr.

Mae staff yn y prosiect hefyd yn helpu preswylwyr i ddiwallu eu hanghenion cymorth unigol.

Ein cefnogaeth

Er bod y prosiect yn un “gwlyb” mae ethos ac athroniaeth gwaith y prosiect yn golygu bod cyfran helaeth o’r preswylwyr yn yfed llai ac yn cymedroli eu hymddygiad yfed.

Shoreline Abertawe, yn yr sied ardd.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Shoreline yn Abertawe, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Housing Support Grant logo

Tudalennau cysylltiedig