Blaenau Gwent, Torfaen
gwentboost@thewallich.net
Gwneud i bobl deimlo’n rhan o’u cymuned a’u bod yn cael eu derbyn.
Drwy gamu i mewn i The Re;Store cewch fynediad at gyfres o weithdai a gweithgareddau amrywiol, cynhwysol a chefnogol a fydd yn eich galluogi i dyfu a gwella eich hun yn ogystal â’r bobl o’ch cwmpas a’ch cymuned.
Byddwch hefyd yn cael y croeso cynhesaf yr ochr hon i Went.
Mewn amgylchedd sydd wedi’i gynllunio gennych chi a gennym ni, ac sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn anfeirniadol.
Bydd y Re;Store yn tyfu gyda chi a bydd yno i chi ar eich taith, waeth pa mor fawr neu fach.
Gan ddefnyddio adnoddau cymunedol a chyd-gynhyrchu, ein nod yn The Re;Store yw helpu’r rheini sydd â phrofiad o ddigartrefedd, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac unrhyw un sy’n teimlo bod angen cymorth arnynt.
Mae ein cefnogaeth yn cyrraedd pob unigolyn a’r gymuned ehangach.
Rydyn ni’n ymdrechu i adfer a thyfu pobl a’r llefydd maen nhw’n byw ynddynt. Mae The Re;Store yn cyflawni hyn drwy weithdai, gweithgareddau a digwyddiadau wedi’u teilwra yn ei ofod ym Mhont-y-pŵl.
Beth i’w ddisgwyl:
Menter gymdeithasol yw The Re; Store sy’n ymwneud â chefnogi cymunedau a phobl i adfer bywydau, sgiliau a chymunedau.
Mae’n lle diogel i ddysgu pethau newydd a bod yn rhan o’r gymuned.
Gallwch ddysgu gweithgaredd newydd neu rannu eich gwybodaeth. Mae pawb yn The Re;Store yn gyfartal.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r holl asiantaethau lleol perthnasol i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gweithdai, gwasanaethau a digwyddiadau sy’n cyd-fynd ag anghenion y gymuned, yr asiantaethau a’r unigolion.
Mae gwasanaeth Gwent BOOST yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaethau anhygoel.