Tŷ Cornerstone

Pen-y-bont ar Ogwr

01656 659 082

Mae Tŷ Cornerstone yn cynnig llety dros dro ar ffurf chwe fflat annibynnol.

Cynigir rhain i bobl sengl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn ogystal â darparu llety, mae Tŷ Cornerstone yn ceisio paratoi preswylwyr ar gyfer eu tenantiaethau eu hunain.

Gwneir hyn drwy ddarparu cefnogaeth, gweithgareddau yn ystod y dydd a help i ddod o hyd i lety addas i symud ymlaen iddo. Rydym hefyd yn darparu cymorth ag adsefydlu pan fo angen.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Tŷ Cornerstone ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ymdrechwn i gyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am Tŷ Cornerstone, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig