Diweddaru ein hadroddiadau chwarterol

19 May 2019
Alex Osmond, Cydlynydd Ymchwil

Fis Ebrill 2019, rydym yn cyhoeddi ein hadroddiadau chwarterol cyntaf ar gyfer y flwyddyn. Bydd darllenwyr brwd yn sylwi bod rhai pethau wedi newid – nid dim ond o ran cynllun, ond yn fwy arwyddocaol yr ystadegau rydym yn eu defnyddio a sut rydym yn eu cyflwyno.

Rydym yn credu y bydd y newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud i’n hystadegau cysgu ar y stryd yn creu gwell darlun o’n profiad gyda phobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghymru, yn well nag erioed o’r blaen.

Bydd y swydd hon yn rhoi sylw i’r prif newidiadau; os oes gennych chi gwestiynau am unrhyw rai o’r gwahaniaethau eraill, anfonwch e-bost atom.

Dwyieithog

Gyda rhaniad clir i lawr y canol, gallwn roi’r Gymraeg a’r Saesneg ar yr un dudalen yn hytrach nag argraffu dau fersiwn o’r adroddiadau wrth symud ymlaen.

Dylai ein hadnoddai a’n cyhoeddiadau ddarparu ar gyfer siaradwyr Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd, ac mae hwn yn gam pwysig i’r cyfeiriad hwnnw.

Nifer y cysylltiadau

Yn y gorffennol, rydyn ni wedi adrodd ar nifer y cleientiaid unigol mae’r Tîm Ymyriadau Cysgu ar y Stryd wedi’u gweld. Nid yw hyn yn llwyddo i gofnodi’r ffaith bod cleientiaid yn cael eu gweld sawl gwaith.

Nawr rydyn ni’n cynnwys nifer y cleientiaid unigol a nifer y cysylltiadau a wneir gyda phobl, yn ogystal â chymhareb sy’n rhoi rhyw syniad o sawl gwaith mae pob person yn cael ei weld.

Dylai tynnu sylw at hyn roi gwybodaeth i ni ynghylch am faint o amser ar gyfartaledd mae unigolyn yn cysgu ar y stryd mewn ardal.

Cleientiaid newydd sbon

Yn yr hen adroddiadau, roeddem yn rhannu nifer y cleientiaid nad oeddent wedi cael eu gweld o’r blaen gan Dîm Ymyriadau Cysgu ar y Stryd fesul wythnos.

Roedd yn fy nharo i ei bod yn bwysicach gwybod beth yw nifer y cleientiaid newydd sbon sy’n cael eu gweld mewn chwarter, yn hytrach nag wythnos benodol mewn cyfnod o dair wythnos ar ddeg. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws cymharu wrth symud ymlaen.

Prif bwyntiau a gwybodaeth gan dimau

Ar ail dudalen yr adroddiadau, fe welwch chi ychydig frawddegau’n crynhoi pwyntiau diddorol, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth gan y Tîm Ymyriadau Cysgu ar y Stryd, yn esbonio sut maent yn meddwl mae’r chwarter wedi mynd.

Nid ydym yn credu bod niferoedd yn adrodd y stori lawn ac mae gan ein harbenigwyr dystiolaeth werthfawr i roi’r cyd-destun y tu ôl i’r ystadegau.

Gwelliannau ‘ansawdd bywyd’ – dyddiadau

Fe sylwch chi ar ddyddiadau gwirioneddol drws nesaf i rif y chwarter – fel eich bod yn gallu cadw cofnod o ba gyfnod mae adroddiad penodol yn berthnasol iddo.

Cynnydd a gostyngiad canran

Rydym wedi newid y ffordd rydym yn cyfrif y cynnydd neu’r gostyngiad canran cyffredinol o ran nifer y bobl sy’n cael cefnogaeth o gymharu â’r un chwarter yn ystod y flwyddyn flaenorol. 

Yn y gorffennol, roeddem yn defnyddio dull oedd yn cynnwys nifer y bobl a gefnogwyd bob wythnos ar gyfartaledd.

Wrth symud ymlaen, dim ond cymharu nifer y bobl sy’n cael cefnogaeth fyddwn ni, wedi’i drosi’n ganran. Mae hyn yn golygu na fydd posib cymharu’r canrannau hynny’n uniongyrchol mwyach ag adroddiadau chwarterol blaenorol – os oes arnoch angen esboniad am unrhyw gynnydd neu ostyngiad, cofiwch gysylltu.

O ran y data newydd rydym wedi’u hychwanegu, nid ydym yn gallu cynnwys unrhyw gymariaethau ag adroddiadau blaenorol. Fodd bynnag, ar ôl blwyddyn lawn o gyflwyno data fel hyn, byddwn yn cynnwys cymariaethau cysgu ar y stryd ar gyfer Caerdydd, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chasnewydd – felly, er enghraifft, gallwn ddweud wrthych sut mae nifer y cysylltiadau wedi newid yn ystod chwarter blaenorol.

Byddwn yn parhau i wella sut rydym yn casglu ac yn cyfathrebu ein hystadegau. I gael gwybodaeth am ein canfyddiadau diweddaraf, cofrestrwch i dderbyn Briff Materion Cyhoeddus The Wallich.

Tudalennau cysylltiedig