Mae’n beth prin gweld cytundeb gwirioneddol ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol, ond yng Nghymru rydym yn ffodus o fod yn tystio i un achos unigryw o gonsensws trawsbleidiol.
Mae ein dosbarth gwleidyddol cyfan yn cytuno bod digartrefedd yn eithriad na ddylid bod dim lle iddo mewn gwlad ddemocrataidd, fodern, gyfoethog, a bod yn rhaid rhoi diwedd arno.
Ni fyddai llefarwyr o bob prif blaid wleidyddol yn cael dim problem cytuno i ymrwymiad o’r fath, ac yn ychwanegol at hynny, gyda chyhoeddiad adroddiad terfynol Grwp Gweithredu ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru, ceir rhestr barod o gynigion polisi sy’n seiliedig ar y dystiolaeth ryngwladol ddiweddaraf, sy’n barod i’r weinyddiaeth nesaf eu rhoi ar waith.
Ond er gwaethaf hyn, rydyn ni yn y sector digartrefedd a chymorth tai yn dal yn bryderus. Heb ymrwymiad i roi’r adroddiad arloesol hwn ar waith, ni ellir gwireddu’r addewid o Gymru lle mae digartrefedd yn brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd.
Oni fod llywodraeth leol a’u partneriaid yn cael eu grymuso i ailfywiogi gwasanaethau cymorth tai, byddwn yn gweld digartrefedd cronig yn parhau a hyd yn oed yn cynyddu; ac fe allai hyn yn hawdd gael ei ddiystyru ymysg effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach y pandemig byd-eang.
Y rheswm pam bod cymaint o frys yw oherwydd ei fod yn teimlo bod cyfle unwaith mewn oes yn llithro o’n gafael.
Ar ddechrau argyfwng y coronafeirws fe wnaeth Llywodraeth Cymru a phob un o’r 22 awdurdod lleol waith ardderchog yn darparu llety argyfwng i 2,266 o bobl a oedd yn ddigartref, gan gynnwys 407 o bobl a fu, tan Ebrill 2020, yn cysgu allan ar strydoedd Cymru.
Roedd hwn yn llwyddiant nas gwelwyd ei fath o’r blaen. Gwelodd ein gweithwyr cymorth bobl a fu’n byw bywyd ar y stryd ers blynyddoedd, yn dod i mewn am y tro cyntaf, gan greu cyfleoedd holl bwysig iddynt ymgysylltu â help proffesiynol.
Pa un a oedd ganddynt anghenion iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, neu amrywiol anghenion cymhleth eraill, roedd pobl o’r diwedd yn cael safle diogel a saff i ddychmygu eu dyfodol.
Rydyn ni’n awr yn nesáu at ben-blwydd cyntaf yr ymdrech aruthrol hon. Er gwaethaf y llwyddiant aruthrol – fe wnaeth 2,700 o bobl symud i lety parhaol rhwng Awst a Rhagfyr – mae’r staff a’r defnyddwyr gwasanaethau wedi ymlâdd, ac mae’n debygol na fydd y pwysau ond yn cynyddu.
Mae mwy o aelwydydd yn cyflwyno’u hunain yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref nag sy’n llwyddo i symud ymlaen ar ben arall y system.
Ym mis Rhagfyr (adeg ysgrifennu hwn, y data diweddar a oedd ar gael), llwyddodd 545 o unigolion i symud i gartrefi parhaol, ond yn eu lle fe ddaeth 919 o atgyfeiriadau newydd. Ni fydd y gyfradd dwf hon yn gynaliadwy heb fuddsoddiad pellach sylweddol mewn staff a seilwaith.
Mae yna, fodd bynnag, ddewis arall yn lle’r model undonog diddiwedd hwn. Ailgartrefu Cyflym oedd un o’r newidiadau allweddol a argymhellwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, ac ni fu erioed cymaint o alw am hyn.
Gan ddilyn yr un egwyddorion â’r model Tai yn Gyntaf uchel ei glod, mae Ailgartrefu Cyflym yn golygu rhoi diwedd ar y llwybr llety dros dro, ac yn hytrach mae’n ceisio symud aelwydydd yn syth i gartref saff a diogel cyn gynted ag y cyflwynant eu hunain i’r gwasanaethau lleol.
Yn anffodus, hyd yn oed â’r ewyllys gorau yn y byd, nid yw gwely argyfwng mewn hostel yn gartref: ni ddylid ond ei ddefnyddio fel trefniant dros dro. Dim ond â sefydlogrwydd cartref parhaol y gall pobl ymgysylltu’n fwyaf llwyddiannus â chymorth ar gyfer eu hanghenion nad ydynt yn ymwneud â thai, gan gynnwys goresgyn trawma neu gaethiwed.
Mae lletyau dros dro, a’r bobl ymroddedig, anhygoel sy’n eu staffio, wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’r miloedd o drigolion a ddechreuodd ailadeiladu eu bywydau yn ystod eu hamser ynddynt. Ond mewn llawer gormod o achosion, mae defnyddwyr gwasanaethau wedi methu â symud ymlaen i’w cartref eu hunain.
Mae yna’n bendant ddiffyg tai addas, ac mae llety dros dro wedi ymestyn y gair y tu hwnt i unrhyw ddiffiniad adnabyddadwy.
Yn The Wallich, rydym yn ailystyried sut byddwn yn cyflawni ein gwasanaethau i’r dyfodol. Mae’n glir inni nad hosteli lle rhennir cyfleusterau a hyd yn oed lloriau, yw’r llefydd gorau i helpu pobl sy’n ddigartref.
Er enghraifft, rydyn ni eisoes yn gweithio â chomisiynwyr yn Sir Gaerfyrddin i ad-drefnu ein gwasanaethau yn unol â model Ailgartrefu Cyflym, a byddwn yn ceisio ailadrodd hyn ar draws Cymru.
Yr her felly yw i’r Llywodraeth Cymru nesaf gyflawni ar y consensws hwn – ar draws pob plaid wleidyddol a’r holl sefydliadau trydydd sector a sector cyhoeddus yn y maes – er mwyn inni allu rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Mae’r £40m o gyllid ychwanegol ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn y gyllideb eleni yn ddechrau sydd i’w groesawu, ond yn awr mae angen i gomisiynwyr awdurdodau lleol gael eu grymuso, a’u hannog i ddefnyddio’r arian hwn i gyflwyno gwasanaethau Ailgartrefu Cyflym.
Rhaid i Ailgartrefu Cyflym weithio ochr yn ochr â darpariaeth Tai yn Gyntaf gynyddol ar gyfer rhai sydd fwyaf mewn angen, gwaith maes effeithiol i helpu pobl sy’n byw bywydau ar y stryd, ynghyd â chymorth cylchredol i helpu aelwydydd gadw eu tenantiaethau.
Yn anad dim, mae angen i lywodraethau weithio’n agos ag adeiladwyr tai, cymdeithasau tai, a landlordiaid preifat, i adeiladu’n gyflym dai cymdeithasol, fforddiadwy, ac adfer eiddo na chânt eu defnyddio’n ddigonol, gan greu capasiti ychwanegol i ysgafnu’r pwysau yn y system.
Fe wnaeth Llywodraeth gyfredol Cymru gyrraedd ei tharged i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd yn nhymor y Senedd hon, er gwaethaf y pandemig. Dylai’r targed ar gyfer y tymor nesaf fod yn fwy uchelgeisiol fyth.
Mae yna ewyllys, ac mae yna ffordd. Mae The Wallich, a’r sector tai ehangach, yn barod i wireddu’r uchelgais hon o Gymru lle mae digartrefedd yn brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd.
Rhaid i’r gwleidyddion yn y Senedd nesaf, ac ar draws y 22 awdurdod lleol, gydio yn y cyfle hwn gerfydd eu dwy law.