I roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, ni all llety dros dro ond fod yn hynny – dros dro

Post ar flog y Cydlynydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Thomas Hollick

11 Mar 2021

Hostel Tŷ Nesaf

Mae’n beth prin gweld cytundeb gwirioneddol ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol, ond yng Nghymru rydym yn ffodus o fod yn tystio i un achos unigryw o gonsensws trawsbleidiol.

Mae ein dosbarth gwleidyddol cyfan yn cytuno bod digartrefedd yn eithriad na ddylid bod dim lle iddo mewn gwlad ddemocrataidd, fodern, gyfoethog, a bod yn rhaid rhoi diwedd arno.

Ni fyddai llefarwyr o bob prif blaid wleidyddol yn cael dim problem cytuno i ymrwymiad o’r fath, ac yn ychwanegol at hynny, gyda chyhoeddiad adroddiad terfynol Grwp Gweithredu ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru, ceir rhestr barod o gynigion polisi sy’n seiliedig ar y dystiolaeth ryngwladol ddiweddaraf, sy’n barod i’r weinyddiaeth nesaf eu rhoi ar waith.

Ond er gwaethaf hyn, rydyn ni yn y sector digartrefedd a chymorth tai yn dal yn bryderus. Heb ymrwymiad i roi’r adroddiad arloesol hwn ar waith, ni ellir gwireddu’r addewid o Gymru lle mae digartrefedd yn brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd.

Oni fod llywodraeth leol a’u partneriaid yn cael eu grymuso i ailfywiogi gwasanaethau cymorth tai, byddwn yn gweld digartrefedd cronig yn parhau a hyd yn oed yn cynyddu; ac fe allai hyn yn hawdd gael ei ddiystyru ymysg effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach y pandemig byd-eang.

Cyfleoedd yn deillio o argyfwng

Y rheswm pam bod cymaint o frys yw oherwydd ei fod yn teimlo bod cyfle unwaith mewn oes yn llithro o’n gafael.

Ar ddechrau argyfwng y coronafeirws fe wnaeth Llywodraeth Cymru a phob un o’r 22 awdurdod lleol waith ardderchog  yn darparu llety argyfwng i 2,266 o bobl a oedd yn ddigartref, gan gynnwys 407 o bobl a fu, tan Ebrill 2020, yn cysgu allan ar strydoedd Cymru.

Roedd hwn yn llwyddiant nas gwelwyd ei fath o’r blaen. Gwelodd ein gweithwyr cymorth bobl a fu’n byw bywyd ar y stryd ers blynyddoedd, yn dod i mewn am y tro cyntaf, gan greu cyfleoedd holl bwysig iddynt ymgysylltu â help proffesiynol.

Pa un a oedd ganddynt anghenion iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, neu amrywiol anghenion cymhleth eraill, roedd pobl o’r diwedd yn cael safle diogel a saff i ddychmygu eu dyfodol.

Rydyn ni’n awr yn nesáu at ben-blwydd cyntaf yr ymdrech aruthrol hon. Er gwaethaf y llwyddiant aruthrol – fe wnaeth 2,700 o bobl symud i lety parhaol rhwng Awst a Rhagfyr – mae’r staff a’r defnyddwyr gwasanaethau wedi ymlâdd, ac mae’n debygol na fydd y pwysau ond yn cynyddu.

Mae mwy o aelwydydd yn cyflwyno’u hunain yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref nag sy’n llwyddo i symud ymlaen ar ben arall y system.

Ym mis Rhagfyr (adeg ysgrifennu hwn, y data diweddar a oedd ar gael), llwyddodd 545 o unigolion i symud i gartrefi parhaol, ond yn eu lle fe ddaeth 919 o atgyfeiriadau newydd. Ni fydd y gyfradd dwf hon yn gynaliadwy heb fuddsoddiad pellach sylweddol mewn staff a seilwaith.

textimgblock-img

Ffordd newydd o weithio

Mae yna, fodd bynnag, ddewis arall yn lle’r model undonog diddiwedd hwn. Ailgartrefu Cyflym oedd un o’r newidiadau allweddol a argymhellwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, ac ni fu erioed cymaint o alw am hyn.

Gan ddilyn yr un egwyddorion â’r model Tai yn Gyntaf uchel ei glod, mae Ailgartrefu Cyflym yn golygu rhoi diwedd ar y llwybr llety dros dro, ac yn hytrach mae’n ceisio symud aelwydydd yn syth i gartref saff a diogel cyn gynted ag y cyflwynant eu hunain i’r gwasanaethau lleol.

Yn anffodus, hyd yn oed â’r ewyllys gorau yn y byd, nid yw gwely argyfwng mewn hostel yn gartref: ni ddylid ond ei ddefnyddio fel trefniant dros dro. Dim ond â sefydlogrwydd cartref parhaol y gall pobl ymgysylltu’n fwyaf llwyddiannus â chymorth ar gyfer eu hanghenion nad ydynt yn ymwneud â thai, gan gynnwys goresgyn trawma neu gaethiwed.

Mae lletyau dros dro, a’r bobl ymroddedig, anhygoel sy’n eu staffio, wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’r miloedd o drigolion a ddechreuodd ailadeiladu eu bywydau yn ystod eu hamser ynddynt. Ond mewn llawer gormod o achosion, mae defnyddwyr gwasanaethau wedi methu â symud ymlaen i’w cartref eu hunain.

Mae yna’n bendant ddiffyg tai addas, ac mae llety dros dro wedi ymestyn y gair y tu hwnt i unrhyw ddiffiniad adnabyddadwy.

Mae’n amser newid ein dull gweithredu

Yn The Wallich, rydym yn ailystyried sut byddwn yn cyflawni ein gwasanaethau i’r dyfodol. Mae’n glir inni nad hosteli lle rhennir cyfleusterau a hyd yn oed lloriau, yw’r llefydd gorau i helpu pobl sy’n ddigartref.

Er enghraifft, rydyn ni eisoes yn gweithio â chomisiynwyr yn Sir Gaerfyrddin i ad-drefnu ein gwasanaethau yn unol â model Ailgartrefu Cyflym, a byddwn yn ceisio ailadrodd hyn ar draws Cymru.

Yr her felly yw i’r Llywodraeth Cymru nesaf gyflawni ar y consensws hwn – ar draws pob plaid wleidyddol a’r holl sefydliadau trydydd sector a sector cyhoeddus yn y maes – er mwyn inni allu rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Mae’r £40m o gyllid ychwanegol ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn y gyllideb eleni yn ddechrau sydd i’w groesawu, ond yn awr mae angen i gomisiynwyr awdurdodau lleol gael eu grymuso, a’u hannog i ddefnyddio’r arian hwn i gyflwyno gwasanaethau Ailgartrefu Cyflym.

Rhaid i Ailgartrefu Cyflym weithio ochr yn ochr â darpariaeth Tai yn Gyntaf gynyddol ar gyfer rhai sydd fwyaf mewn angen, gwaith maes effeithiol i helpu pobl sy’n byw bywydau ar y stryd, ynghyd â chymorth cylchredol i helpu aelwydydd gadw eu tenantiaethau.

Yn anad dim, mae angen i lywodraethau weithio’n agos ag adeiladwyr tai, cymdeithasau tai, a landlordiaid preifat, i adeiladu’n gyflym dai cymdeithasol, fforddiadwy, ac adfer eiddo na chânt eu defnyddio’n ddigonol, gan greu capasiti ychwanegol i ysgafnu’r pwysau yn y system.

Fe wnaeth Llywodraeth gyfredol Cymru gyrraedd ei tharged i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd yn nhymor y Senedd hon, er gwaethaf y pandemig. Dylai’r targed ar gyfer y tymor nesaf fod yn fwy uchelgeisiol fyth.

Wythnos Gwirfoddolwyr

Rhaid inni beidio â cholli ein ffocws

Mae yna ewyllys, ac mae yna ffordd. Mae The Wallich, a’r sector tai ehangach, yn barod i wireddu’r uchelgais hon o Gymru lle mae digartrefedd yn brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd.

Rhaid i’r gwleidyddion yn y Senedd nesaf, ac ar draws y 22 awdurdod lleol, gydio yn y cyfle hwn gerfydd eu dwy law.

Tudalennau cysylltiedig