
Mae chwarae’r loteri wythnosol yn ffordd wych o gefnogi pobl sy’n ddigartref yn eich cymuned, a chael cyfle i ennill gwobr wych ar yr un pryd.
Am ddim ond £1 am docyn, bydd cyfle i chi ennill £12,000.
Drwy chwarae’r loteri byddwch yn helpu i ariannu gwasanaethau rheng flaen arloesol a darparu cymorth tymor hir i bobl sy’n ddigartref ledled Cymru.
Ac yn fwy na hynny, byddwch yn rhan o gymuned o bobl sydd wedi ymrwymo i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd am byth.
Gyda’ch cefnogaeth chi, gall The Wallich fod yno pan fydd hynny’n fwyaf pwysig.
Bob blwyddyn, mae The Wallich yn helpu dros 7,000 o unigolion sy’n ddigartref neu sydd ar fin colli eu cartrefi.
Drwy gymryd rhan yn loteri Crackerjackpot, er budd The Wallich, rydych chi’n gwneud mwy na dim ond chwarae am wobr, rydych chi’n helpu pobl go iawn drwy gyfnodau o argyfwng.
Mae eich ceisiadau loteri yn golygu y gallwn gamu i’r adwy pan fydd angen help ar frys ar rywun.
Gallai £5 y mis gadw ein faniau allgymorth yn llawn o ddiodydd poeth, hanfodion hylendid a sanau glân.
Gallai £10 y mis roi cymorth ymarferol parhaus i rywun symud ymlaen, fel teithio’n rheolaidd i gyfweliadau swyddi, cyrsiau neu apwyntiadau allweddol sy’n helpu i dorri’r cylch digartrefedd.
Gallai £25 y mis gynnal prosiectau sy’n newid bywydau fel mentora cymheiriaid, gweithdai creadigol neu gwnsela sy’n ystyriol o drawma – gan helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau gydag urddas a gobaith.
Mae Crackerjackpot dan berchnogaeth lwyr elusen yng Nghymru.
Felly, fel hyn, mae pob ceiniog o’ch cefnogaeth yn helpu elusennau yng Nghymru, ac nid oes yr un geiniog yn mynd i gwmnïau preifat.
Ar ôl talu’r gwobrau a ffioedd ar gyfer trwydded gyfreithiol, bydd 65c o bob punt yn mynd tuag at ddarparu ein gwasanaethau hanfodol sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd ledled Cymru, i fyny o 50c gyda’n darparwr blaenorol.
Gallwch chwarae loteri Crackerjackpot er budd The Wallich am gyn lleied â £1 yr wythnos. Mae llawer o wobrau ar gael a mwy o siawns o ennill.
Cofrestrwch ar-lein, neu ffoniwch dîm Crackerjackpot ar 02920 532 300 i gofrestru dros y ffôn.
Rhaid i chi fod dros 18 oed ac yn byw ym Mhrydain Fawr i chwarae ein loteri elusennol.
Darllenwch y telerau ac amodau llawn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â dosomething@thewallich.net
Os rydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch chwilio am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr proffesiynol ar Gambleaware drwy ffonio 0808 8020 133 am ddim neu fynd ar y wefan www.gambleaware.co.uk