Apêl Nadolig

Apêl Nadolig The Wallich 2024:
Anrheg a chinio i bobl ddigartref yng Nghymru

Mae nifer o bobl yn gorfod mynd heb bethau y Nadolig hwn – heb fwyd, heb gynhesrwydd a heb gymuned i’w cefnogi.

Rydyn ni eisiau sicrhau nad fel hyn y bydd hi i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

Ar beth fyddwn ni’n gwario’r arian?

Rhoi cinio Nadolig poeth i dros 400 o bobl yng Nghymru

textimgblock-img

Mae preswylwyr a staff yn coginio cinio gyda’i gilydd ym mhob un o’n hostelau digartrefedd.

Yn aml iawn, nid oes gan y bobl sy’n byw mewn llety dros dro deulu a ffrindiau i dreulio’r Nadolig â nhw. Ein hostelau ni yw eu cymuned.

Helpwch ni i sicrhau bod pawb sy’n byw gyda ni ar ddiwrnod Nadolig yn cael cinio Nadolig.

 

Rhoi anrheg i bob un person rydyn ni’n eu cefnogi

textimgblock-img

Mae pobl digartref yn haeddu cael profi rhywbeth arbennig i godi eu calonnau dros fisoedd y gaeaf, boed nhw’n dathlu’r Nadolig neu beidio.

Rydyn ni eisiau rhoi anrheg gwerth tua £10 i bawb rydyn ni’n eu cefnogi.

Gweithred fechan a all olygu’r byd i rywun.

 

Cefnogwch apêl digartrefedd Nadolig The Wallich

Rhowch rodd o

Bydd The Wallich yn cefnogi tua 4,000 o bobl yng Nghymru y gaeaf hwn.

Wrth i gostau byw barhau i achosi her i nifer, mae The Wallich yn gweithio’n ddi-flino i geisio sicrhau bod pob unigolyn sy’n byw ar y stryd, a’r rhai sydd mewn llety dros dro, yn cael y Nadolig gorau posibl.

Mae The Wallich wedi cofrestru â’r Rheoleiddiwr Arian ac yn Elusen Ddibynadwy.

Rhoi eitemau

Yn y gaeaf, rydyn ni’n cael llawer o eitemau ail-law yn roddion hael.

Siaradwch â’n Timau Codi Arian lleol cyn dechrau casgliad, er mwyn osgoi rhoi gormod o bethau sydd ganddynt yn barod.

Ebost: dosomething@thewallich.net