“Rydyn ni wedi ymgyrchu’n galed ar y cyd â sefydliadau eraill ac wedi gofyn yn glir i’r Llywodraeth sicrhau nad oes unrhyw un yn dychwelyd i’r stryd ar ôl i drefniadau a chyfyngiadau symud Covid-19 ddod i ben.
“Mae’r sector wedi siarad ac mae ein llais wedi’i glywed.
“Mae’r amgylchiadau a ddaeth â ni yma heb os yn dorcalonnus, ond mae’r argyfwng hwn wedi rhoi cyfle unigryw i ni ddatrys un o argyfyngau dynol mwyaf ein cyfnod.
“Rydym yn croesawu’r arian hwn a’r ymrwymiad hwn gan y Llywodraeth ac yn gobeithio y caiff ei ddilyn gan benderfyniadau polisi pendant a chamau gweithredu pendant.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod heddiw, er bod y gwaith a wnaed yn ystod y cyfyngiadau symud gan yr holl asiantaethau mewn partneriaeth wedi bod yn llwyddiannus dros ben i ddod â phobl ddigartref dan do i lety argyfwng, nid ydym wedi rhoi diwedd ar ddigartrefedd i’r bobl hynny.
Dylem ymfalchïo a bod yn optimistaidd ynghylch yr hyn sydd wedi’i gyflawni, ond nid yn hunanfodlon.
Nid yw digartrefedd wedi diflannu yn ystod y pandemig hwn.
Fodd bynnag, mae gwelededd yn bwysig wrth gynnig atebion. Mae’n deg dweud, am y tro cyntaf o bosibl, fod gennym y darlun cliriaf erioed o ddigartrefedd yng Nghymru.
Mae rhai awdurdodau lleol a ddywedodd nad oedd unrhyw un yn cysgu allan yn ystod y cyfrif a wnaed am bythefnos fis Hydref diwethaf wedi darparu ar gyfer degau o bobl ddigartref ar y stryd yn ystod y cyfyngiadau symud.
Rydym yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oes unrhyw un yn dychwelyd i’r stryd. Y gronfa o £20 miliwn, a’r cynllun Cam 2 hwn gan Lywodraeth Cymru yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni hynny. Dilynwyd argymhellion y Grŵp Gweithredu Digartrefedd yn ofalus ac rydym yn falch iawn o fod wedi cyfrannu at y gwaith pwysig hwn.
Rydym yn falch iawn o weld bod dulliau a lywir gan seicoleg a thrawma o ran cyflawni a chomisiynu wedi’u mabwysiadu. Rydym yn falch o’r cyfle i weithio gydag awdurdodau lleol lle’r ydym yn gweithredu ledled Cymru ar wasanaethau gwirioneddol arloesol a blaengar i sicrhau bod y gwaith a ddechreuwyd yn ystod y pandemig yn parhau ac nad yw’r bobl sydd wedi cael cymorth yn cael eu gadael ar ôl bellach.
Rydym hefyd yn falch o weld cydnabyddiaeth bod angen i awdurdodau lleol a’u partneriaid cymorth barhau i weithredu gydag ysbryd o ymddiriedaeth a didwylledd, gan gynnig hyblygrwydd i helpu ei gilydd i gyflawni’r weledigaeth gyffredin o roi diwedd ar ddigartrefedd.
Mae angen ymrwymiad arnom yn awr i newid systemig i gael gwared ar y rhwystrau sy’n golygu nad yw pobl yn gallu dod allan o’r cylch digartrefedd megis diddymu angen ar sail blaenoriaeth, bwriadoldeb, cysylltiad lleol a defnyddio’r Ddeddf Crwydradaeth.
Mae’n ymddangos bod rhwystrau wedi’u dileu yn ystod y cyfnod digynsail hwn, a rhaid i hyn barhau, a pharhau’n gyflym. Yn benodol, mae awdurdodau lleol yn parhau i bryderu y gallai cyfraith mewnfudo eu hatal rhag gweithredu i ddarparu cymorth pellach i rai pobl sydd wedi cael to uwch eu pennau am y tro cyntaf yn ystod y pandemig. Er eu bod yn gallu darparu llety brys mewn gwestai ar sail iechyd cyhoeddus, os yw unigolion wedi cael caniatâd i aros yn y DU heb hawl i gael arian cyhoeddus, ni fydd awdurdodau’n gallu darparu cymorth i’w cael i gartrefi parhaol. Gan nad yw’r mater hwn wedi’i ddatganoli i Gymru, mae angen i Swyddfa Gartref y DU adolygu’r ddeddfwriaeth hon ar frys i atal pobl rhag dychwelyd i’r strydoedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi herio awdurdodau lleol a phartneriaid i feddwl yn gyflym ac yn arloesol am ddewisiadau llety a defnyddio Dulliau Adeiladu Modern. Mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir nad yw ‘arwynebedd llawr’ yn dderbyniol mwyach, ac nad yw cynnig sach cysgu i rywun pan fydd ar y strydoedd yn ddigon.
Mae ôl-ddyledion rhent tai cymdeithasol wedi codi £100m ers argyfwng y coronafeirws ac mae mwy na 54% o landlordiaid wedi wynebu gostyngiad o ryw ffurf ar incwm o ganlyniad uniongyrchol i’r coronafeirws 2. Mae angen cartrefi a chymorth cynaliadwy hirdymor ar y bobl rydym yn eu cefnogi i oresgyn yr heriau sy’n eu hwynebu.
Felly, ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl, gydag optimistiaeth ofalus, i gynlluniau awdurdodau lleol gael eu datblygu ac rydym yn barod i chwarae ein rhan i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, am byth.