Cyhoeddi Ymchwil Newydd: Adroddiad Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol

25 Oct 2018

Mae’r prosiect newydd Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol yn rhoi llais i 30 o bobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd drwy Gymru.

Soniodd 100 y cant o’r rhai a gymerodd ran yn yr astudiaeth am o leiaf un math o drawma o’u plentyndod. Mae’r adroddiad yn dadansoddi sut mae nifer o’r cyfranogwyr wedi gorfod delio ag iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau neu broblemau teuluol a ph’un ai oedd y rhain yn ffactor o’u digartrefedd.

Comisiynwyd yr adroddiad gan The Wallich ac fe’i cynhaliwyd gan Nia Rees, Ymgynghorydd Ymchwil i’r sefydliad. Hefyd rhoddodd Dinas a Sir Abertawe gymorth ariannol tuag at y prosiect.

Darllenwch ein dogfen crynodeb cynhwysfawr o’r darganfyddiadau

 

Mae Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol yn cynnwys cyfweliadau manwl a gynhaliwyd gyda 30 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, oedd mewn cysylltiad â gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru.

Prif ganfyddiadau

Roedd 47 y cant o’r grŵp yn ddigartref oherwydd bod perthynas wedi chwalu o fewn y teulu; yn aml dywedwyd bod gwrthdaro rhwng y person ifanc a’i rieni.

Dywedodd 17 y cant o’r bobl ifanc fod marwolaeth aelod agos o’r teulu wedi effeithio cymaint arnynt nes iddo ddod yn ffactor allweddol o’u digartrefedd. Mewn rhai achosion, roedd rhiant wedi marw, gan achosi pwysau ychwanegol ar y rhiant arall. Arweiniodd hyn at weddill y teulu’n dioddef ac yn chwalu.

Dywedodd un o bob pedwar o’r grŵp eu bod wedi cael profiad o drais, camdriniaeth neu gam-drin rhywiol o fewn y cartref, weithiau gan aelod o’r teulu, weithiau gan ffrind i’r teulu.

Roedd 50 y cant o’r grŵp wedi cael eu diagnosio â phroblemau iechyd meddwl. Roedd y problemau hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i,  anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhwylderau bwyta, iselder ac anhwylderau personoliaeth.

Dywedodd 7 y cant o’r grŵp mai defnyddio cyffuriau neu alcohol oedd y prif ffactor a arweiniodd at fod yn ddigartref; dywedodd 80 y cant bod defnyddio cyffuriau neu alcohol wedi dod yn nodwedd o’u digartrefedd – roedd nifer o bobl wedi troi at gyffuriau fel ffordd o hunanfeddyginaethu ar ôl i bopeth arall fethu.

Mae canfyddiadau adroddiad Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol ar gamddefnyddio sylweddau yn cefnogi’r astudiaeth ddiweddar gan Goleg Prifysgol Llundain  a ganfu fod nifer y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n llwyr ymwrthodwyr wedi cynyddu o 18 y cant yn 2005 i 29 y cant yn 2015. O safbwynt digartrefedd, roedd trawma yn ystod plentyndod yn achos mwy cyffredin o ddigartrefedd ymysg pobl ifanc na chyffuriau neu alcohol.

Siaradodd pobl ifanc yn fanwl a meddylgar am ddigwyddiadau a sefyllfaoedd trawmatig ar aelwydydd eu teuluoedd. Mae dyfyniadau o’u cyfweliadau i’w gweld yn yr adroddiad llawn.

Cafodd Natasha, newidiwyd ei henw i ddiogelu ei manylion adnabod, ei cham-drin gan ei llystad. Pan oedd yn 18 oed cafodd ei chyfweld a dywedodd, “Roedd yn fy ngham-drin yn rhywiol, yn gofyn i mi am arian nad oedd gen i hawl i’w roi iddo. Roedd yn gas gyda fy mrawd. Cafodd fy chwaer hŷn ei throi ymaith o’r cartref, a cherddais innau allan.”

Bellach mae Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod – neu ACEs – yn cael eu cydnabod gan seicolegwyr, nifer o asiantaethau cefnogi, gofal ac iechyd meddwl a’r system cyfiawnder troseddol fel ffactor pwysig wrth weithio gyda phobl fregus.

Mae The Wallich wedi datblygu arferion gweithio i feithrin cadernid ein cleientiaid; gan dorri ar gylch achosion mynych o ACEs i sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol ddatrys problemau a allai gyfrannu at achosion o ddigartrefedd.

Meddai Lindsay Cordery-Bruce, prif weithredwr The Wallich:

“Nid yw’r adroddiad yn awgrymu bod cael profiad o ddigwyddiad trawmatig yn arwain yn awtomatig at fod yn ddigartref.

“Yr hyn sy’n bwysig ei ddysgu, yw bod profiadau fel y rhain, na chafodd eu cydnabod na’u trin ar y pryd, yn gallu effeithio ar berson ifanc i’r fath raddau nes ei fod yn debygol y gallai trawma pellach, fel profi digartrefedd, ddigwydd ymhellach ymlaen.

“Dim ond un ochr i’r geiniog yw cydnabod ACEs. Nid yw’r ffaith bod pobl wedi cael profiad o’r pethau yma’n golygu y dylem eu diystyru neu danbrisio eu potensial. Mae pobl ifanc yn wydn, a gwyddom fod gweithio gyda nhw a’u profiadau’n gallu ysbrydoli dyfodol cadarnhaol.”

Mae adroddiad Lleisiau Gwirioneddol, Trawma Gwirioneddol yn cynnwys nifer o argymhellion o ran polisi ac ymarfer. Mae ein gwaith eisoes yn adlewyrchu nifer o’r argymhellion ac fel elusen, llwyddwyd i adsefydlu cleientiaid drwy eu cynnwys yn y broses o lunio gwasanaethau a darparu gwasanaethau wedi’u llywio gan drawma a gan gyd-destun seicolegol yn y sector digartrefedd.

Tudalennau cysylltiedig