Cadwch y Goleuadau Ymlaen – Ein hymgyrch gaeaf

10 Oct 2019

Cyfrannwch at ein hymgyrch.
Achubwch y Lloches Nos.
Rhowch ddiwedd ar ddigartrefedd.

Mae hi’n Ddiwrnod Digartrefedd y Byd heddiw. Diwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth ac annog cymunedau lleol i helpu’r rhai sy’n ddigartref. Rydym ni’n credu mewn Cymru lle mae pobl yn sefyll gyda’i gilydd i roi gobaith, cymorth ac atebion i roi diwedd ar ddigartrefedd, a dyna pam rydym yn gofyn am eich help y gaeaf hwn.

Mae cysgu ar y stryd yn argyfwng cenedlaethol. Gallwch chi helpu.

Mae’n 7pm. Mae’n nosi’n gynt. Mae’n dywyll, mae’n oer ac i rywun sy’n cysgu ar y stryd, mae’n mynd i fod yn noson hir a pheryglus. Does dim rhaid i bethau fod fel hyn.

Cadw’r golau ymlaen. Cadw’r oerni allan.

Rhaid i ni gadw’r golau ymlaen yn ein Lloches Nos y gaeaf hwn ar gyfer y bobl sy’n cysgu allan yn yr oerni.

Am 7pm, mae drysau’r Lloches Nos yn agor ac yn cynnig croeso cynnes i 23 o bobl yn ein cymuned a fyddai’n cysgu allan heno fel arall. Iddyn nhw, mae’r Lloches Nos yn ddewis amgen. Mae’n cynnig cynhesrwydd, cysur a diogelwch. A dim ond megis dechrau ydy hyn.

Mae’r Lloches Nos yn cynnig mwy na dim ond pedair wal a rhywle diogel i gysgu. Mae ein tîm o arbenigwyr yno i gynnig cymorth, cysur a chyngor. Byddwn yn siarad am eu diwrnod dros swper ac yn dechrau meithrin y berthynas a’r ymddiriedaeth a fydd yn helpu i gefnogi’r bobl hyn i gymryd eu camau nesaf allan o ddigartrefedd.

Mae’r Lloches Nos yn wasanaeth hanfodol yn ein cymuned, a gall fod y man cychwyn i bobl ar eu taith i adael digartrefedd. Ond heb eich cymorth chi, bydd y gwasanaeth hanfodol hwn mewn perygl.

Mae angen eich help arnom

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i ni godi £89,000 i sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn dal i fod ar gael i gynnig noson o gwsg diogel i bobl a fyddai’n gorfod treulio’r noson ar y stryd yng Nghaerdydd fel arall.

Mewn blwyddyn, mae’r Lloches Nos yn cynnig:

Drwy gydol y gaeaf, bydd ein hymgyrch yn taflu goleuni ar waith y Lloches Nos, ar ddigartrefedd ac ar straeon y bobl sy’n byw drwy hynny nawr. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor ymarferol i chi ar sut gallwch chi helpu.

Mae cysgu ar y stryd yn argyfwng cenedlaethol, ac ymateb cymunedol i ddigartrefedd yw’r unig ffordd i roi diwedd ar hyn.  Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau y bydd y gwasanaeth hanfodol hwn yn dal i fod ar gael 365 noson y flwyddyn – gan gynnwys ar ddiwrnod Nadolig – i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen pan fyddant yn fwyaf agored i niwed.

Cyfrannwch nawr

Tudalennau cysylltiedig