Pete Fowler, I Loves The ‘Diff ac artistiaid Cymru yn lansio cardiau post elusennol ar gyfer y rhai sy’n treulio gwyliau gartref yr haf hwn

11 Aug 2020

Mae wyth o artistiaid Cymreig wedi cynhyrchu pecyn o gardiau post £5 ar gyfer elusen ddigartrefedd flaenllaw The Wallich, fel cerdyn serch i bawb sy’n aros yn y DU dros wyliau’r haf.

Yn costio dim ond £5 am wyth o gardiau, bydd holl elw’r cynllun Cardiau Post o Gartref yn mynd i The Wallich i helpu pobl sy’n profi digartrefedd ledled Cymru.

Gyda chyfyngiad ar deithio diangen a llawer o bobl un ai’n aros gartref neu’r archwilio’r DU, mae Cardiau Post o Gartref yn annog pobl i gadw cysylltiad, lle bynnag y maent, er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd a’r felan yn ystod yr haf.

Yr artistiaid

Ian Johnson / I Loves The ‘Diff

Mae cerdyn post I Loves the ‘Diff yn ddelwedd gan Ian Johnson, a dynnwyd ar 1 Mai 2020.

“Mewn gwirionedd dim ond llun sydyn a dynnais ar fy ffôn wrth i mi fynd i’r gwaith fore Gwener diwethaf,” meddai Ian, sy’n gweithio yn y BBC.

Fe wnaeth y llun, sy’n dangos un o Fysiau Caerdydd ar Heol y Parc gyda’i neges “Cheers Drive”, argraff ar lawer o bobl ar-lein a oedd yn colli Caerdydd ac a oedd hefyd yn dymuno mynegi eu diolch i’r gweithwyr allweddol a oedd yn cadw pethau i fynd.

Mae hefyd yn dangos Stadiwm Principality, wedi’i drosi’n Ysbyty Calon y Ddraig, gan greu awyrgylch penodol yn ystod y cyfnod hwn.

Pete Fowler

Artist a anwyd yng Nghaerdydd, mae Pete yn gweithio ym maes darlunio, peintio, dylunio a cherfluniau.

Gyda’i arddull unigryw ei hun mae Pete wedi creu delweddau adnabyddadwy ar gyfer albymau, fideos a nwyddau’r band roc Super Furry Animals.

Phil Morgan

Darlunydd lleol o fri, mae arddull celf stryd Phil Morgan yn adnabyddadwy ar unwaith ac yn boblogaidd iawn.

Yn llawn cyfeiriadau at gerddoriaeth a sglefrfyrddio – ac weithiau diwylliant Cymreig – mae gwaith Phil yn cymryd elfennau adnabyddus o ddiwylliant pop byd eang ac yn rhoi pwrpas newydd iddynt gyda winc, gwên ac – yn aml iawn – bys canol.

Suzanne Carpenter

Mae Suzanne yn un hanner o bwerdy creadigol yng Nghaerdydd, sef y cwpl priod y Patternistas, stiwdio greadigol sydd wedi ennill gwobrau gydag “angerdd am batrymau a’r grym sydd ganddynt i weddnewid cynnyrch a gofodau a rhoi gwên hapus ar wynebau”.

Matt Joyce

Mae Matt yn ddylunydd llawrydd sy’n gweithio yn y DU ac yn arbenigo mewn murluniau, animeiddiadau a mapiau.

Mae ei ddarluniau yn cyfuno llinellau cryf a lliwiau llachar gyda hiwmor ac estheteg rydd, a ddyluniwyd â llaw.

Rohanne Sanders

Mae Rohanne yn ddylunydd graffeg ac arlunydd yng Nghaerdydd.

Gan ddefnyddio’i gradd mewn dylunio graffeg a’i hangerdd ei hun am gelf draddodiadol, mae’n mwynhau cyfuno’r sgiliau hyn i greu darnau gwrthgyferbyniol sy’n canolbwyntio ar fynegiant a lliw.

Sophie Potter

Yn ddarlunydd llawrydd, mae gan Sophie gefndir yn ieithoedd a diwylliant Japan a Ffrainc, ac mae’n arbenigo mewn darlunio ar gyfer busnesau, pecynnu a gwaith golygyddol.

Mae gwaith Sophie yn aml yn cael ei nodweddu gan flodau ac anifeiliaid, gwrthrychau diddorol a lliwiau llachar.

Frank Collict

Ganwyd Frank yn yr Alban ond magwyd ef yng ngogledd ddwyrain Lloegr ac fe’i hyfforddwyd ym maes dylunio graffeg yno cyn dod i Gymru i astudio darlunio bywyd gwyllt. Daeth gwaith ag ef i Gaerdydd, ac ymsefydlodd ym Mhenarth.

Wedi gyrfa fer ym maes argraffu, mae bellach yn arlunio. Yn arlunydd tirluniau yn bennaf, mewn olew a dyfrlliw, mae’n well ganddo beintio’n uniongyrchol o fyd natur, gan weithio’n gyflym gyda phalet cyfyngedig gan geisio cipio’r ddelwedd o’i flaen yn y ffordd fwyaf cynnil bosibl.

Digatrefedd yn cymru

Tŷ Tom Jones

Yn ystod cyfnod cychwynnol cyfyngiadau symud COVID-19, addasodd The Wallich ei wasanaethau i barhau i gefnogi pobl drwy:

Tudalennau cysylltiedig