Mae’r Côr Heb Enw (CWNN) yn gôr cymunedol ar gyfer pobl y mae digartrefedd yn effeithio arnyn nhw, a phobl eraill sy’n mynd drwy gyfnodau anodd.
Mae’r côr o Gaerdydd, sef menter bartneriaeth gyda The Wallich, yn croesawu aelodau o’r gymuned sy’n cefnogi ei gilydd, ac yn canu gyda’i gilydd, pa bynnag gam o’u taith y maen nhw arni.
Gall unrhyw un sy’n mwynhau canu a cherddoriaeth ymuno â’r côr cynhwysol.
Am ddwy flynedd, bu’r côr yn perfformio mewn gigs bach ac yn mireinio eu sgiliau perfformio.
Yn 2024, daeth yr amser o’r diwedd i groesawu Côr heb Enw Caerdydd i’r llwyfan ar gyfer ei ‘Gig Mawr’ cyntaf yn y ddinas.
Wedi hir ddisgwyl, cynhaliwyd y gig yn Eglwys y Tabernacl yng nghanol Caerdydd, a chafodd Corws Dynion Hoyw De Cymru eu gwahodd i berfformio hefyd.
Bu’r gynulleidfa’n gwylio’r côr yn perfformio datganiadau o glasuron modern, gan gynnwys ‘Light my Fire’ gan The Doors, a medli o ganeuon y band Queen, fel ‘We Will Rock You’ a ‘Don’t Stop Me Now’.
Noddwyd y digwyddiad yn garedig gan Vale Consultancy.
Yn debyg i unrhyw ddiwrnod arall o ymarfer, bu’r côr yn treulio amser yn canu cyn mwynhau pryd o fwyd poeth.
Yr unig wahaniaeth y tro hwn oedd y ffaith eu bod wedi mwynhau pizzas am ddim gan Franco Manca a chyri figan gan Atma Lounge.
Yn ystod y gig, clywsom berfformiadau gan y Côr heb Enw a Chorws Dynion Hoyw De Cymru, a chawsom ymddangosiad annisgwyl gan aelodau o ‘Open Verse’.
Roedd y darn ‘Open Verse’ yn gydweithrediad rhwng Côr heb Enw Caerdydd, Prosiect Stori The Wallich, ac Uchelgais Grand Abertawe.
Yn ystod yr egwyl, cafodd y gynulleidfa gyfle i gael sgwrs dros baned a chacen, yn ogystal â chyfle i brynu bagiau a chrysau-t – a werthodd yn dda iawn – neu i wneud cyfraniad.
Helpodd hyn y côr i godi bron i £700.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am redeg y côr, trafnidiaeth a’r prydau poeth a ddarperir bob wythnos yn ystod yr ymarferion.
Roedd maint yr ymdrech i’w weld yn glir yn ystod y diweddglo, wrth i’r Côr heb Enw, Corws Dynion Hoyw De Cymru ac aelodau o ‘Open Verse’ berfformio cân gyda’i gilydd. Yn dilyn y perfformiadau, cododd y gynulleidfa ar ei thraed i’w cymeradwyo.
“Roedd ein gig yn llawn hapusrwydd a thalent, ac roedd yn brofiad pleserus dros ben.
“Roedd hi’n anhygoel cael cynnal ein gig ein hunain o’r diwedd a gweld cynifer o bobl yn y gynulleidfa’n cefnogi ein côr.
Roedd hi’n hyfryd gweld yr holl lawenydd yn yr ystafell, wrth i’n haelodau ni a Chorws Dynion Hoyw De Cymru rannu’r profiad gyda’i gilydd.
Byddwn yn trefnu gig Nadolig hefyd, felly cadwch lygad am fanylion!”
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu ni, ac wedi gwneud y diwrnod yn un mor arbennig.
Mae’r côr yn cael ei ariannu’n hael gan Ymddiriedolaeth Tudor a Gwobrau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol – Cymru.
Os ydych chi wedi bod yn ddigartref ac yn chwilio am gymuned, mae Côr heb Enw Caerdydd bob amser yn chwilio am aelodau newydd.
Mae’r côr yn croesawu pawb – p’un a ydych chi’n ystyried eich hun yn ganwr o fri… neu wrth eich bodd yn canu!
Fel rhan o’r ymarferion, cewch gyfle i gael bwyd poeth a sgwrs dda gyda ffrindiau.
Mae’r ymarferion yn cael eu cynnal pob nos Fawrth rhwng 6pm a 7pm yn Neuadd Gymunedol St Paul, Grangetown.