Elusen cynhwysiant cymdeithasol yw Pêl-droed Stryd Cymru, sy’n cynnig cyfleoedd i bobl sydd wedi cael eu hynysu a’u heithrio’n gymdeithasol – gan gynnwys y rheini sydd wedi profi digartrefedd – chwarae pêl-droed, gwneud ffrindiau, magu hunanhyder a bod yn rhan o gymuned.
Rhoddwyd logo elusen The Wallich ar gefn y cit tîm cenedlaethol yng Nghwpan y Byd Pêl-droed Stryd yn Dundee yn ddiweddar.
Dywedodd Scott Jeynes, Rheolwr Prosiect Pêl-droed Stryd Cymru:
“Rydyn ni mor ddiolchgar i bawb yn The Wallich am eu nawdd.
Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn wych ac rydyn ni’n falch iawn o’u cael nhw.
Roedd Cwpan y Byd Pêl-droed Stryd yn Dundee yn llwyddiant ysgubol i ni ac roedd yn wych i’n chwaraewyr gynrychioli Cymru gyda chefnogaeth ein noddwyr, The Wallich a White Boxes.”
Dywedodd Jamie-Lee Cole, Rheolwr Brand a Chyfathrebu The Wallich:
“Mae Pêl-droed Stryd Cymru yn adnodd anhygoel i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi ledled Cymru.
Mae gallu chwaraeon i ddod â phobl at ei gilydd, i weithio fel tîm tuag at nod cyffredin, yn ffordd wych o wella llesiant a hyder rhywun sydd wedi bod yn ddigartref.
Mae pêl-droed yng Nghymru, yn union fel y bobl rydyn ni’n eu cefnogi, wedi dangos gwytnwch aruthrol dros y blynyddoedd ac mae’n dangos beth y gellir ei gyflawni er gwaethaf popeth.
Roedd hi’n teimlo’n iawn i ddefnyddio’r hyn sydd gennym, i roi rhywbeth yn ôl a noddi crysau tîm dynion a merched Pêl-droed Stryd Cymru eleni.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn rhoi hwb i’r chwaraewyr ac y byddant yn mwynhau eu hunain yn ystod eu gemau.
Pob lwc i’r dyfodol ac fel maen nhw’n ei ddweud: Gorau Chwarae Cyd Chwarae / Together Stronger.”
Mae The Wallich a Phêl-droed Stryd Cymru wedi cefnogi ei gilydd ers tro byd i weithio gyda phobl sydd wedi profi digartrefedd.
Yn 2019, chwaraeodd Pêl-droed Stryd Cymru a The Wallich ran bwysig yng Nghwpan y Byd y Digartref, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.
Dan arweiniad noddwr Pêl-droed Stryd Cymru, Michael Sheen, roedd Pêl-droed Stryd Cymru yn falch o roi cyfle i dimau cenedlaethol Cymru, Welsh Warriers a Cymru a Welsh Dragons, yn y twrnamaint.
Roedd The Wallich ar y safle am yr wythnos gyfan, wrth i arweinwyr diogelu a pharcio ein Cerbyd Lles i gefnogi pobl a oedd yn ddigartref neu sydd angen cymorth arall yng Nghwpan y Byd y Digartref.
Does dim rhwystrau i chwarae pêl-droed gyda Phêl-droed Stryd Cymru.
Does dim ots beth yw eich oedran, eich ffitrwydd, eich sefyllfa na’ch cefndir, mae nifer o unigolion sy’n cyrraedd ar y diwrnod ac yn chwarae.
Mae’r sesiynau wedi’u lleoli mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru.
Ewch i wefan Pêl-droed Stryd Cymru i gael manylion am sesiynau cymysg neu sesiynau i fenywod yn unig, yn Nghaerdydd, Hwlffordd, Abertawe, Casnewydd, Merthyr Tudful, Treffynnon a’r Rhyl.