Y Cerbyd Lles

Cymru Gyfan

029 2066 8464

Mae’r Cerbyd Lles yn gweithredu ledled Cymru gan ymateb i anghenion lleol.

textimgblock-img

Gall rhain gynnwys cynnydd sydyn yn nifer y bobl sy’n cysgu allan, neu roi sylw i bryderon lleol. Mae’n rhoi cymorth i gymunedau, grwpiau ac unigolion mewn ardaloedd lle nad oes llawer o wasanaethau ar hyn o bryd. Gweithreda hefyd er mwyn darparu gwasanaeth allgymorth os nad oes gwasanaethau ar gael.

O Aberystwyth, Caerdydd a Chaerfyrddin, gall ein staff fod wrth law i roi cyngor a chymorth, gan gynnig amgylchedd diogel i’r rhai sydd â nunlle i fynd.

Mae gan y Cerbyd Lles nifer o gyfleusterau i helpu pobl sy’n canfod eu hunain yn ddigartref, gan gynnwys cawod, ystafell gyfarfod un-i-un, peiriant golchi a wi-fi.

Mae’r lori borffor fawr ar gael hefyd ar gyfer digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a diwrnodau agored lle gall ein staff a’n gwirfoddolwyr profiadol siarad â’ch cynulleidfa am ddigartrefedd.

Darllenwch daflen y Cerbyd Lles i gael rhagor o wybodaeth.