Cyfarfod Osian Lloyd enillydd Gwobr Ysbrydoli! Addysg Oedolion

15 Sep 2025

Mae pob un yn o enillwyr gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall addysg gynnig ail gyfle, helpu i greu cyfleoedd gwaith newydd, magu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fywiog a llwyddiannus.

I gydnabod yr hyn y mae wedi’i gyflawni, mae Osian wedi ennill Gwobr Oedolyn Ifanc – Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eleni a gyflwynir yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar 18 Medi. Mae’n un o 11 sydd wedi ennill gwobrau.

Stori Osian

Osian holding guitar

Ar ôl colli ei fam yn chwech oed, gadawodd Osian yr ysgol pan oedd yn 13 oed, aeth i’r system ofal flwyddyn yn ddiweddarach, ac erbyn 17 oed roedd yn ddigartref.

Roedd wedi symud o Flaenau Ffestiniog, ei dref enedigol, i Gaernarfon, ond roedd yn dal i ddioddef o drawma ei blentyndod, oedd yn achosi gorbryder ac iselder iddo.

Yn sgil symud i Gaerdydd yn 2019 i chwarae pêl-droed dechreuodd daith ryfeddol yn ymwneud â Michael Sheen. Dechreuodd eu perthynas pan chwaraeodd Osian yng Nghwpan y Byd i’r Digartref yng Nghaerdydd, lle daeth i gysylltiad â The Wallich am y tro cyntaf.

“Cymerodd Michael ran amlwg yn y twrnamaint yn ogystal â chymryd rhan mewn rhaglen ddogfen am fy nhaith a fy mhrofiad fy hun,” meddai Osian, sy’n 25 oed. “Yn ddiweddarach roeddwn yn ddigartref eto ac fe es i ddigwyddiad tebyg i aduniad lle rhoddodd Michael araith bwerus iawn.

“Siaradais gydag ef am fy sefyllfa a’r problemau yr oeddwn yn eu hwynebu ac fe gyfarfu â rhai pobl o The Wallich a roddodd gymorth i mi gyda thai a chyllid.

“Fe wnaeth ei garedigrwydd, ei ddoethineb a’i benderfyniad i helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru fy ysbrydoli i ddal ati trwy gyfnodau anodd. Daeth yn arwr i mi, yn ddylanwad enfawr yn fy mywyd gan fy annog i ddysgu.

“Yn union fel roeddwn i’n dechrau anobeithio, heb neb i droi ato, fe wnaeth The Wallich ac yntau fy nghynnal a fy nghefnogi a fydda i byth yn anghofio eu caredigrwydd.”

textimgblock-img

Mae Osian bellach yn actor dawnus sy’n dangos addewid, ar ôl cymryd rhan yn ‘Y Prosiect Stori’ ledled Cymru gan The Wallich ar ddechrau 2024, rhaglen hyfforddi theatr 10 wythnos a wnaeth ei gyflwyno i fyd y llwyfan a’r sgrin.

Mae eisoes wedi ymddangos ar lwyfan Theatr y Sherman. Mae hyn wedi arwain at ei rôl broffesiynol gyntaf fel cynhyrchydd yng Nghaerdydd – drama o’r enw An Orange in the Subway  – o fis Medi 9-27.

 

Ynglŷn â Gwobrau Ysbrydoli!

Portrait of Osian

Dyma uchafbwynt Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru, a gynhelir rhwng Medi 15-21. Mae’r gwobrau’n cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu. Mae’r gwobrau’n cael eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Meddai Osian, sy’n falch o ennill y wobr:

“Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai gyrfa mewn actio ar gyfer ‘rhywun fel fi’, ond addysg oedolion a roddodd gychwyn ar y daith hon i ddod yn actor, dysgu’r gitâr a bod yn greadigol.”

Meddai Rosie Seager, cydlynydd celfyddydau creadigol yn The Wallich:

“Mae Osian wedi trawsnewid ei fywyd trwy bŵer addysg oedolion, gan ddangos cryfder, cymhelliant ac ymrwymiad anhygoel i’w daith ddysgu.”

Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i ddechrau ar eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu wyneb yn wyneb a sesiynau ar-lein yn cael eu cynnal drwy gydol mis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i ddechrau dysgu fel ffordd o wella eu siawns o gael gwaith, meithrin sgiliau bywyd a gwella ansawdd eu bywyd.

Meddai Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llywodraeth Cymru:

“Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle i ddathlu’r hyn y mae dysgwyr yn ei gyflawni ac ysbrydoli pobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau mewn ffordd gadarnhaol.

“Dylai pawb gael y cyfle i newid cyfeiriad a mynd ar drywydd gwahanol o ran gyrfa ym mha bynnag gyfnod o fywyd maen nhw ynddo. Mae straeon Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn dangos faint y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn cael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau a dychwelyd i ddysgu.”

Ychwanega Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru:

“Mae dysgu yn daith gydol oes sy’n cyfoethogi pob rhan ohonom. P’un ai a ydyn ni’n dysgu sgìl newydd ar gyfer ein gyrfa, ein hiechyd, neu er boddhad yn unig, mae pob cam rydyn ni’n ei gymryd mewn addysg yn rhoi hwb i’n hyder a’n hymdeimlad o bwrpas.

“Mewn byd sy’n datblygu’n gyflym, mae’n hanfodol cefnogi a dathlu’r oedolion yng Nghymru sy’n mynd ati i ddysgu ar wahanol gyfnodau o fywyd. Mae eu hymrwymiad i ddatblygu sgiliau newydd nid yn unig yn trawsnewid eu bywydau eu hunain ond hefyd yn helpu i adeiladu dyfodol mwy gwydn sy’n gallu  addasu i’n cymunedau.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion ac i gael cyngor personol ar eich opsiynau dysgu eich hun a’r cymorth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu ewch i https://cymrungweithio.llyw.cymru/