Adroddiad manwl yn dangos cynnydd mewn digartrefedd cyson

04 Feb 2019

Cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r cyfrif cysgu allan, rydym wedi cyhoeddi adroddiad manwl ar y mathau o bobl yr ydym wedi eu cynorthwyo ar strydoedd De Cymru’r llynedd. Yn ein hadroddiad hefyd gwneir saith argymhelliad i leihau digartrefedd drwy’r wlad.

Mae Monitor Ffordd o Fyw ar y Stryd (SBL) The Wallich yn dangos nifer y bobl a welwyd gan ein Timau Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd (RSIT), yng Nghaerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe rhwng Tachwedd 2017 a Hydref 2018. Nod yr adroddiad yw adlewyrchu darlun ehangach o ddigartrefedd er mwyn deall y gwir achos ac i helpu i ddylanwadu ar bolisi yn y dyfodol. 

Prif Ystadegau 

Mae Timau RSIT The Wallich a gasglodd y data’n darparu diodydd cynnes, bwyd, ac yn cyfeirio pobl at gymorth priodol ar gyfer pobl sydd â ffyrdd o fyw ar y stryd. Fel rhan o’r gwaith hwn, casglodd y timau ddata am y bobl y maent yn ymgysylltu â nhw.

Gellir defnyddio’r data gan y Timau RSIT i greu darlun meintiol o bobl sydd â ffordd o fyw ar y stryd yn Ne Cymru. 

Argymhellion polisi 

Mae Llywodraeth Cymru ar fin cyhoeddi ei gyfrif cysgu allan cenedlaethol ei hun ddydd Mawrth 5 Chwefror. Mae’r Wallich wedi gwneud saith argymhelliad ar gyfer gwneuthurwyr penderfyniadau, fel Llywodraeth Cymru, a sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda phobl sy’n ddigartref, hynny yw, bod: 

  1. Angen i wahanol asiantaethau (tai, iechyd, cyfiawnder troseddol) weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol a chanolbwyntio ar gymorth yn seiliedig ar drawma 
  2. Cyflwyno Uwch Ganolfannau Lleihau Niwed (lle y gall pobl ddefnyddio cyffuriau dan oruchwyliaeth feddygol). 
  3. Disodli’r system ‘angen yn ôl blaenoriaeth’ sy’n bodoli yng Nghymru gyda system lle mae pawb sydd â ffordd o fyw ar y stryd yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, pan mae ei angen arnyn nhw. 

Meddai Lindsay Cordery-Bruce, prif weithredwr The Wallich,

“Mae ein data’n awgrymu bod mwy o alw nag erioed am ein cymorth, yma yng Nghymru. Fodd bynnag, mae tueddiadau’n newid: mewn rhai ardaloedd mae gostyngiad yn nifer y bobl newydd y mae angen ein gwasanaethau cysgu allan arnynt, eto i gyd rydym yn gweld yr un bobl dro ar ôl tro, sy’n awgrymu bod gennym argyfwng o bobl sydd wedi bod yn ddigartref ers chwe mis neu fwy. Mae pobl sydd wedi bod ar y strydoedd am amser hir yn ei chael yn fwyfwy anodd torri cylch digartrefedd. 

“Yn amlwg, nid yw’r cymorth sydd ar gael i bobl ddigartref yn gweithio i bawb. Mae’r rhai sydd wedi bod yn ddigartref ers mwy na chwe mis wynebu rhwystr o orfod wynebu systemau mwy cymhleth neu efallai nad yw hosteli traddodiadol yn addas iddyn nhw. 

“Rhaid cydnabod hefyd effaith Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) a thrawma cymhleth. Rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd i weithio’n therapiwtig ac mewn ffordd sy’n seiliedig ar anghenion seicolegol gyda phobl ddigartref a bregus sy’n aml wedi dioddef trawma erchyll a sylweddol drwy gydol eu bywydau. Nid oes ateb sydyn i’r sefyllfa bresennol; mae hwn yn fethiant yn ein sector a rhaid ei gydnabod, ei ariannu’n briodol a mynd i’r afael â dulliau arloesol i gael pobl oddi ar y strydoedd i le diogel. 

“Mae newid sylweddol, pryderus hefyd yn yr holl naratif ynglŷn â digartrefedd. Mae diwylliant beio a rhethreg negyddol yn llithro drwy’r bylchau lle mae gwendidau’n amlwg; mae hyn yn tynnu sylw oddi wrth y broblem ac nid yw o unrhyw fantais. Rwy’n hyderus y gallai ein hargymhellion rhesymegol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar bobl fod yn hollbwysig i leihau digartrefedd, pe byddent yn cael eu gweithredu.” 

Stori Andy 

Roedd Andy (56), sydd bellach yn byw yn Abertawe, wedi bod yn ddigartref am nifer o flynyddoedd drwy Gymru a gweddill y DU. Roedd gan Andy broblemau gydag alcohol am y rhan fwyaf o’i fywyd, ac effeithiodd hyn ar ei berthynas ag eraill a’i iechyd meddwl. Roedd yn golygu nad arhosodd erioed mewn llety am amser hir ac roedd mewn cysylltiad parhaus â’r system cyfiawnder troseddol; mae’n enghraifft berffaith o sut y gallwch fod yn gaeth i gylch digartrefedd unwaith yr ydych yn y cylch hwnnw. 

Meddai Andy,

“Roeddwn yn dilyn yr un patrwm – meddwi, cysgu allan, a hynny’n arwain at dreulio cyfnod yn y carchar a symud ymlaen i fod yn broblem yn rhywle arall. 

Darllenwch Stori Andy 

Mae darllenwyr Monitor Ffordd o Fyw ar y Stryd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r gwasanaeth StreetLink – mae The Wallich yn bartner i’r gwasanaeth hwn yng Nghymru. Ei bwrpas yw galluogi unigolyn i gofrestru rhywun a welant ar y stryd. Yna caiff y data ei drosglwyddo i’r awdurdod lleol perthnasol, sydd wedyn yn gallu rhoi sylw i’r mater a gweld a allant helpu’r unigolyn hwnnw neu honno drwy gynnig cymorth. Gall unrhyw un gofrestru ei hun, neu rywun arall sy’n cysgu allan, ar Streetlink drwy ffonio 0300 500 0914, yr ap syml ar ffonau clyfar, neu ar y wefan. 

Darllenwch y Monitro Ffordd o Fyw ar Y Stryd

Tudalennau cysylltiedig