Datganiad gan The Wallich: Iechyd a Diogelwch

29 Apr 2021

Ymateb The Wallich i sylw diweddar yn y cyfryngau

“Mae The Wallich yn cyflogi dros 400 o bobl ledled Cymru ac mae wedi cefnogi dros 7,000 o bobl ddigartref dros y flwyddyn ddiwethaf, drwy gadw gwasanaethau ar agor drwy gydol y pandemig.

“Mae natur ein gwaith, a’r materion sy’n wynebu’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi, yn golygu bod staff weithiau’n wynebu sefyllfaoedd o gamddefnyddio sylweddau, ymddygiad ymosodol, trais neu fygythiadau. Mae’n swydd anodd a heriol iawn ond mae’n rhoi boddhad mawr hefyd.

“Rydyn ni’n cynnig pecyn hyfforddi llawn sy’n cynnwys dros 30 o gyrsiau a sesiynau cynefino cynhwysfawr a gynhelir dros 5 diwrnod ar gyfer y sefydliad, yn ogystal â sesiwn gynefino leol a chyfleoedd i’n staff newydd gysgodi gweithwyr presennol.

“Yn ystod y pandemig, rydyn ni wedi gorfod symud ein hyfforddiant ffurfiol ar-lein, sydd wedi golygu ein bod wedi gallu addasu a pharhau i ddarparu hyfforddiant yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae gan The Wallich ymrwymiad hirsefydlog i’r egwyddorion o leihau niwed, yn enwedig o ran camddefnyddio sylweddau neu ymddygiad niweidiol arall. Mae gennym bolisi cadarn ar gamddefnyddio sylweddau ac rydyn ni’n darparu hyfforddiant i’n staff i’w galluogi i ddelio â’r materion hyn.

“Mae menig a biniau ar gyfer offer miniog sydd wedi’u cymeradwyo gan yr heddlu ar gael yn ein prosiectau. Mae Naloxone ar gael os yw rhywun wedi’i hyfforddi i’w weinyddu. Nid oes diffibrilwyr ym mhob un o’n hadeiladau, ond mae gennym restr o’r mannau y maen nhw ar gael i’r cyhoedd yn agos at ein gwasanaethau. Mae ein staff yn cael cynnig hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, gan gynnwys sut mae rhoi CPR.”