Diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth

08 Jul 2026

O’r diwedd nid yw Deddf Crwydradaeth 1824 yn gyfraith mwyach, ar ôl mwy na 200 mlynedd. Roedd y Ddeddf yn datgan bod cysgu allan yn drosedd felly mae hyn yn golygu nad yw digartrefedd bellach yn drosedd.

textimgblock-img

Dywedodd Sian Aldridge, Prif Weithredwr Dros Dro The Wallich:

“Os ydych chi’n cael eich gorfodi i gysgu ar y stryd, dydych chi ddim yn ‘grwydryn’, rydych chi’n berson sydd angen cymorth a chariad.

“Mae profi digartrefedd yn brofiad trawmatig dros ben ac roedd y Ddeddf Crwydradaeth 200 oed yn gwbl greulon, annynol ac yn atal pobl rhag torri’n rhydd o gylch digartrefedd. Mae diddymu’r Ddeddf wedi bod yn frwydr hir.

“Ers blynyddoedd, mae The Wallich wedi bod yn rhan o’r ymgyrch ‘Scrap the Act’, dan arweiniad Crisis ac arbenigwyr eraill ym maes digartrefedd fel Liberty (Cyngor Cenedlaethol Rhyddid Sifil)Shelter CymruSt Mungo’sCentrepointCymorth Cymru a Homeless Link. Rydyn ni mor falch bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau wedi gwrando ar ein hymgyrch i ddiddymu’r Ddeddf, gan sicrhau nad yw profi digartrefedd yn drosedd.

“Mae diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth yn derfynol yn dangos bod newid yn bosibl pan fyddwn ni’n codi llais gyda’n gilydd. Newid a allai drawsnewid sut rydyn ni’n mynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru.”

“Ein gobaith nawr yw na fydd yr heddlu nac awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio dulliau eraill i gosbi pobl yn ddiangen am gysgu allan.

Wrth gwrs, mae’r cyfreithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol presennol yn dal mewn grym pan fydd pryder troseddol. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gorchmynion gwasgaru, gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus a phensaernïaeth elyniaethus (fel meinciau atal cysgu a phigau o flaen drysau) yn cael eu defnyddio i atal pobl rhag cysgu mewn mannau penodol – nid oherwydd eu bod yn poeni unrhyw un, ond oherwydd stigma, i guddio digartrefedd yn ein trefi a’n dinasoedd.

“Mae diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth yn gam clir oddi wrth ymyleiddio a throseddoli, tuag at gymorth cadarnhaol i bobl sy’n byw ar ein strydoedd, ac rydyn ni’n falch bod y Ddeddf bellach y tu cefn i ni.”