Digartrefedd, gorddos, hunanladdiad a hunan-niwed wedi’i waethygu gan argyfwng iechyd meddwl y gellid ei osgoi yn ôl adroddiad ymchwiliol newydd

28 Mar 2023

Mae’r adroddiad Gohirio Iechyd Meddwl gan The Wallich yn nodi’r rhwystrau i fynediad a methiant yn y system atgyfeirio iechyd meddwl, sy’n golygu bod pobl agored i niwed sydd mewn argyfwng yn cael eu hystyried yn droseddwyr ac yn cael eu hail-drawmateiddio

Dim ond 3% o’r staff cymorth digartrefedd rheng flaen a gymerodd ran yn yr arolwg a ddywedodd fod cymorth priodol ar gael.

Mae adroddiadau digwyddiadau’r elusen yn dangos bod miloedd o achosion o hunan-niwed, hunanladdiad, gorddos ac ymddygiad ymosodol.

Yn dilyn canlyniadau arolwg staff yn ystod haf 2022, mae The Wallich, sef prif elusen digartrefedd Cymru, wedi cynnal ymchwiliad i’r sefyllfa bresennol o ran darpariaeth iechyd meddwl mewn argyfwng i bobl sy’n ddigartref yng Nghymru.

Ar ôl ymchwil helaeth dros yr wyth mis diwethaf, maent wedi cyhoeddi adroddiad sydd wedi canfod bod yr argyfwng iechyd meddwl yn effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n ddigartref.

Bydd yr adroddiad yn cael ei ryddhau mewn digwyddiad a noddir gan Jack Sargeant AS yn y Pierhead ddydd Mawrth 28 Mawrth am 12pm.

textimgblock-img

Y Prif Ganfyddiadau

  • Mewn arolwg ar gyfer staff rheng flaen ynghylch cael gafael ar gymorth iechyd meddwl i bobl mewn argyfwng:

Roedd 83% yn ei chael yn anodd cael gafael ar y cymorth iawn i gleientiaid (63% yn ei chael yn anodd iawn)
Dywedodd 8% fod dim cymorth ar gael
Dim ond 3% o’r staff ddywedodd fod cymorth priodol ar gael

  • Yn ôl dadansoddiad o 4,216 o gofnodion dros 3 blynedd ar system rheoli digwyddiadau’r elusen, roedd:481 achos o hunan-niwed neu feddwl am hunanladdiad
    294 achos yn ymwneud â gorddos cyffuriau neu alcohol
    1,508 achos o ymddygiad afreolus neu ymosodol

Arolwg Staff

Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020, bu staff cymorth The Wallich sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn helpu dros 4,000 o bobl a oedd yn ddigartref. Maent yn parhau i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Roedd staff The Wallich yn dweud eu bod yn fwy a mwy pryderus a rhwystredig oherwydd eu hanallu i sicrhau cymorth a chefnogaeth i bobl mewn argyfwng iechyd meddwl.

Fe wnaethant gymryd rhan mewn arolwg am eu profiadau ym mis Awst 2022.

Cyfrannodd Amy Lee Pierce, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn The Wallich, at yr adroddiad a dywedodd:

“Rydyn ni’n teimlo’n gryf bod gallu cael gafael ar y gofal iechyd meddwl cywir ar yr adeg iawn yn hanfodol er mwyn rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn barhaol.

“Mae pobl sydd â phrofiadau o ddigartrefedd, a’r rheini sydd â phrofiadau o drawma yn ehangach, yn fwy tebygol o ddioddef iechyd meddwl gwael na’r boblogaeth gyffredinol.

“Heb y gofal a’r gefnogaeth iawn, maen nhw mewn mwy o berygl o ddirywiad sylweddol o ran eu llesiant, ac yn yr argyfwng hwnnw, gweithwyr cymorth tai fel ein staff rheng flaen sy’n ymateb, weithiau’n achub bywydau hyd yn oed.”

Dyfyniad gan Weithiwr Cymorth yn The Wallich o’r adroddiad:

“Mae timau iechyd meddwl yn cymryd gormod o amser i ymateb. Gall gymryd mwy na 10 wythnos ar ôl digwyddiad i gael cyswllt cyntaf â’r cleient.

“Mae’n teimlo ein bod i fod i’w cadw’n ddiogel yn y cyfamser, sy’n anodd iawn. Yn amlwg, fel tîm, rydyn ni’n mynd yr ail filltir, ond dydyn ni ddim wedi cael ein hyfforddi i ddelio ag iechyd meddwl.”

Achosion o hunanladdiad a hunan-niwed

Aeth The Wallich ymlaen wedyn i ddadansoddi 4,216 o gofnodion ar eu system rheoli digwyddiadau dros dair blynedd , cyn ac ar ôl y pandemig, a dyma oedd y canfyddiadau:

481 achos o hunan-niwed neu feddwl am hunanladdiad
294 achos yn ymwneud â gorddos cyffuriau neu alcohol
1,508 achos o ymddygiad afreolus neu ymosodol

Daw’r elusen i’r casgliad drwy ddadansoddiad pellach fod y rhan fwyaf o’r digwyddiadau hyn yn deillio o argyfyngau iechyd meddwl neu’n gysylltiedig â nhw.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o astudiaethau achos manwl, sy’n aml yn peri gofid, i ddangos sut beth yw’r digwyddiadau hyn mewn gwirionedd i’r bobl sy’n wynebu argyfyngau iechyd meddwl a’r rheini sy’n gweithio ar y rheng flaen i’w cefnogi.

Mae’r llwybrau a’r systemau atgyfeirio cymhleth yn cael eu hymestyn i’w eithaf, sy’n golygu ei bod yn anodd iawn i bobl mewn argyfwng gael unrhyw help o gwbl gan wasanaethau iechyd meddwl pwrpasol, ac felly gwneud galwadau brys yw’r unig ddewis i staff sy’n poeni.

Mewn 1,845 o achosion, cafodd yr heddlu eu galw allan, ac ar 861 o achlysuron cafodd ambiwlans ei alw allan. Mae hyn yn arwain at ail-drawmateiddio pobl agored i niwed ymhellach ac, mewn rhai achosion, eu hystyried yn droseddwyr.

Dywedodd Thomas Holliack, awdur yr adroddiad a Chydlynydd Polisi a Materion Cyhoeddus yn The Wallich:

“Mewn system sy’n gweithio’n iawn, nid ydym yn credu mai’r heddlu neu’r gwasanaethau ambiwlans ddylai ymateb i unigolyn mewn argyfwng difrifol.

“Fodd bynnag, dyna’r realiti ar hyn o bryd, dyma’r unig opsiwn i atal niwed difrifol ac achub bywydau mewn argyfwng.”

Cais Rhyddid Gwybodaeth

Er mwyn cael darlun cywir o gyflwr presennol darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru, anfonodd The Wallich gyfres o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth at bob un o’r saith bwrdd iechyd, yn ogystal â’r 22 awdurdod lleol, yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a Llywodraeth Cymru.

Mae’r ymatebion yn dangos bod y gwasanaethau’n dameidiog iawn, gydag amrywiaeth wirioneddol o ran darpariaeth a llwybrau atgyfeirio ar draws gwahanol ardaloedd.

Yn yr adroddiad, mae The Wallich yn manylu ar y llwybrau atgyfeirio sy’n bodoli, pa feini prawf cymhwysedd sydd ar waith, pa ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer anghenion iechyd meddwl a defnyddio sylweddau, a pha waith sy’n cael ei wneud i feithrin partneriaethau a rhannu arferion da a sgiliau.

Yn aml, nid yw’r manylion a ddarperir gan Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn cyfateb i realiti profiadau staff rheng flaen digartrefedd.

Mae’r elusen hefyd yn pwyso a mesur pa mor bwysig yw cofnodi data cywir a defnyddiol ar iechyd meddwl a digartrefedd, i sicrhau bod y ddau angen yn cael sylw llawn.

Dywedodd Jack Sargeant, Aelod o’r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy:

“Rydw i’n ddiolchgar iawn i The Wallich am lunio’r adroddiad hwn. Mae The Wallich ar flaen y gad o ran sefyllfa dai anodd iawn sy’n gwaethygu.

“Rydw i wedi ysgrifennu o’r blaen am yr angen am wasanaethau cyhoeddus sy’n seiliedig ar drawma neu, fel rydw i’n eu galw, gwasanaethau “mwy caredig”. Os nad ydyn ni’n cydnabod y trawma y mae pobl wedi’i ddioddef ac yn teilwra gwasanaethau yn unol â hynny, rydyn ni’n eu siomi ddwywaith. Yn gyntaf drwy beidio â’u hamddiffyn rhag trawma ac eto drwy beidio â’i gydnabod.

“Diolch eto i The Wallich am wneud cymaint i hyrwyddo agenda sy’n seiliedig ar drawma. Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn y gwaith hwn.”

Argymhellion ar gyfer newid

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Fyrddau Iechyd, Awdurdodau Lleol a chyrff eraill, gan gynnwys yr elusen ei hun.

Mae hefyd yn ofalus i beidio â rhoi bai ar unrhyw wasanaeth – gan gydnabod bod yr holl wasanaethau yn cael eu hymestyn i’w eithaf, a bod llawer o waith da yn digwydd ledled Cymru. Mae The Wallich yn cloi drwy amlinellu nad yw’r camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r mater yn chwyldroadol.

Mae eu hargymhellion yn canolbwyntio ar ffyrdd o ail-gymell gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu gwasanaethau cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Maent yn cyfeirio at y Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma fel enghraifft wych o sut gallai hyn weithio’n ymarferol, drwy roi cwestiynau am hygyrchedd wrth galon dyluniad gwasanaethau.

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Swyddog Gweithredol The Wallich:

“Mae’r teimlad o gael eich troi oddi wrth wasanaethau drwy’r amser, o gael eich rhoi i un ochr, yn codi dro ar ôl tro fel rhywbeth sy’n ail-drawmateiddio ein cleientiaid. Byddai ‘dull dim drws anghywir’, lle mae pobl yn cael cymorth lle bynnag y maen nhw, yn wirioneddol drawsnewidiol.

“Rhaid i ni i gyd ymrwymo i sicrhau bod pawb sy’n ddigartref ac yn profi salwch meddwl difrifol yn gallu cael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg iawn.”

Tudalennau cysylltiedig