Diwedd cyfnod i Loches Nos Caerdydd

22 Mar 2021

The Wallich rough sleepers team on the streets in the Riverside area of Cardiff

Yn rhan allweddol o ddarpariaeth digartrefedd Caerdydd, bydd Lloches Nos The Wallich ar Clare Road yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd wahanol o hyn ymlaen

Mae wedi cynnig llety brys i dros bedair mil o bobl yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Mae The Wallich wedi’u tristáu am hyn, ond mae’r dystiolaeth ar sut i ddod â digartrefedd i ben yn symud yn ei flaen ac ry’n ni’n parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesedd.

Er bod y Lloches Nos wastad wedi bod yn agos at ein calonnau, mae’n rhaid i’n gwasanaethau symud gyda’r oes.

Collodd The Wallich gyllid statudol ar gyfer ei Loches Nos yn 2015, ac ers hynny, bu’n rhaid i ni gyllido’r gwasanaeth ein hunain. Gyda help cyllido torfol llwyddiannus yn 2015 a chefnogaeth ymddiriedolaethau amrywiol, sefydliadau a’r cyhoedd, mae’r drysau wedi parhau ar agor.

Yn ystod pandemig y Coronafeirws, yn hytrach na chynnig llety brys o noson i noson mewn ystafelloedd i’w rhannu, mae’r Lloches Nos wedi cynnig llety i bobl yn yr hirdymor, a fyddai’n cysgu allan fel arfer, fel rhan o’r ymgais i gadw pobl tu fewn ac yn ddiogel yn ystod y cyfnodau clo gwahanol.

Mae capasiti’r lloches wedi gostwng o 23 i 11 yn sgil y newid hwn ac i gydymffurfio â gofynion diogelwch.

Ar ôl dysgu o’r ffordd y mae gwasanaethau wedi addasu yn ystod COVID-19 a gwrando ar dystiolaeth y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd ar sut i ddatrys digartrefedd yng Nghymru, mae The Wallich yn defnyddio’r cyfle hwn i wella safonau’r llety a gynigir.

Bydd The Wallich yn symud o ddefnyddio ystafelloedd sy’n cael eu rhannu, sydd hefyd yn cyd-fynd â Safonau Tai Cymru.

Amcangyfrifir bod tua 4,738 o bobl sy’n wynebu digartrefedd neu’n cysgu allan wedi’u cefnogi gan y Lloches Nos yn ystod yr 20 mlynedd.

Mae’r staff yno wedi gweithio’n ddiflino ers i ddrysau’r Lloches Nos agor yn 2000, a thrwy gydol y pandemig, i sicrhau bod pobl sy’n wynebu digartrefedd yn y brifddinas yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi, ac y rhoddir cyfleoedd iddyn nhw symud i fwrdd o gysgu allan.

textimgblock-img

Bellach, bydd adeilad y Lloches Nos yn cael ei ddefnyddio i gartrefu preswylwyr un o brosiectau llety â chymorth eraill The Wallich yn y brifddinas, gan barhau i’w ddefnyddio, a helpu pobl sy’n wynebu digartrefedd.

O ran holl staff y prosiect, cynigiwyd cyfleoedd adleoli i wasanaethau eraill The Wallich. Derbyniodd dri aelod o staff ddiswyddiad.

Bydd y rheini sy’n byw yn y Lloches Nos yn cael eu hail-gartrefu’n briodol ac yn derbyn cefnogaeth barhaus cyn ac ar ôl y newid.

Mae dros 70 o brosiectau The Wallich ar draws Cymru yn cael eu cyllido’n wahanol; rhai drwy Grantiau Cymunedol y Loteri Fawr, rhai drwy gyllid Llywodraeth Cymru, ac maen nhw’n ddiogel am hyd y contractau a nodwyd gan gyllidwyr.

Mewn nifer o achosion, mae The Wallich wrthi’n trafod gydag awdurdodau lleol i gryfhau neu ehangu ei ddarpariaeth bresennol oherwydd y gwaith partneriaeth anhygoel a wnaed ar draws y sector i gartrefu pobl yn ystod y pandemig.

Mae Cyngor Caerdydd wedi adolygu ei ddarpariaeth digartrefedd yn y ddinas, ac yn anffodus, maen nhw wedi gwneud newidiadau sy’n golygu y bydd rhai o wasanaethau The Wallich yn cael eu datgomisiynu o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Er bod newidiadau wastad yn anodd, gwnaeth The Wallich ymrwymiad cadarn yn ei gynllun busnes ar gyfer 2020-2025 i drawsnewid ac arloesi gwasanaethau i sicrhau newid parhaol, cynaliadwy i bobl, yn unol â’r dystiolaeth orau oedd ar gael.

Fel prosiect y Lloches Nos, bydd The Wallich yn sicrhau canlyniadau positif i ddefnyddwyr y gwasanaethau a’r staff yn ystod y cyfnod hwn o newid.

Datganiad wrth Brif Weithredwr The Wallich, Lindsay Cordery-Bruce

“Ry’n ni wedi ein tristáu na fydd cyfleuster mor hanesyddol, sydd wedi helpu cynifer o bobl sy’n wynebu digartrefedd, yn parhau i wasanaethu’r gymuned yn yr un ffordd. Serch hynny, ry’n ni’n obeithiol am y dyfodol.

“Ry’n ni wedi gwrando ar y dystiolaeth orau ac wedi ystyried argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Teimlwn y gallwn greu gwasanaethau newydd a fydd yn gwasanaethu’r gymuned mewn ffordd wahanol. Byddwn yn parhau i helpu i gael pobl oddi ar y strydoedd, gan ddod â chylch ailadroddus digartrefedd i ben.

“Hoffem ddefnyddio’r cyfle hwn i ddweud cymaint ry’n ni’n gwerthfawrogi aelodau ein tîm sydd wedi gwasanaethu preswylwyr yn wych ac yn ddi-wyro ar hyd y blynyddoedd.

“Tra bod y newidiadau hyn yn digwydd, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ofalu am ein cymuned ac i ddod o hyd i gyfleoedd newydd i helpu pobl. Ein gwytnwch, ein penderfyniad a’n harloesedd yw ein hatebion.

“Gyda her y daw cyfle ac, yn yr achos hwn, mae’n golygu llai o gyfyngiad i ddod ag atebion sy’n wirioneddol seiliedig ar y dystiolaeth. Cadwch lygad.”

Bydd The Wallich yn parhau i gefnogi pobl sy’n wynebu digartrefedd yng Nghaerdydd drwy ei dîm allgymorth grymus, Gwasanaeth Atebion, hosteli, Canolfan Ddysgu a Phrosiect Shoreline.