McCann a’u Partneriaid wedi codi £10,000 i atal digartrefedd yng Nghymru

28 Jan 2019

Ar ôl dewis The Wallich fel elusen y flwyddyn yn 2018, rhagorodd McCann and Partners yn eu hymdrechion codi arian gan gyrraedd targed trawiadol. 

Mae McCann and Partners yn sefydliad o dde Cymru sy’n arbenigo mewn darparu’r ystod lawn o wasanaethau adeiladu sy’n gysylltiedig â systemau peirianneg mecanyddol, trydanol ac iechyd y cyhoedd. 

Defnyddiodd eu swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Abertawe eu holl amser ac adnoddau i gynllunio a threfnu digwyddiadau, cystadlaethau a diwrnodau elusennol i godi arian i’r bobl rydym yn eu cefnogi. 

Defnyddiodd timau McCann and Partners sawl ffordd hwyliog ac arloesol o godi arian ar gyfer The Wallich. Dyma rai enghreifftiau o sut cyrhaeddon nhw eu targed:

Diwrnodau golff elusennol 

Ym mis Mehefin 2018, cynhaliodd y tîm ddiwrnod golff elusennol yng Nghlwb Golff Radur. Cymerodd 20 o dimau ran yn y gystadleuaeth gyda Merriott UK yn ennill y wobr gyntaf.
Cododd y diwrnod golff gyfanswm o  £2,612.25. 

Cystadleuaethau Dodgeball 

Ym mis Awst 2018, aeth saith tîm ati i gynnal cystadleuaeth dodgeball, a gynhaliwyd yn Atlantic Way CrossFit. 

Cododd y gêm gyfeillgar y swm syfrdanol o £790. 

Cyclone24

Y digwyddiad cofiadwy i McCann and Partners oedd yr her feicio 24 awr, a gynhaliwyd yn Felodrom Geraint Thomas, yng Nghasnewydd. 

Gan gychwyn yr her ar 21 Hydref, diwrnod cyfan o bedlo di-ddiwedd, daeth y tîm yn y 12fed safle allan o 22 o dimau canlyniad parchus iawn. 

Cododd yr her gyfanswm o £945. 

Roedd mentrau codi arian eraill yn cynnwys rhedeg 10k, cynnal cwisiau tafarn, diwrnodau gwisgo siwmperi Nadolig yn y swyddfa a rhaglenni colli pwysau i godi arian. 

Dywedodd Mike Walmsley, Rheolwr Codi Arian Corfforaethol; 

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r tîm yn McCann & Partners am godi dros £10,000 yn 2018 i gefnogi’r broses o ehangu ein darpariaeth lloches nos mewn argyfwng. 

“Fe weithiodd y tîm yn ddiflino i gyflawni eu targed ac maen nhw wedi cynnig achubiaeth i bobl sy’n profi digartrefedd ar strydoedd Caerdydd. 

“Mae cael cefnogaeth busnesau mor bwysig i’n gwaith ac ni allwn ddiolch digon i McCann am yr hyn maen nhw wedi’i wneud i’r Wallich a’r bobl rydym yn eu cefnogi.” 

A yw eich sefydliad chi yn chwilio am elusen i’w chefnogi y flwyddyn nesaf?

Cysylltwch â’n tîm Corfforaethol ar corporate@thewallich.net neu ewch i’r dudalen partneriaethau corfforaethol am fwy o wybodaeth. 

 

Tudalennau cysylltiedig