Cyfle i ennill noson mewn gwesty, diwrnod allan a thaleb M&S gwerth £250 gyda Raffl Gaeaf The Wallich

27 Nov 2024

Mae Raffl Gaeaf flynyddol The Wallich yn ôl, ac mae’n fwy nag erioed

Drwy gefnogi Raffl Gaeaf The Wallich, rydych chi’n helpu i leddfu’r caledi y mae pobl ledled Cymru yn ei wynebu, gan gynnwys; biliau’n codi, taliadau morgais a rhent uchel, prisiau bwyd eithafol a chyflogau isel.

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith uniongyrchol ar aelwydydd yng Nghymru ac yn rhoi llawer mwy o bobl mewn perygl o fod yn ddigartref.

Er bod camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a ledled y DU, mae digartrefedd yn dal ar gynnydd.

The Wallich Winter Raffle 2024 / 2025 - Homeless charity raffle. M&S, Harrods, Welsh rugby, Love2Shop

Ennill gwobrau mawr  

Am ddim ond £2, gallech ennill y canlynol:

  1. Talebau Love2Shop gwerth £200
  2. Taleb M&S gwerth £250
  3. 4x taleb £25 a 2x taleb £50 ar gyfer Cotswoldhotelbreaks.com
  4. 1x taleb gwely a brecwast i ddau berson yn The Metropole Hotel and Spa
  5. Tocynnau rygbi Scarlets, Cardiff Blues, Gwent Dragons and Ospreys
  6. 2x taleb ar gyfer Escape Rooms Cardiff
  7. Diwrnod Saethu Paent i 10 o bobl
  8. Tocynnau ar gyfer Folly Farm
  9. Hampyr Clasurol Harrods
  10. Taleb Ticketmaster gwerth £50
  11. Amrywiaeth o bersawr a phethau ymolchi o Next
  12. A llawer mwy

Edrychwch ar y rhestr lawn o’n gwobrau ar wefan The Wallich.

Mae tocynnau raffl ar gael am gyn lleied â £2

Gallai un llyfr o docynnau (£10) dalu am ychwanegiad brys at danwydd gaeaf i helpu pobl sy’n teimlo’n oer yn eu cartrefi.

Gallai prynu neu werthu pedwar llyfr o docynnau (£40) ddarparu gwerth pythefnos o fwyd sylfaenol gan sicrhau nad oes rhaid i unigolion a theuluoedd ddewis rhwng bwyd a gwres y gaeaf hwn.

Bydd y raffl yn cau ar 17 Ionawr 2025.

Prynwch docynnau drwy fynd i wefan The Wallich.

Beth fydd y raffl yn ei ariannu?

Mae The Wallich yn helpu bron i 8,000 o bobl bob blwyddyn, gan gael effaith uniongyrchol ar bobl fel Mark. Dywedodd:

textimgblock-img

“Roeddwn i fel cysgod, ac yn meddwl am amser hir fod bywyd yn llawn trawma, nes i The Wallich wneud i mi sylweddoli fod golau ym mhen draw’r twnnel.”

Bydd elw o’r raffl yn cefnogi pobl gyda’r eitemau a’r arian sydd eu hangen arnynt gyda chymorth The Wallich.

Gwerthu tocynnau raffl yn eich cymuned i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru

Mae The Wallich hefyd yn chwilio am bobl sydd eisiau bod yn werthwyr cymunedol.

Felly, os oes gennych chi ddawn dweud, neu os ydych yn mynd i unrhyw ddigwyddiadau Nadoligaidd neu’n adnabod llawer o bobl, lledaenwch y neges.

Dewch yn werthwr cymunedol drwy anfon e-bost at dosomething@thewallich.net

Oble ddaeth y gwobrau? 

Mae gwobrau gwych ar gael diolch i roddion hael gan y busnesau lleol yma:

Thomas Carroll Ltd, Delta Force, Escape Rooms Cardiff, Off Peak Luxury, Folly Farm, Hotel Metropole, Manor Wildlife Park, HSJ Accountants, Slaters Menswear, Azets Holdings Ltd, Flix Bus, Scarlets Rugby, Ospreys Rugby, Newport Dragons, Parthian Books, Next, Tokio Marine HCC, Cardiff Rugby, New Quay Boat Trips, Savills, Pro care and Support Services, Light Republic, Auditel, Ty-Coppi Adventures

Tudalennau cysylltiedig