Y grŵp cleientiaid mwyaf yn graddio o gwrs cyflogadwyedd Y Wallich

23 May 2019

Gwelodd rownd ddiweddaraf prosiect Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy (WISE) Y Wallich y gyfradd graddio uchaf ers i’r cwrs cyflogadwyedd chwe mis ddechrau yn 2015.

Nod WISE yw cefnogi pobl sydd wedi bod yn ddigartref i symud i waith, naill ai gyda Y Wallich neu gyda’n partneriaid corfforaethol ar draws De Cymru. Cafwyd 60 o atgyfeiriadau i gleientiaid ymuno â phrosiect WISE ar gyfer tymor 2018/19, a chafodd ugain o bobl eu derbyn.

Caiff ein cleientiaid gyfoeth o brofiad o’n hyfforddiant cyn-cyflogi fel; meithrin hyder, gosod nodau, sgiliau cyfathrebu, gwisgo ar gyfer gwaith, a sgiliau cyfweld.

Mae’r profiad ymarferol yn cynnwys mentora, cymwysterau safonol y diwydiant a dysgu yn y gwaith drwy leoliadau gwaith.

Cynigir cefnogaeth i raddedigion, a’r sefydliadau a fydd yn eu cyflogi, yn ystod y cyfnod prawf i wneud yn siŵr bod eu swyddi yn gynaliadwy.

Nawr mae gan raddedigion WISE yr haf 2019 well hyder a sgiliau i ddilyn eu breuddwyd o ran gyrfa.

Dywedodd Lolita, cyfranogwr WISE yn y gwanwyn 2019:

Ymuno â phrosiect WISE yw’r peth gorau y gallwn i fod wedi’i wneud. Rydw i wrth fy modd fy mod i’n symud ymlaen. Dwi’n gwneud pethau i helpu pobl. Rydw i eisiau dangos iddyn nhw nad oes yn rhaid i chi aros ym mhle rydych chi wedi bod.

Dywedodd Liz Warburton, Cydlynydd WISE Y Wallich:

Rwy’n falch iawn o gyfranogwyr y tymor hwn. Mae bob un ohonynt wedi bod yn ymroddedig i’r prosiect ac wedi camu o’u byd cyfarwydd er mwyn graddio. Rwy’n edrych ymlaen at gael lansio’r prosiect yn Abertawe a helpu mwy o bobl i ddychwelyd i weithio.

Allech chi gynnig profiad gwaith unigryw i’n cleientiaid, gyda chymorth gan Y Wallich, i helpu pobl ddigartref ac agored i niwed gael dychwelyd yn ôl i weithio? Anfonwch neges e-bost at dosomething@thewallich.com i gymryd rhan heddiw.

Tudalennau cysylltiedig