Mae’r gwasanaeth newydd ‘Gwneud Lle’, a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Benfro, yn cefnogi pobl sy’n celcio yn eu cartrefi drwy ddefnyddio dull cyfannol.
Mae’r therapïau sydd ar gael gan The Wallich yn cynnwys Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) a dulliau sy’n ystyriol o drawma, i helpu pobl i ddeall pam maen nhw’n celcio a sut mae osgoi llithro’n ôl i hen arferion. Mae Grŵp Cymorth Cymunedol wedi cael ei sefydlu i bobl gael cefnogaeth emosiynol ac ymarferol barhaus gan gymheiriaid mewn lle anfeirniadol.
Mae celcio yn effeithio ar bobl o bob oed a grŵp incwm, ac mae fel arfer yn golygu bod rhywun yn casglu ac yn storio nifer fawr o eitemau yn eu cartref, sy’n eu rhwystro rhag cyflawni tasgau bob dydd fel coginio, cysgu yn y gwely neu ymlacio ar y soffa. Gall celcio droi’n gymhelliad ac mae’n aml yn gysylltiedig ag iselder, trawma neu orbryder.
Dywedodd Phill Stapley, Arweinydd Gweithredol Strategol The Wallich:
“Mae celcio yn gyflwr cymhleth sy’n aml yn cael ei gamddeall. Nid mater o fod yn flêr neu’n ddiog ydyw – mae’n cael effaith emosiynol a chorfforol ar y rhai sy’n celcio a’u teuluoedd. Mae’n gallu gwneud pobl yn unig, yn sâl ac yn anniogel ac, mewn rhai achosion, gall arwain atynt yn colli eu cartref.
Fyddwn ni ddim yn dod i gartrefi pobl ac yn dechrau clirio – byddwn ni’n gweithio gyda nhw, yn eu pwysau, i helpu i roi trefn ar eu cartrefi. Fel elusen sydd hefyd yn darparu gwasanaethau atal digartrefedd, rydyn ni wedi gorfod rhoi cymorth anuniongyrchol i bobl sy’n wynebu cael eu troi allan oherwydd celcio. Mae The Wallich mor falch erbyn hyn o allu cynnig y gwasanaeth penodol hwn i gadw pobl yn y cartrefi.”
Dywedodd yr Aelod o’r Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Michelle Bateman:
“Bydd y gwasanaeth gwych hwn yn helpu’r bobl sydd angen help i sicrhau bod eu cartrefi’n ddiogel ac yn addas i fyw ynddyn nhw, gyda’r rhai sy’n cynnig cymorth wir yn deall yr effaith y gall celcio ei chael ar lesiant pobl.”
Ers 2022, mae pryderon wedi dod i law’r cyngor ynglŷn â chelcio neu faterion glanweithdra mewn 729 o aelwydydd yn Sir Benfro, sy’n dangos yr angen am y gwasanaeth hwn.
Mae’r fenter Gwneud Lle yn ategu cyfres o wasanaethau newydd a lansiwyd gan The Wallich yn Sir Benfro, gan gynnwys tîm Cysgu ar y Stryd, sy’n gweithio gyda phobl ar y strydoedd, a gwasanaeth Datrys Gwrthdaro i atal pobl rhag cael eu troi allan o’u cartrefi.
I gael mynediad at y gwasanaeth, caiff pobl eu cyfeirio at Borth Cymorth Tai Cyngor Sir Benfro.