Mae swyddogaethau swyddfa gefn yr elusen, gan gynnwys Adnoddau Dynol, Cyllid, Codi Arian a Chynnal a Chadw, wedi’u lleoli yn yr hen Eglwys Bresbyteraidd Gradd II ers bron i 15 mlynedd. Mae’r adeilad yn cynnwys swyddfeydd ar gyfer y 52 aelod o staff sy’n cefnogi rhedeg 100 o wasanaethau rheng flaen The Wallich ar hyd a lled Cymru, yn ogystal ag ystafelloedd hyfforddi a chyfarfodydd sydd wedi cael eu llogi i fusnesau a grwpiau cymunedol er mwyn darparu canolfan groesawus ac incwm i’r elusen.
Ers 2007, mae nifer aelodau staff yr elusen wedi cynyddu 300% o 183 i 550, ac mae nifer y gwasanaethau y mae’r elusen yn eu rhedeg wedi cynyddu o 30 i 100 ar draws 18 awdurdod lleol.
Mae’r pandemig, a’r canlyniadau ariannol ac economaidd cysylltiedig, wedi arwain at fwy o alw am wasanaethau arbenigol i gefnogi pobl ddigartref a’r rheini sydd mewn perygl o golli eu cartrefi. Mae The Wallich wedi bod yn arweinydd ym maes arloesi erioed a bydd yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o helpu mwy o bobl.
Fodd bynnag, mae pandemig y coronafeirws wedi ysgogi Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar ddigartrefedd a buddsoddi yn y broblem, a chroesawyd diddordeb yn y mater mewn meysydd eraill, fel Cronfa Helpu i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd y Loteri Genedlaethol, sy’n werth £10 miliwn.
Er bod y rhan fwyaf o staff y mudiad yn parhau i weithio ar y rheng flaen yn ystod y coronafeirws, mae’r pandemig wedi newid yn sylweddol y ffordd mae llawer o bobl yn gweithio. Bydd gweithwyr swyddfa sydd wedi bod yn gweithio gartref yn ystod y pandemig yn parhau i wneud hynny, neu byddan nhw’n mabwysiadu patrwm gweithio hybrid yn y dyfodol – gweithio gartref ac yn y swyddfa.
Mae’r angen am gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ystafelloedd cyfarfod hefyd wedi lleihau. Rhaid i’r mudiad addasu i’r realiti newydd hwn a’r manteision y mae’n ei gynnig.
Wrth i The Wallich ddechrau cyfnod datblygu newydd, mae’r mudiad am sicrhau’r gefnogaeth orau bosibl i bobl sy’n ddigartref, a’r defnydd gorau o’i gronfeydd elusennol.
“Rydyn ni wedi mwynhau bod wrth galon y gymuned a byddwn yn gweld colli ein cymdogion a’r busnesau sydd wedi ein cefnogi. Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn cynnal gymaint o ddigwyddiadau yn ein hadeilad nodedig. Ond mae’n amser i newid.
“Gobeithio y bydd perchnogion newydd yr adeilad yn cael yr un croeso a chawsom ni dros y pymtheng mlynedd diwethaf, ac y byddan nhw’n cyfrannu at y gymuned ffyniannus.”
Bydd swyddfa lai, safonol yn cael ei rhentu ar gyfer staff y swyddfa gefn i sicrhau bod canolfan ganolog yn parhau i gefnogi staff ac i addasu i anghenion y sefydliad wrth iddo dyfu a newid.
Yn y cyfamser, bydd yr arian o werthu’r hen eglwys Bresbyteraidd hanesyddol yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau newydd i helpu mwy o bobl ar draws Cymru mewn ffyrdd newydd ac arloesol, ac i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i helpu i greu Cymru lle gellir datrys digartrefedd.