Mynd i’r afael â Hepatitis C a digartrefedd gyda’r bartneriaeth GIG elusennol symudol newydd

16 Jan 2023

Bydd pobl sy’n ddigartref neu mewn cartrefi ansefydlog iawn yn cael cynnig profion llif unffordd ar gyfer hepatitis C, ac yn fuan wedi hynny, profion PCR i gyflymu diagnosis a thriniaeth, a thrwy hynny, caiff y risg o drosglwyddiad ei leihau

Arweinir y prosiect gan The Wallich, sef elusen cysgu ar y strydoedd a digartrefedd flaenllaw Cymru, gyda chymorth gan arbenigwyr yng Nghanolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae Hepatitis C yn firws heintus sy’n effeithio ar boblogaethau ar y ffiniau ac sy’n agored i niwed, fel pobl ddigartref, yn benodol. Mae wedi lledaenu’n fwy yn ystod COVID-19.

Heb driniaeth, gall Hepatitis C arwain at sirosis, methiant yr iau a chanser yr iau.

Fodd bynnag, gall diagnosis cynnar wneud gwahaniaeth mawr, a dyma le mae’r prosiect newydd yn berthnasol.

Gan ddefnyddio cyfleusterau megis cerbyd cymorth symudol, ochr yn ochr â thîm staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd tîm The Wallich yn cynnal sgrinio gwrthgorff rheolaidd – yn debyg i brofion llif unffordd a ddefnyddir i ddatgelu’r coronafeirws – ymhlith pobl ddigartref a phobl mewn cartrefi ansefydlog iawn maent yn gweithio gyda nhw.

Mae hyn yn golygu y gall pobl sy’n profi’n bositif gael eu profi gan ddefnyddio PCR cyflym i gadarnhau haint Hepatitis C gweithredol.

Mae hyn yn arwain at drin yr unigolyn a rhoi cyngor am ymddygiad diogel yn syth. Fel arall, gallai wynebu aros am hyd at chwe wythnos i gael canlyniad prawf PCR arferol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, gallai heintiau pellach anhysbys fod wedi datblygu.

Mae’r prosiect yn cael ei roi ar waith ar ôl treial llwyddiannus yng Ngharchardy EF Abertawe, gan arwain at achos hysbys cyntaf erioed y byd o gael gwared o’r firws mewn carchardy dal.

Mae arbenigwyr o Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflym yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid ar y prosiect. Eu rôl fydd dadansoddi’r data i’w gasglu gan y Wallich wrth i’r rhaglen brofi fynd yn ei blaen.

Mae Edward Millar o’r Ganolfan ym Mhrifysgol Abertawe yn esbonio:

“Byddwn yn defnyddio’r data sy’n dod i mewn at ddau ddiben.Y cyntaf yw asesu pa mor effeithiol mae’r profion er mwyn rhoi diagnosis cyflym o Hepatitis C, er mwyn i ni allu gweld faint o fudd fyddai wrth ehangu’r cynllun.

Yr ail yw sefydlu darlun o fynychter Hepatitis C ymhlith y boblogaeth o bobl ddigartref. Ar hyn o bryd, does dim ffigurau cywir am hyn, felly bydd y data hwn yn werthfawr iawn wrth ddeall graddau’r broblem.

“Mae Accelerate yn helpu arloeswyr yng Nghymru i droi eu syniadau’n atebion, gan ei gwneud hi’n bosib eu mabwysiadu ym meysydd iechyd a gofal. Mae ein cydweithio â The Wallich ar y prosiect hwn yn enghraifft berffaith.”

Mae’r rhaglen sgrinio yn cynnig manteision eraill.

Yn aml, caiff pobl ddigartref neu mewn cartrefi ansefydlog iawn eu colli pan ddaw i wiriadau gofal iechyd, felly bydd y cynllun yn fuddiol iddyn nhw ac yn lleihau’r nifer gyffredinol o bobl yn Abertawe â Hepatitis C.

Mae hefyd yn rhoi pwynt cyswllt a phrofiad cadarnhaol i weithwyr gofal iechyd, sy’n cynnig cyfle i gyfeirio cymorth i’w hanghenion eraill.

Meddai Jason Nancurvis, Pennath Gweithrediadau Symudol yn The Wallich, elusen cysgu ar y stryd a digartrefedd flaenllaw Cymru:

“Rydym ni wrth ein boddau ein bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe i helpu’r bobl rydym ni’n eu cefnogi i fynd i’r afael â phroblemau gyda’u hiechyd.

“Yn aml, pan fydd pobl yn ddigartref, gall eu hiechyd corfforol a meddwl gael eu niweidio yn y broses. Fodd bynnag, gallai cyrchu gofal iechyd a mynd i apwyntiadau yn y ffordd draddodiadol fod yn anodd iddyn nhw.

“Dyma pam rydym ni wedi datblygu ein tîm gweithrediadau symudol i fynd allan i bobl, gan gynnig gwasanaethau ar eu telerau nhw, ble bynnag y byddant.

“Yn ogystal â darparu cymorth gyda chartrefi a digartrefedd, mae’n dod yn fwyfwy clir pan fydd ein cerbydau’n mynd allan ac yn parcio fod pobl yn ymddiried ynom ni a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n dod gyda ni, i gyrchu cymorth.

“Boed yn nyrsys, yn hyfforddwyr swyddi neu’n weithwyr cymorth digartref, gan fynd â’r cymorth i’r strydoedd i helpu i gyrraedd rhagor o bobl.

“Profwyd hyn orau yn ystod y broses o gyflwyno brechiad COVID y gweithion ni arni, er enghraifft.

“Rydym ni’n gwybod y bydd gweithio’n gydweithredol yn y gymuned i fynd i’r afael ag uchafbwyntiau firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed bendant hefyd yn lleihau niwed i bobl sy’n profi digartrefedd.”

Tudalennau cysylltiedig