Mae pobl sy’n cysgu allan yn Abertawe yn cael eu cefnogi gan brosiect sydd wedi’i weithredu’n gyflym a fydd yn helpu pobl sy’n ddigartref yn ystod pandemig y coronafeirws.
Fis diwethaf, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Abertawe gynllun i greu lle i 20 o bobl gael lle i fyw yn Nhŷ Tom Jones ar Heol Alexandra.
Mae’r adeilad, sydd wedi’i ailwampio gan y Cyngor ac sy’n eiddo i gymdeithas tai Pobl, bellach wedi agor ac yn croesawu pobl na fyddai â tho uwch eu pennau fel arall yn ystod argyfwng y coronafeirws.
Fel elusennau digartrefedd, rydym ni – The Wallich – a – Caer Las yn darparu cymorth arbenigol i breswylwyr yr hostel, gan gynnwys:
Dywedodd Sian Aldridge, Cyfarwyddwr Gweithrediadau The Wallich:
“Nid yw cartref erioed wedi bod yn bwysicach nag y mae ar hyn o bryd, ac rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Abertawe, Pobl, a Caer Las i roi cymorth cyflym i bobl heb le diogel i fyw yn ystod pandemig y coronafeirws.
“Mae sefydlu’r gwasanaeth mor gyflym wedi bod yn her i ni, ond mae’r partneriaid wedi cydweithio’n dda.
Mae staff The Wallich, sydd wedi cael hyfforddiant arbennig, wedi bod yn gweithio o amgylch y cloc, er gwaethaf y cyfyngiadau symud, i sicrhau eu bod yn cael pobl oddi ar y strydoedd ac i le diogel. ”
Talwyd teyrnged gan Andrea Lewis, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, i staff a phartneriaid y Cyngor am gael Tŷ Tom Jones yn barod mor gyflym.
Dywedodd: “Mae hon yn enghraifft wych o bartneriaeth yn gweithio er budd uniongyrchol rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
“Bydd yn gysur i’n preswylwyr ac i’r cyngor fod anghenion pobl ddigartref yn Abertawe yn cael blaenoriaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Mae’n dangos ein bod yma ar gyfer holl bobl ein dinas drwy gydol y pandemig hwn.”
Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi £20m yn ychwanegol o gyllid i helpu pobl sy’n ddigartref yn ystod y pandemig.
Rhagwelir y bydd y gwasanaeth dros dro ar gael tan fis Mai 2021. Bydd y costau staffio tua £345,000, arian y bydd y Cyngor yn ei hawlio’n ôl o gronfa ddigartrefedd Llywodraeth Cymru.
Cafodd y cynllun hwb cynnar a derbyniol gan haelioni siop Wilko Abertawe a roddodd eitemau glanhau, gofal personol a bwyd i breswylwyr.
Dywedodd Andrew Vye, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cartrefi a Chymunedau Pobl:
“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ymdrechion y cyngor i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi i bobl ddigartref yn Abertawe.
“Bydd ein gwasanaeth newydd yn Nhŷ Tom Jones yn bont rhwng gadael llety dros dro a symud i gartref parhaol.
“Gan weithio gyda phartneriaid, bydd tenantiaid yn cael cefnogaeth, cyngor a chymorth i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y cam nesaf pan fyddan nhw’n symud ymlaen, gan helpu i dorri’r cylch digartrefedd.
“Un peth sydd wedi bod yn amlwg drwy gydol y sefyllfa bresennol yw haelioni pobl a’u parodrwydd i gefnogi’r rheini yn y gymuned sydd fwyaf ei angen.
“Mae ein timau wedi gweld hynny bob dydd, gan weithio gyda’n cwsmeriaid, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a busnes.
“Bydd y rhodd caredig gan Wilko Abertawe yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn y ddinas sydd wir ei angen ar hyn o bryd ac mae’n cael croeso cynnes.
“Bydd yr eitemau hanfodol a ddarperir ganddynt yn ddefnyddiol ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu haelioni.”
Roedd yr adeilad, ar Heol Alexandra, yn rownd derfynol gwobrau ‘World Habitat’ yn 1998 pan gafodd ei adnewyddu gyntaf.
Mae’r adeilad yn ceisio osgoi nodweddion nodweddiadol sefydliadau gyda’u hierarchaeth o goridorau, grisiau a lobïau.
Mae’r adeilad ynni-effeithlon ac ecogyfeillgar yn adeilad rhestredig wedi’i addasu ac mae’r tu mewn yn newydd ac wedi’i drawsnewid i greu stryd dan do gyda fflatiau, swyddfeydd a mannau hamdden.