Ymateb The Wallich i ffigurau Llywodraeth Cymru ar gysgu ar y stryd yn 2018

05 Feb 2019

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau ei ffigurau cysgu ar y stryd blynyddol ar gyfer 2018 yn dilyn cyfrif un noson ym mis Tachwedd a chyfrif pythefnos ym mis Hydref a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol Cymru.

Dyma ein hymateb i ganfyddiadau Llywodraeth Cymru o gynnydd o 1% mewn cysgu ar y stryd, yn ôl y cyfrif un noson, a gostyngiad o 16% mewn cysgu ar y stryd, yn ôl y cyfrif pythefnos. 

“Mae’n anodd casglu data dibynadwy ar nifer y bobl sy’n profi digartrefedd; mae pobl yn aml yn symud o gwmpas cryn dipyn ac mae digartrefedd cudd hyd yn oed ymhlith y rhai sy’n gorfod cysgu ar ein strydoedd. Fodd bynnag, nid ydym yn teimlo bod canlyniadau ffigurau Llywodraeth Cymru ar gysgu ar y stryd yn cynrychioli’r sefyllfa yng Nghymru. 

Mae’r gwahaniaeth rhwng y cyfrif un noson a’r cyfrif pythefnos yn rhy fawr i ddod i gasgliadau pendant. Er enghraifft, dywedodd Gwynedd mai dim ond tri o bobl oedd yn cysgu ar y stryd ar y cyfrif un noson, ond mae hyn yn neidio i 30 o unigolion yn ystod y cyfrif pythefnos. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i adolygu sut cesglir y data hwn. 

Nid yw’r ystadegau chwaith yn rhoi unrhyw gipolwg o’r bobl y tu ôl i’r niferoedd; pam maen nhw wedi cael eu hunain yn ddigartref a pham mae rhai yn aros yn ddigartref? Yn ddiweddar, fe wnaethom ryddhau ein Monitor Ffordd o Fyw ar y Stryd De Cymru a oedd yn amlygu faint o bobl, dros gyfnod o 12 mis, sy’n ymgysylltu â ni ar y strydoedd a pha mor aml. 

Gwelwyd cynnydd o 9% yn nifer y bobl y buom yn gweithio â nhw yn 2018 ond, yn fwy arwyddocaol, gwelwyd cynnydd o 62% yn nifer y cysylltiadau a wnawn; hynny yw, rydym yn gweld yr un bobl, yn amlach Fe ddaethom i gysylltiad â bron i 3,000 o bobl y llynedd, ond gwnaethom gysylltiad â nhw  dros 30,000 o weithiau. 

Mae cysgu ar y stryd yn dangos methiant y system a’r sector i adeiladu’r llwybrau sydd eu hangen ar bobl i symud oddi wrth ddigartrefedd a symud ymlaen â’u bywydau.

Rhaid i ni hefyd gydnabod cynnydd o lai nag 1%’ yng nghyd-destun bron i 10 mlynedd o gynnydd parhaus. Ni ddylem ddathlu, na llaesu dwylo, pan fydd amcangyfrifon yn dangos bod 165% yn fwy o bobl yn cysgu ar y stryd ers 2010. 

Mae ein saith argymhelliad polisi i leihau digartrefedd systemig yn radical ond yn angenrheidiol. Maen nhw’n cynnwys diddymu’r system ‘angen blaenoriaethol’ sy’n methu, cymeradwyo Uwch Ganolfannau Lleihau Niwed, mabwysiadu mwy o brosiectau Tai yn Gyntaf a chyfuno polisïau tai, iechyd a chyfiawnder troseddol sy’n blaenoriaethu cymorth sy’n seiliedig ar drawma.”

Ewch i dudalen Ystadegau Cysgu ar y Stryd  The Wallich i gael mwy o wybodaeth am y data rydym yn ei gasglu am ddigartrefedd ledled Cymru. 

Tudalennau cysylltiedig