Bydd Mentoriaid Cymheiriaid yn defnyddio’u profiad o ddibyniaeth ac adferiad i helpu unigolion i oresgyn eu dibyniaeth a symud i fyd gwaith.
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023, adroddodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ynghylch 8,082 o atgyfeiriadau yng Nghymru i wasanaethau camddefnyddio sylweddau’r GIG, bron i 1,000 o bobl yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.
Yn 2021 adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru wedi codi i’r lefelau uchaf erioed sef 322 neu 51.1 marwolaeth fesul miliwn o bobl.
Bydd y tri Mentor Cymheiriaid newydd sy’n gweithio yn Wrecsam, Shotton a’r Rhyl yn mynd ati i feithrin ymddiriedaeth gyda phobl sydd â dibyniaeth ar sylweddau, neu sy’n ddi-waith, i gael mynediad at y Ganolfan Byd Gwaith a gwasanaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Y nod yw gweithio gyda phobl i oresgyn eu dibyniaeth a’u helpu i symud i swyddi ystyrlon a chynaliadwy.
Bydd ei phrofiadau’n helpu pobl sy’n defnyddio sylweddau i oresgyn rhwystrau i adferiad a bod yn barod am waith.
Dywedodd, “Ar ôl ychydig o flynyddoedd anodd, a rhywfaint o help gan rai unigolion anhygoel, sylweddolais ein bod ni i gyd yr un fath.
“Pobl ydyn ni i gyd. Gall fod y peth gorau yn y byd pan fydd rhywun yn dangos tosturi tuag atoch pan fyddwch chi’n cael trafferthion.
“Dyna pam na allaf aros i fod yn Fentor Cymheiriaid, i ddangos y gellir goresgyn unrhyw beth, gyda’r bobl iawn o’ch cwmpas.”
Mae gan y Mentoriaid Cymheiriaid a gyflogir gan The Wallich brofiad o ddibyniaeth ar sylweddau a byddant yn defnyddio eu profiad bywyd unigryw i wneud y canlynol:
Bydd y Mentoriaid Cymheiriaid hefyd yn darparu hyfforddiant i uwchsgilio staff y Ganolfan Byd Gwaith o ran adnabod a gweithio gyda phobl sy’n defnyddio sylweddau mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma.
Caiff pobl eu hatgyfeirio drwy eu Hanogwr Gwaith mewn Canolfan Byd Gwaith, neu’n uniongyrchol drwy sefydliadau eraill yn y sector statudol a’r trydydd sector.
Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i’r rhai sy’n cael eu mentora fod
Ar ôl derbyn atgyfeiriad, bydd Mentoriaid Cymheiriaid yn gweithio gyda nhw ar gynllun cymorth personol am tua wyth wythnos, neu fwy os oes angen.
Dywedodd Grant Hyatt, Rheolwr Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru yn The Wallich,
“Mae gwasanaeth Mentora Cymheiriaid Gogledd Cymru yn bartneriaeth arloesol a fydd, gyda lwc, yn arloesi dull newydd o newid bywydau llawer o bobl.
“Yn The Wallich, rydyn ni’n gwybod bod angen cymorth ac ymyriadau penodol i symud ymlaen o brofiadau trawmatig fel dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.
“Ein nod â’r gwasanaeth hwn yw grymuso pobl i deimlo’n gadarnhaol am eu dyfodol a chynnig yr adnoddau iddynt gyflawni eu nodau.
“Bydd The Wallich yn gweithio’n agos â staff y Ganolfan Byd Gwaith i hyrwyddo egwyddorion sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol wrth weithio gyda phobl agored i niwed, fel meithrin perthnasoedd da, lleihau niwed, cynlluniau cymorth cydweithredol ac ymarfer myfyriol.
“Rydyn ni’n falch o fod yn arwain ein Mentoriaid Cymheiriaid rhagorol ar y prosiect newydd cyffrous hwn yng Ngogledd Cymru.”