Ymddiriedolwr yn dringo Mynydd Kilimanjaro i atal digartrefedd

10 May 2019

Bydd Rossana, sy’n un o Ymddiriedolwyr The Wallich, yn rhoi cynnig ar ddringo Mynydd Kilimanjaro gyda’i theulu ym mis Mehefin 2019.

Darllenwch pam ei bod hi’n cyflawni’r her hon, gan godi arian i The Wallich a sut gallwch chi ei noddi.

Pam wnaethoch chi ddewis codi arian i The Wallich a helpu pobl sy’n ddigartref?

Yn ddiweddar, fe wnes i ymddeol fel Seiciatrydd Ymgynghorol yn yr Uned Gaethiwed yng Nghaerdydd a’r Fro. Gwelais â’m llygaid fy hun effeithiau dinistriol digartrefedd, yn enwedig pan fo hynny’n digwydd law yn llaw ag anhwylderau iechyd meddwl a chorfforol.

Gweithiodd ein gwasanaeth yn agos ag asiantaethau sy’n helpu pobl sy’n ddigartref, gan gynnwys The Wallich. Mae gennyf barch aruthrol at yr asiantaethau rheng flaen hynny.

Gwyddwn, ar ôl imi ymddeol, fy mod eisiau dal i helpu pobl ddigartref mewn rhyw ffordd a bûm yn ffodus o gael fy mhenodi fel aelod o fwrdd ymddiriedolwyr The Wallich.

Rwy’n teimlo’n gryf bod gan bawb yr hawl sylfaenol i gael lle i’w alw’n ‘gartref’. Mae hyn yn rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol.

Bob dydd y byddwn yn teithio, byddwn mewn pabell heb ddim toiled na chawod, ond bydd gennyn ni’n dal fwy na rhai o’r bobl sy’n cysgu allan.

Beth ydych chi’n ei wneud i godi arian? 

Mae hon yn her deuluol; bydd fy mab 19 oed, Joe, fy mhartner, Craig, a’m chwaer yng nghyfraith, Julie, yn cerdded.

Rydyn ni i gyd yn troi at ein priod rwydweithiau i ennyn cyhoeddusrwydd a rhoddion.

Rydyn ni hefyd wedi cysylltu â The Guinness Book of World Records – dim ond i weld a oes unrhyw fath o record ‘deuluol’ arall am gyrraedd copa Mynydd Kilimanjaro. 

A oes gennych chi gynllun hyfforddi?

Rydyn ni i gyd yn eithaf heini, ond rydyn ni’n bendant yn gwneud mwy o ymarfer corff erbyn hyn, heblaw am Joe sy’n gwneud ei arholiadau Safon Uwch – ond mae ganddo fe ieuenctid a choesau hir iawn ar ei ochr.

Rydyn ni wedi arfer cerdded mynyddoedd. Yn 2015, buom yn cerdded ym Mynyddoedd Atlas gan gyrraedd pen y copa uchaf, Mynydd Toubkal, sydd ychydig dros 4,000 metr. Mae Mynydd Kilimanjaro – sydd ychydig o dan 6,000 metr – yn gwbl wahanol er hynny.

Salwch uchder fydd yr her fwyaf inni; mae’n gallu ymddangos yn gwbl annisgwyl ac nid oes dim cysylltiad â’ch lefel ffitrwydd.

Oherwydd hyn, rydyn ni wedi dewis cerdded llwybr Lemosho. Mae’n llwybr hirach ond mae’ch corff yn cael mwy o amser i gynefino, gan roi gwell siawns inni i gyd gyrraedd y copa, gyda lwc.

I roi hwb i’m lefelau ffitrwydd, rwy’n loncian sawl gwaith yr wythnos a/neu’n mynd i’r gym. Rwyf hefyd wedi ymuno â chlwb rhedeg ym Mhenarth i roi hwb i’m cymhelliant.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf wrth ddringo Kilimanjaro?

Bydd yn antur go arbennig. Amser i glosio fel teulu, dim teledu na dim byd arall i fynd â’n sylw. Gyda lwc, fe gawn ni hefyd dipyn o hwyl yr un pryd ac er y bydd hi’n sialens aruthrol o anodd – bydd gwybod ein bod yn codi arian at elusen mor werth chweil yn siŵr o roi hwb inni. I mi yn bersonol, bydd hon yn her gorfforol anodd dros ben. Rwy’n 56 oed felly, rwy’n edrych ymlaen i brofi pa mor wydn wyf fi.

Sut gall pobl roddi?

Gall pobl roddi drwy ein tudalen Just Giving neu cysylltwch â mi yn uniongyrchol ar oretti@live.co.uk.

Byddem yn ddiolchgar iawn o unrhyw rodd, yn fawr neu’n fach. Ein targed yw £1,500 ond yn dawel bach rwy’n gobeithio y byddwn ni’n codi mwy na hynny.

A ydych chi awydd yr her neu ydych chi’n meddwl y gallech chi godi arian mewn ffordd arall? Ewch i’n tudalen codi arian i gael gwybod rhagor.

Tudalennau cysylltiedig