Y cleientiaid cyntaf yng ngorllewin Cymru yn graddio o gwrs cyflogadwyedd

19 Mar 2020

Ddydd Mercher 11 Mawrth 2020, dathlodd y grŵp cyntaf i gwblhau prosiect Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy (WISE) y gorllewin ei lwyddiant mewn seremoni raddio yn YMCA Abertawe.

Dechreuodd prosiect WISE yng Nghaerdydd yn 2015. Mae ehangu’r prosiect i Abertawe yn ystod hydref 2019 wedi ymestyn y cyfle i’n cleientiaid yn y gorllewin, gan gynnwys ardaloedd fel Castell-nedd Port Talbot a Llanelli.

Mae’r Wallich yn falch iawn o allu cynnig mynediad i bobl at hyfforddiant yn eu cymuned leol. Mae hyn nid yn unig yn golygu eu bod yn gallu mynd ar leoliad gyda busnesau lleol, ond gallant hefyd greu perthynas â’u cyfoedion a all barhau yn y dyfodol.

Mae WISE yn brosiect cyflogadwyedd chwe mis a fydd yn ceisio meithrin hyder a phrofiad, yn ogystal â chynnig adnoddau i sicrhau bod unigolion yn barod at waith.

Bydd y cyfranogwyr yn dilyn sesiynau hyfforddi cyn-gyflogadwyedd, sy’n cynnwys meithrin hyder, sgiliau cyfweld a hyfforddiant e-ddysgu ar gyfer sgiliau trosglwyddadwy. Bydd pob cyfranogwr wedyn yn cwblhau lleoliad gwaith wyth wythnos gyda’r Wallich neu un o’n partneriaid corfforaethol.

Bydd hyfforddwr ar y safle yn cael ei neilltuo i’r cyfranogwyr sy’n helpu gyda’u datblygiad personol.

Rydyn ni’n paru cyfranogwyr â lleoliadau gwaith maent yn teimlo’n angerddol yn eu cylch.

Fe wnaeth graddedigion 2020 gwblhau lleoliadau fel archwilio gwaith cefnogi ym mhrosiectau preswyl y Wallich a dysgu am gadwraeth yn y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB).

Mae’r seremoni raddio’n gyfle i’r cyfranogwyr ddathlu eu llwyddiant gyda’u teulu, eu ffrindiau a’u cyfoedion, ac yn ffordd iddynt fyfyrio ar eu taith.

Fe wnaeth rhai oresgyn eu hofnau o siarad yn gyhoeddus er mwyn annerch cynulleidfa fach o wynebau cyfarwydd a newydd.

Dywedodd Liz Warburton, Cydlynydd Prosiect WISE:

“Rydyn ni wedi cael llawer o chwerthin, llawer o ddagrau a llawer o onestrwydd. Rydych chi wedi creu tîm go iawn sy’n gryf ac yn gefnogol. Diolch yn fawr.”

Dywedodd Lee, un o gyfranogwyr WISE 2020:

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd, ond hoffwn ddiolch i Liz am beidio â throi ei chefn arna i. Mae WISE wedi gwneud i mi gredu bod dyfodol i mi.”

Dywedodd Anna, cyfranogwr arall:

“Mae wedi rhoi hyder i mi. Rydw i wedi bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol ers i mi fod yn 17 oed ac rydw i wedi bod i mewn ac allan o’r carchar. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli bod modd i rywun â chofnod troseddol gael gwaith.”

Mae gan lawer o bobl sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd neu o garchar fwlch yn eu CV, ond maent yn awyddus i weithio.

Allech chi gynnig profiad gwaith unigryw i’n cleientiaid, gyda chymorth gan y Wallich, i’w helpu i ddychwelyd i’r gwaith?

Anfonwch e-bost i dosomething@thewallich.com i gymryd rhan heddiw.

Tudalennau cysylltiedig