Ar werth nawr yn John Lewis a Phartneriaid, lle gall cwsmeriaid brynu pecyn gwau het neu sgarff.
Bydd yr holl elw yn mynd at y Wallich, sef yr elusen flaenllaw yng Nghymru ar gyfer digartrefedd a chysgu ar y stryd, i’n helpu ni i gadw’r goleuadau ymlaen yn eu llety argyfwng hollbwysig.
Eleni, mae One Knit Wonder ar gael fel sgarff arbennig yn ogystal â het wlân.
Byddant ar werth am £13.50 a £15.50 yn John Lewis a Phartneriaid Caerdydd am gyfnod cyfyngedig. Bydd holl elw One Knit Wonder yn mynd at y Wallich, a bydd yn helpu pobl sy’n cysgu ar y stryd ledled Cymru.
Unwaith y bydd yr het neu’r sgarff wedi cael ei gorffen, bydd y sawl sydd wedi ei gwau yn gallu dewis gwisgo ei greadigaeth, ei rhoi’n anrheg i rywun arall, neu fynd allan a’i rhoi i rywun sydd mewn angen.
Bydd pobl sy’n gwau One Knit Wonder yn gallu cael cyfle i ennill detholiad o ddillad Cashmir sy’n werth tua £200.
Mae cysgu ar y stryd yn poeni llawer o bobl sy’n siopa Nadolig, a gyda chymorth dafad ddu, mae’r pecyn yn dweud wrth bobl sut gallan nhw wneud rhywbeth am ddigartrefedd.
Drwy brynu One Knit Wonder y gaeaf yma, gallwch gyfrannu at Loches Nos y Wallich, sy’n cynnig cynhesrwydd, diogelwch a chymorth i bobl oddi ar y stryd.
Cafodd One Knit Wonder ei lansio gan y Wallich yn 2017, ac mae’n cynnwys gwlân trwchus, gweill, patrwm gwau ar gyfer het wlân, a ‘theimlad cynnes braf’.
Ers ei lansio, mae mwy na 2,000 o focsys wedi cael eu prynu i lenwi hosan gan ddangos cydwybod cymdeithasol, a hynny i helpu pobl sy’n ddigartref ledled Cymru.
Dywedodd Mike Walmsley, rheolwr codi arian corfforaethol gyda’r Wallich:
“Mae cysgu ar y stryd yn argyfwng cenedlaethol ac mae angen ymateb cymunedol i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Drwy brynu One Knit Wonder ar gyfer teulu, ffrindiau neu gydweithwyr, gallwch chi wneud rhywbeth uniongyrchol ac ymarferol a chefnogi elusen leol sy’n mynd i’r afael â digartrefedd ar yr un pryd.”
Cafodd bocsys a phatrymau gweu One Knit Wonder eu hargraffu fel rhodd gan gwmni argraffu a phecynnu Harlequin ym Mhont-y-clun.
“Rydym mor falch o barhau gyda’n cysylltiad â Chalon Wlân,” meddai Delme Beddow, cyfarwyddwr gwerthiant yn Harlequin.
“Mae wedi bod yn bleser cymryd rhan ers y dechrau dair blynedd yn ôl a chael cynnig ein harbenigedd ar ddylunio a phecynnu ar gyfer ymgyrch mor arloesol ac achos mor deimladwy.
“Mae John Lewis a Phartneriaid Caerdydd a’r Wallich yn cyd-fynd yn naturiol fel partneriaeth, a chyhyd â bod One Knit Wonder yn parhau i godi arian ac ymwybyddiaeth am ddigartrefedd, byddwn ni wrth eu hochr.”
Dywedodd Mollie Davies, swyddog cyswllt cymunedol, marchnata a digwyddiadau John Lewis a Phartneriaid Caerdydd
“Mae John Lewis a Phartneriaid Caerdydd yn falch o groesawu’r Wallich yn ôl am flwyddyn arall o One Knit Wonder. Rydym yn frwd dros weithio’n agos ag elusennau lleol, ac mae’n hyfryd bod mewn partneriaeth yn ystod cyfnod yr ŵyl, sy’n gallu bod yn adeg anodd i gynifer o bobl.”
Bydd yr arian a godir drwy One Knit Wonder eleni yn mynd tuag at ymgyrch Cadw’r Golau Ymlaen sydd gan yr elusen yn y gaeaf, wrth iddynt geisio codi £89,000 i ariannu’r Lloches Nos yng Nghaerdydd.
Mae Lloches Nos y Wallich ar agor 365 diwrnod y flwyddyn – gan gynnwys Dydd Nadolig – i atal 23 o bobl rhag cysgu ar y stryd bob nos.
Nid ydym yn cael digon o arian i gadw’r Lloches Nos ar agor, ac rydym yn dibynnu ar haelioni’r cyhoedd i ddod â phobl allan o’r oerni ac i le diogel a chefnogol.
Yn ôl ystadegau’r Wallich, mae nifer y bobl sydd angen gwasanaethau digartrefedd yn cynyddu. Yn 2018, bu’r Wallich yn gweithio gyda 9,562 o bobl yng Nghymru; sef 19% o gynnydd o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Gobeithio y bydd cymuned newydd o bobl sy’n gweu ac sy’n ymwybodol o ddigartrefedd yn cael ei greu drwy’r cynnyrch. Caiff cwsmeriaid eu hannog i drydar eu lluniau gan ddefnyddio’r hashnod #OneKnitWonder ac i fod yn rhan o sgwrs sy’n datblygu.