Datganiad The Wallich ar adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar farwolaethau pobl ddigartref.

20 Dec 2018

Datganiad The Wallich ar adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a ryddhawyd heddiw (20 Rhagfyr 2018), ynglŷn â marwolaethau pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr 2013-2018

Meddai Lindsay Cordery-Bruce, prif weithredwr The Wallich, prif elusen Cymru ar gyfer pobl ddigartref a rhai sy’n cysgu allan:

“Mae marwolaeth pob unigolyn sy’n profi digartrefedd yn drasiedi. Er ei bod yn ymddangos bod y nifer wedi gostwng yng Nghymru, credwn fod y nifer yn debygol o fod yn uwch nag y mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu hawgrymu.

“Dengys ffigurau’r llynedd fod 78 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi marw o hunanladdiad, a bod 190 wedi marw o achosion yn ymwneud â chyffuriau. Dyna 268 o unigolion oedd yn blant i rywun, yn rhieni i rywun neu’n blentyn, ag angen cymorth arnynt.

“Dengys yr ystadegau nad oes cynnydd mewn marwolaethau yn y gaeaf, yn wahanol i’r boblogaeth gyffredinol. Dengys hyn fod y broblem yn mynd y tu hwnt i rannu blancedi a phâr o sanau. Nid problem dros gyfnod y Nadolig yw digartrefedd, na’r gaeaf chwaith, ac nid oherwydd yr oerfel y mae pobl yn marw. Mae pobl yn marw ar hyd y flwyddyn o ganlyniad i bob math o resymau y gellid bod wedi’u hatal.

“Mae achosion y marwolaethau trasig hyn yn pwysleisio’n gryf yr angen am ddull seicolegol sy’n cael ei lywio gan drawma i gynorthwyo pobl fregus gyda phwyslais ar leihau niwed, nid troseddoli. Mae’n adeg dangos cyfeillgarwch a goddefgarwch, yn hytrach na barnu.

“Gweledigaeth The Wallich yw dod ag iechyd, cyfiawnder a thai ynghyd fel ymateb cymunedol cadarn i fater o bryder cenedlaethol. Mae angen i bob asiantaeth weithredu mewn dull sy’n cael ei lywio gan drawma a rhaid defnyddio ffordd arloesol a realistig o gynorthwyo pobl gyda phroblemau cyffuriau, gan ei bod yn amlwg nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn gweithio. Gyda Gweinidog newydd daw cyfleoedd newydd i sicrhau newid a byddem yn croesawu trafodaeth gyda Julie James AC ar y mater hwn.

“Hefyd mae angen trefn adrodd gadarnach i sicrhau ein bod yn cael darlun llawn o’r bobl y tu ôl i’r ystadegau hyn ac atebolrwydd gan y rhai sydd wedi methu â’u diogelu, i’r bobl hynny sydd ar y strydoedd nawr.”

DARLLENWCH ADRODDIAD LLAWN Y SWYDDFA YSTADEGAU GWLADOL

GWELER EIN HYSTADEGAU AR NIFER Y BOBL A WELWN YN CYSGU ALLAN YNG NGHYMRU

RHOWCH RODD I GEFNOGI EIN GWAITH

Tudalennau cysylltiedig